Holl Newyddion A–Y
'Cyfnewid' anffurfiol rhwng Cymru a Ghana
Fe gafodd Iola Mair Morris brofiad i’w gofio, diolch i’w chwrs ym Mangor. Fe fu’r ferch o’r Bala, sydd ar ei thrydedd flwyddyn ar y cwrs nyrsio anabledd dysgu, ar ymweliad pythefnos â Ghana yng ngorllewin Affrica. Hyd yn oed ym Mangor, mae Iola Morris yn gallu trafod Ghana ... mae un o fyfyrwyr yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn nyrs gofrestredig o’r wlad.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018
1000 o Fywyda +
Llongyfarchiadau i ddwy fyfyrwraig o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor, sydd wedi eu gwahodd i gyflwyno yn y Dosbarth Meistr ‘1000 o fywyda’ ar gyfer myfyrwyr ac addysgwyr ar y 10fed Mehefin yn Abertawe. Bydd y myfyrwyr yn adrodd ar brosiectau gwahanol sy’n cyfrannu tuag at wella gofal cleifion yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2013
12 Mai 2014 - DIWRNOD RHYNGWLADOL NYRSYS
Bore Coffi a Stondin lyfrau ail-law Dydd Llun, Mai y 12, 2014 am 10.30 yb- Cyntedd Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Fron Heulog Elw tuag at Prosiect Quthing Croeso i bawb! Seminar: Hyrwyddo Iechyd Mamau yn Lesotho
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2014
A all 'gofalwyr lleyg' roi mwy o gymorth ar ddiwedd oes?
Byddai'n well gan y rhan fwyaf o bobl sy'n marw gael gofal yn y cartref. Mae gweithwyr gofal iechyd yn ceisio galluogi i hynny ddigwydd. Mae project ymchwil newydd a arweinir gan Brifysgol Bangor yn archwilio un ffordd o droi hynny'n ffaith i fwy o bobl. Mae gofal yn y cartref fel arfer yn cael ei ddarparu gan Nyrsys Ardal, yn gweithio gyda nifer o aelodau tîm eraill yn cynnwys ymarferwyr, doctoriaid hosbis a nyrsys, a gwasanaethau Macmillan neu Marie Curie. Caiff aelodau'r teulu eu dysgu sut i ofalu am y sawl sy'n annwyl iddynt, ac fel arfer i alw am Nyrs Ardal os oes symptomau anodd. Wrth i bobl wanhau yn ystod wythnosau neu ddyddiau olaf eu bywyd, nid yw'n bosib iddynt lyncu. Bryd hynny, caiff gyrrwr chwistrell ei osod i roi meddyginiaethau o dan y croen dros 24 awr. Bydd hyn yn lliniaru'r rhan fwyaf o symptomau, ond gall rai symptomau amlygu a fydd angen meddyginiaeth bellach ('trech symptomau'). Yr adeg hynny bydd y teulu fel arfer yn galw'r nyrs ardal a all roi dosiau ychwanegol o feddyginiaeth drwy chwistrelliad. Serch hynny, gall hynny gymryd amser maith, yn aml dros awr. Gall yr aros achosi trallod i'r claf a'r gofalwyr, a fydd yn teimlo'n analluog i helpu. Fel arfer, ni fyddai gofal teuluol yn cynnwys rhoi chwistrelliadau ar gyfer y trech symptomau hyn, er bod hynny'n gyfreithlon ac yn ymarferol. Mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda phartneriaid ym Mhrifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth GIG Caerloyw i ymchwilio i p'un ai y dylid mabwysiadu’n ehangach yn y Dey...
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2017
Academyddion Bangor yn gwneud argraff gyda phapurau BMJ
Mae papur y mae academydd o Fangor yn gydawdur iddo wedi cael ei gyhoeddi ar glawr blaen y British Medical Journal dylanwadol, tra cafodd papur arall a gyhoeddwyd gan y BMJ yr un mis, ac a oedd yn ail-werthuso gwaith ymchwil blaenorol, sylw rhyngwladol ar y cyfryngau.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2015
Academyddion Prifysgol Bangor yn cydweithio â Brasil i fynd i'r afael â phroblemau'r byd
Mae academyddion o Brifysgol Bangor yn rhannu eu harbenigedd gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Ffederal São Paulo (UNIFESP) yn São Paulo State, Brasil, i fynd i'r afael â rhai o broblemau cymdeithasol ac amgylcheddol mwyaf dybryd Brasil.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2021
Addewid y Bwrdd Iechyd a Phrifysgol Bangor i gefnogi datblygiad nyrsys i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys 2019
Bydd gan Nyrsys a Bydwragedd ar draws Gogledd Cymru well fynediad at gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad fel rhan o addewid blwyddyn gyfan gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2019
Adroddiad Llywodraeth Cymru'n tynnu sylw at bwysigrwydd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol newydd Bangor
Yn yr adroddiad diweddar " Gwyddoniaeth i Gymru 2015-16 ", mae'r adroddiad blynyddol ar strategaeth gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru'n disgrifio lansio'r Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol (BIHMR) newydd ym Mangor yn Chwefror fel un o uchafbwyntiau'r flwyddyn. Yn yr adroddiad, dywed y Prif Ymgynghorydd Gwyddonol y bydd y sefydliad yn rhan o ddarpariaeth ymchwil gadarn i'r Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y rhagoriaeth bresennol mewn meysydd fel dementia, diagnosteg canser ac adsefydlu cleifion, a defnyddio dulliau newydd i wneud ymchwil o'r ansawdd uchaf."
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2016
Adroddiad pwysig yn canfod bylchau a gwendidau sylweddol mewn gwybodaeth iechyd i blant
Nid yw pob plentyn a pherson ifanc sydd â chyflwr iechyd cronig, neu sydd ag angen llawdriniaeth, yn cael mynediad at wybodaeth o safon uchel sy’n addas i blant i’w helpu i ddeall beth sy’n digwydd iddo/iddi. Dyna ganfyddiad allweddol astudiaeth tair blynedd a ariannwyd gan raglen Cyflenwi a Threfnu Gwasanaethau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd ac a arweiniwyd gan Brifysgolion Bangor a Chaerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2011
Angen mwy o nyrsys seiciatrig i ddelio ag argyfwng iechyd meddwl Covid
Mae rhybudd gan Sefydliad Iechyd y Byd am gynnydd aruthrol mewn achosion o iselder a achoswyd gan y pandemig wedi arwain at alw ar fwy o bobl i wneud cais i hyfforddi fel nyrsys iechyd meddwl gan un o brif ddarparwyr hyfforddiant Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2020
Angen pobl sydd wedi goroesi strôc fel cefnogwyr yn y gymuned
Mae prosiect ymchwil newydd a chyffrous, sy'n anelu at wella ansawdd bywyd pobl sydd wedi goroesi strôc, wedi cychwyn yng ngogledd Cymru. Bydd y project ‘Grym y Bobl/People Power’ yn dwyn ynghyd cleifion sydd wedi cael strôc yn ddiweddar a goroeswyr strôc i rannu profiadau a’u helpu i wella. Mae llawer o bobl sydd wedi cael strôc yn ei chael yn anodd mynd yn ôl at y math o weithgareddau teuluol a chymdeithasol oedd yn bwysig iddyn nhw cyn cael eu strôc. Mae mynd allan, ymweld â ffrindiau, neu ddod o hyd i hobïau newydd yn gallu bod yn anodd, ac yn aml mae pobl yn colli hyder i 'roi cynnig arni'.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2014
Anti Glenda a'i ffrindiau Dementia - Eisteddfod Genedlaethol Mawrth 8 Awst
Mae adnodd aml-gyfrwng a grëwyd gan ddisgyblion Ysgol Pentreuchaf i godi ymwybyddiaeth o ddementia, wedi ei ddangos am y tro cyntaf mewn cyfarfod i drafod project arloesol, Project Anti Glenda, ym Mhabell Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod bore 'ma (ddydd Mawrth 8 Awst). Mae dementia yn broblem iechyd cyhoeddus o bwys yng Nghymru ac mae'r ymchwil a'r dysgu ym Mhrifysgol Bangor wedi ei anelu at wella’r gefnogaeth i’r rhai hynny sy'n byw gyda'r cyflwr. Amcangyfrifir bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia. Gall y symptomau amrywio yn ôl y math o ddementia ond gall y cyflwr effeithio ar dasgau bob dydd, cyfathrebu, y synhwyrau a'r cof.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2017
Arbed miliynau trwy roi'r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod Cymru
Gall buddsoddi mewn rhaglenni sy'n hyrwyddo'r dechrau gorau mewn bywyd i'n babanod a'n plant arwain at arbedion ariannol yng Nghymru yn y tymor byr a'r tymor hir. Dyna yw dadl economegwyr iechyd yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau ( CHEME ) ym Mhrifysgol Bangor yn eu hadroddiad "Trawsnewid Bywydau Pobl Ifanc - y ddadl economaidd dros fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar" a lansiwyd heddiw (13 Hydref 2016).
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2016
Arbenigwr o Fangor yn cynghori ar fod yn barod ac ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus yn yr Unol Daleithiau
Mae'r gwersi a ddysgwyd o ymateb i argyfyngau iechyd cyhoeddus yn tueddu i fynd o'r cof, ac mae cyllid iechyd cyhoeddus a blaenoriaethau ymchwil yn newid. Dyna pam y galwyd ar arbenigwr o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor i ymuno ag adolygiad Academïau Gwyddorau, Peirianneg a Meddygaeth Cenedlaethol yr Unol Daleithiau o gyflwr presennol y dystiolaeth ar gyfer bod yn barod ac ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus (PHEPR) yn yr Unol Daleithiau.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2020
Arbrawf arloesol mewn gofal sy’n pontio cenedlaethau
Gyda chynnydd ym mhoblogaeth pobl hŷn, y pwysau sydd ar arian cyhoeddus a chostau gofal plant, does ryfedd bod ymchwil cynyddol i mewn i ffyrdd newydd o ddarparu gofal. Mae bron i 625,000 o bobl hŷn dros 65 mlwydd oed yng Nghymru. Darganfuwyd adroddiad diweddar gan The Family and Childcare Trust bod dros 6.4 miliwn o bobl 65 oed a throsodd ym Mhrydain yn byw mewn ardaloedd sydd ddim gyda digon o ofal pobl hŷn i ateb y galw.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2016
Archwiliad cyntaf o wytnwch iechyd meddwl ac unigrwydd pobl hŷn â nam gwybyddol yng nghymru
Mae unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin ymhlith pobl hŷn sydd â dementia neu sy'n cael anawsterau gyda'r cof, meddwl a dysgu. Ond ni fydd pob unigolyn yn cael ei effeithio yn yr un modd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2021
Archwilio economeg technoleg arbed golwg
Mae dros ddwy filiwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn colli eu golwg. Bydd hyn yn dyblu i bron bedair miliwn erbyn 2050 wrth i'r boblogaeth heneiddio ac i achosion sylfaenol megis gordewdra a diabetes gynyddu. Mae hyn yn rhoi pwysau enfawr ar wasanaethau gofal llygad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae dau ymchwilydd o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Moddion, Seow Tien Yeo a'r Athro Rhiannon Tudor Edwards, yn gyd-ymchwilwyr ar yr astudiaeth tomograffeg cydlynedd optegol a gyllidir gan raglen Dyfeisio ar gyfer Arloesi NIHR-i4i (£1.3 miliwn).
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2017
Arddangos ymchwil arloesol i ofal iechyd
Heddiw (Iau 2 Gorffennaf), ym Mhrifysgol Bangor, rhoddwyd sylw i ymchwil newydd o bwys sydd i wella gofal iechyd yng Nghymru a’r DU. Oherwydd y posibiliadau iddynt effeithio ar wasanaethau i gleifion, tri phroject penodol a gafodd flaenoriaeth, wrth i Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, ymweld â’r Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015
Arddangosfa Canser yn Arddangosfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol
el un o brif noddwyr Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan flaenllaw mewn denu plant ac oedolion i’r sioe. Mae gan y brifysgol amrywiaeth o weithgareddau yn yr arddangosfa drwy’r wythnos - yn ymwneud â phopeth o wyddoniaeth i’r plant lleiaf, gyda’r sioe boblogaidd iawn Fflach Bangor - i faterion iechyd, gan gynnwys ymchwil canser, y bwyd yr ydym yn ei fwyta a sut i wirio ‘arwyddion bywyd' yn ogystal â datgelu ychydig mwy ynghylch sut mae ein hymennydd yn gweithio.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013
Argymhellion newydd Sefydliad Iechyd y Byd: Gwneud y defnydd gorau o weithwyr iechyd trwy ailddosbarthu tasgau
Bwriad argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch gwneud y defnydd gorau o weithwyr iechyd yw mynd i'r afael â phrinder dybryd yn y gweithlu iechyd sy'n ei rwystro rhag cyrraedd Nodau Datblygu’r Mileniwm ym maes iechyd. Byddai ailddosbarthu tasgau a chyfrifoldebau’n fwy synhwyrol ymysg carfanau gweithwyr iechyd yn sicrhau bod triniaethau ar gael yn llawer haws ac yn llawer mwy cost effeithiol - gellid er enghraifft hyfforddi a galluogi gweithwyr iechyd 'lefel ganol' a 'lleyg' i gyflawni tasgau penodol sydd fel arall yn cael eu gwneud gan garfanau sydd wedi cael hyfforddiant hirach (ac weithiau hyfforddiant mwy arbenigol).
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2012
Arian i ddatblygu mwy o ymchwilwyr ym maes dementia
Mae oddeutu 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod yr afiechyd yn costio £1.4 biliwn y flwyddyn. Y ganran uchaf o’r gost yw’r gofal di-dâl a ddarperir gan deuluoedd a chyfeillion. Nid yw gwasanaethau dementia ar gael i bawb yn yr un modd, ac mae cael mynediad at y gwasanaethau drwy sectorau iechyd a gofal yn anodd i rai. Mae cludiant cyhoeddus yn wael a’r risg y bydd gofalwyr yn teimlo’n ynysig a heb gefnogaeth hefyd yn heriau arbennig mewn ardaloedd gwledig. Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wedi cael dros hanner miliwn o bunnoedd mewn cyllid i gynnal dwy Gymrodoriaeth Ymchwil mewn Ymchwil ym maes Dementia gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y Cymrodoriaethau hyn, a ariennir drwy Y mchwil Iechyd a Gofal Cymru , yw cynyddu’r gallu mewn ymchwil gofal ac iechyd drwy gefnogi unigolion i ddod yn ymchwilwyr annibynnol a chynnal projectau ymchwil o ansawdd uchel.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017
Arwain y ffordd i gyflwyno Presgripsiynau dwyieithog
Mae gwasanaeth Gymraeg neu ddwyieithog yn hanfodol ar gyfer lles cleifion Cymraeg eu hiaith yn ôl ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg. Argymhelliad sydd wedi cael sêl bendith Prif Swyddog Fferyllol Cymru yw bod rhoi labeli dwyieithog ar feddyginiaethau presgripsiwn ar gael i gleifion. Mae tîm sy’n cynnwys arbenigwyr iaith a fferyllwyr ym Mhrifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cymryd y camau cyntaf drwy gyfieithu 30 canllaw rhybuddiol sydd yn cael eu rhoi i gleifion sydd ar feddyginiaeth ar bresgripsiwn.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2016
Arweiniad i roi therapi gwybyddol wedi ei seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar (MBCT) ar waith
ASPIRE: Hygyrchedd a gweithredu rhaglen effeithiol i atal ail bwl o iselder mewn gwasanaethau yn y DU. /* Style Definitions */ table.MsoNormalTable {mso-style-name:"Table Normal"; mso-tstyle-rowband-size:0; mso-tstyle-colband-size:0; mso-style-noshow:yes; mso-style-priority:99; mso-style-parent:""; mso-padding-alt:0cm 5.4pt 0cm 5.4pt; mso-para-margin-top:0cm; mso-para-margin-right:0cm; mso-para-margin-bottom:8.0pt; mso-para-margin-left:0cm; line-height:107%; mso-pagination:widow-orphan; font-size:11.0pt; font-family:"Calibri",sans-serif; mso-ascii-font-family:Calibri; mso-ascii-theme-font:minor-latin; mso-hansi-font-family:Calibri; mso-hansi-theme-font:minor-latin;}
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2017
Asesu effeithiolrwydd adnoddau cefnogi newydd ar gyfer gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia
Mae adnodd hyfforddi a chefnogi ar-lein a ddatblygwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer teulu a ffrindiau sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia i gael ei asesu i'w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf. Mae'r project ymchwil hwn dan arweiniad Prifysgol Bangor a chaiff ei ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2020
Asesu gwerth grwpiau cefnogi dementia
New ageing and dementia research at Bangor University will soon be underway, with a team from the Bangor Institute of Health and Medical Research in the School of Health Sciences being the only university in Wales to be awarded funding as part of the ESRC-NIHR Dementia Research Initiative 2018 . This programme of work, led by partners at University College London, centres around people living with rare dementias, and will involve the first major study of the value of support groups for people living with or caring for someone with a rare form of dementia.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019
Astudiaeth ASPIRE: Gweithredu rhaglen effeithiol therapi wybyddol seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar (MBCT) mewn gwasanaethau GIG yn y Deyrnas Unedig
Roedd ASPIRE yn astudiaeth ansoddol, archwiliadol ac eglurhaol mewn dau gam a gynhaliwyd i ddisgrifio darpariaeth bresennol MBCT yn y GIG yn y DU, datblygu dealltwriaeth o gostau a manteision tybiedig gweithredu MBCT, ac archwilio ffactorau rhwystrau a llwyddiant o ran gwell hygyrchedd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2017
Astudiaeth i effaith cam-drin plant gydol oes yn ennill clod cenedlaethol
Dyfarnwyd gwobr y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) am ragoriaeth ymchwil i astudiaeth sy'n nodi sut mae plant sy'n cael eu cam-drin yn fwy tebygol o ddioddef trais yn ddiweddarach mewn bywyd.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2021
Astudiaeth newydd i asesu lefelau staffio diogel mewn wardiau ysbytai
Bydd ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn gweithio gyda Phrifysgol Southampton ar astudiaeth newydd i asesu gweithredu, effaith a chostau polisïau staffio diogel ar gyfer nyrsio mewn ymddiriedolaethau aciwt.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2016
Astudiaeth yn edrych ar nifer ymweliadau â Meddyg Teulu cyn y caiff cleifion canser eu cyfeirio at arbenigwyr
Astudiaeth yn edrych ar nifer ymweliadau â Meddyg Teulu cyn y caiff cleifion canser eu cyfeirio at arbenigwyr Mae gwybodaeth am gleifion yn dangos mai ymysg merched, pobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig a phobl gyda chanserau llai cyffredin y ceir y nifer uchaf o ymweliadau cyn-gyfeirio
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2012
Athro ymhlith ymchwilwyr mwyaf dylanwadol y byd
Mae'r Athro Jo Rycroft-Malone, Athro mewn Gwasanaethau Iechyd ac Ymchwil Weithredu yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor wedi'i gosod ymhlith ymchwilwyr mwyaf dylanwadol y byd. Un mesur arwyddocaol a phwysig o ymchwil academaidd yw pa mor aml y dyfynnir papurau ymchwil academaidd, neu y cyfeirir atynt, mewn erthyglau academaidd eraill. Mae gwaith Yr Athro Rycroft-Malone yn ymddangos ar y rhestr sydd newydd ei chyhoeddi, y ' Thompson Reuters Highly Cited Researchers 2014 ', sy'n cynrychioli meddyliau gwyddonol mwyaf blaenllaw y byd. Mae'r Athro Rycroft-Malone ymhlith dros dair mil o ymchwilwyr o bob rhan o'r byd sy'n ennill yr anrhydedd drwy ysgrifennu'r nifer fwyaf o adroddiadau. Pennwyd hyn yn swyddogol gan Essential Science Indicators℠ fel papurau y dyfynnir llawer arnynt - gan sefyll ymhlith yr 1% uchaf a ddyfynnir fwyaf am eu maes pwnc a blwyddyn cyhoeddi, a farnwyd gan gymheiriaid i fod o arwyddocâd penodol, ac ennill iddynt nod effaith eithriadol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2014
Athro yn dod yn aelod Anrhydeddus Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU
Cyflwynir aelodaeth Anrhydeddus Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU i'r Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau , Ysgolion Gwyddorau Gofal Iechyd a Gwyddorau Meddygol , mewn Seremoni Wobrwyo yng Nghynhadledd y Gyfadran ym Manceinion heddiw (2 Gorffennaf).
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2014
Baby Friendly Award i Brifysgol Bangor
Bangor University is the first university in Wales to have been awarded the prestigious Baby Friendly Award and is the latest university to gain recognition from Unicef UK for the high levels of training in breastfeeding provided to students on its midwifery course. Student midwives enrolled in the midwifery programme at Bangor University will now graduate with an extra qualification, which will save them having to complete further training when they are employed as midwives.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2018
Bangor i ffocysu ar iechyd a lles yn rhan dau o CALIN, cynllun i gefnogi arloesedd mewn gwyddoniaeth dros Gymru ac Iwerddon
Mae arbenigwyr gwyddorau bywyd o Goleg Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor am chwarae rôl allweddol mewn cynlluniau i feithrin cysylltiadau agosach byth rhwng Cymru ac Iwerddon drwy broject CALIN, y Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2021
Beth ydi’r ffordd orau o helpu plant gyda chlefyd siwgr i edrych ar ôl eu hunain?
Mae astudiaeth newydd sy’n cael ei harwain ar y cyd gan Brifysgolion Bangor a Chaerdydd, gyda thîm o arbenigwyr o bob rhan o wledydd Prydain, yn ceisio gweld beth yw’r ffordd orau o gyflwyno gwybodaeth i helpu plant a phobl ifanc gyda chlefyd siwgr math 1 i edrych ar ôl eu hunain.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011
Buddsoddi yn y gweithlu gwasanaethau iechyd i bobl hŷn - dechrau astudiaeth ymchwil bwysig
Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn arwain ar astudiaeth ymchwil bwysig a gyllidir gan Raglen Cyflenwi Gwasanaethau'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd. Mae'r project hwn yn ymchwilio i ba ymyriadau datblygu gweithlu sy'n fwy tebygol o weithio i sicrhau gweithlu cefnogi gwybodus a medrus i bobl hyn mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2013
Buddsoddiad gwerth dros 3 miliwn mewn unedau ymchwil iechyd ym Mhrifysgol Bangor
Caiff gwerth dros £3 miliwn ei fuddsoddi mewn ymchwil i ofal iechyd integredig ym Mhrifysgol Bangor dros y tair blynedd nesaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhodd o gyllid gwerth £2.3 miliwn i ariannu dau grant i'r brifysgol, a bydd y brifysgol ei hun yn buddsoddi arian cyfatebol yn un ohonynt.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2015
Bydwragedd dan hyfforddiant wedi'u hysbrydoli i godi arian i ddioddefwyr trais
Mae Tîm Ogwen yn grŵp o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n astudio bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Yn ddiweddar bu'r bydwragedd dan hyfforddiant yn gwneud project grŵp am drais yn erbyn merched a sut y gall gwahanol fathau o drais effeithio ar ferched yn ystod beichiogrwydd, esgor ac ar ôl geni.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2015
Bydwragedd yn cipio gwobrau
Mae dwy aelod staff Prifysgol Bangor wedi cipio gwobrau yng Ngwobrau Ymddiriedolaeth Bydwreigiaeth Iolanthe 2013 yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2013
Bydwreigiaeth yn cyrraedd y cam cyntaf i gael achrediad Prifysgol Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF y DU
Mae'r rhaglen Baglor mewn Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd cam cyntaf y daith i gael achrediad Prifysgol Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF y DU. Maent yn awyddus i fod y brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill achrediad llawn. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw raglenni bydwreigiaeth eraill yng Nghymru sydd wedi cael achrediad llawn Menter Cyfeillgar i Fabanod, gyda dim ond 36% o raglenni bydwreigiaeth yn y DU wedi sicrhau achrediad llawn.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2016
CYNHADLEDD MYFYRWYR YMCHWIL ÔL-RADDEDIG 2012 yn y Ganolfan Rheoli 8fed Hydref 2012 am 09:45
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2012
Canfod ffyrdd newydd o fyw gyda dementia
As the Welsh Government seeks views on its recently launched dementia strategy, Bangor University is bringing together people living with dementia, and organisations who are also working on dementia related support and research projects to share best practice in north Wales. Living with dementia in North Wales – we’re in it together , a Conference at the University on 27 January, will hear the experiences of people living with dementia, as well as those of a number of organisations providing dementia supportive programmes and conducting dementia-related research.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2017
Catrin yn ennill cystadleuaeth '1000 o fywydau'
Mae Catrin Pink, o Lanon, Ceredigion, myfyrwraig radiograffeg ar gampws yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn Wrecsam, newydd fod ar daith i gynhadledd ryngwladol yn Sweden yn wobr a enillodd ar ôl cynnig mewn cystadleuaeth gan GIG Cymru yn yr ymgyrch '1000 o fywydau'.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2016
Cefnogaeth cymheiriaid yn helpu cynyddu effeithiau llesol gweithgareddau awyr agored
Disgrifiwyd y gogledd fel 'Prifddinas Antur Ewrop' ac mae eleni'n cael ei hyrwyddo fel #blwyddynyrawyragored #yearofoutdoors, mae anogaeth inni ddathlu'r mynyddoedd, yr arfordir a chefn gwlad ac i ymgolli yn harddwch naturiol y wlad a medi'r effeithiau llesol. Mae astudiaeth newydd a chyffrous o Brifysgol Bangor yn ystyried a yw'n bosib cynyddu'r manteision llesol i rai unigolion o gael eu cefnogi gan bobl sy'n wynebu heriau tebyg, neu 'gymheiriaid'.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020
Cerddoriaeth i gysuro siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia
Erbyn hyn, gall siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia fwynhau caneuon o'u gorffennol yn Gymraeg diolch i fenter gan Brifysgol Bangor a Merched y Wawr cefnogwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu staff gofal Cymru i wella bywydau preswylwyr Cymraeg. Yn ôl pob sôn, mae hynny'n helpu i'w cysuro, eu hysgogi a dwyn i gof atgofion maen nhw wedi'u hanghofio. Fel rhan o’r fenter bydd CD a rhestr chwarae newydd o gerddoriaeth sydd wedi'i churadu'n arbennig yn cael ei dosbarthu i gartrefi gofal ar draws Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019
Chemsex and PrEP reliance are fuelling a rise in syphilis among men who have sex with men
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Simon Bishop o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch y r erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2018
Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor
Uchafbwyntiau Wythnos Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 17-21 Gorffennaf Bydd Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, gan nodi llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch hanesyddol fythgofiadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Chwech o Brifysgol Bangor yn cael eu penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mae chwe ymchwilydd ym maes iechyd a gofal cymunedol ym Mhrifysgol Bangor wedi'u penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil- Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2016
Clefyd yr Arennau a beichiogrwydd - pa gefnogaeth sydd ei angen ar ferched?
“Doeddwn i ddim yn gwybod yr hyn nad oeddwn yn ei wybod, oherwydd ni ofynnodd neb imi” Mae gan ferched lawer iawn o bethau i'w hystyried cyn beichiogi, yn ogystal â chwestiynau sydd angen eu hateb tra byddant yn feichiog. Mae tua phum mil o ferched o oedran beichiogi yng Nghymru a chyflwr arnynt sy'n effeithio ar eu harennau. Efallai fod ganddyn nhw gwestiynau ychwanegol am effaith beichiogrwydd ar glefyd yr arennau a sut y gallai clefyd yr arennau effeithio ar eu beichiogrwydd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2020
Cleifion gyda chanser y geg a chanser yr oesoffagws yn oedi mwy cyn mynd i weld eu meddyg teulu
Mae pobl gyda chanser y geg a chanser yr oesoffagws yn oedi mwy ar ôl sylwi ar eu symptomau cyn mynd i weld eu meddyg teulu o'u cymharu â chleifion gyda mathau eraill o ganser, yn ôl ymchwil* a gyhoeddwyd yn yr International Journal of Cancer , heddiw (dydd Mawrth).
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2014
Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn penodi tair o Brifysgol Bangor
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi tair myfyrwraig o Fangor yn llysgenhadon er mwyn ceisio annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i astudio trwy’r Gymraeg ar lefel addysg uwch.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2016
Combining daycare for children and elders benefits all generations
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Catrin Hedd Jones o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddio l.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2017
Coronavirus: experts in evolution explain why social distancing feels so unnatural
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Vivien Shaw o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2020
Cost profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i economïau Ewrop
Rhaid ceisio datrys y diffygion mewn cefnogaeth i blant a theuluoedd a grëwyd gan COVID-19 ar frys
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2021
Cost-effeithiolrwydd triniaethau i afiechydon niwrolegol
Yn ddiweddar, mae'r Athro Dyfrig Hughes a chydweithwyr yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd, wedi cyhoeddi canlyniadau tri threial clinigol ar ymyriadau epilepsi a seiatica.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2021
Creu claf rhithwir ‘wedi’i efelychu’n gyfrifiadurol’ er mwyn hyfforddi clinigwyr
Yn y dyfodol, os bydd arnoch angen llawdriniaeth gymhleth, bydd y llawfeddyg yn gallu paratoi a hyd yn oed ymarfer ar ei chyfer ar efelychiad rhithwir o’ch corff eich hun neu o’r rhan o’ch corff sydd angen sylw. Ar hyn o bryd, mae’r dechnoleg ar y gweill i greu ‘efelychiadau’ o’r corff cyfan er mwyn hyfforddi llawfeddygon a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes meddygaeth ar sut i ymgymryd ag amryw o driniaethau meddygol, gan ddefnyddio ‘dymïau’ rhithwir sy’n ymddangos fel pe baent yno, a hyd yn oed yn ‘teimlo’ fel pe baent yno, a hynny trwy ddefnydd graffeg gyfrifiadurol 3D, dyfeisiau haptig neu ‘adborth grym’. Mae’r Athro Nigel John o Brifysgol Bangor yn arwain yn y maes yng Nghymru o ran datblygu’r dechnoleg hon, ac yntau’n arbenigwr mewn technoleg yn yr Ysgol Gyfrifiadureg .
Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2013
Croeso i’r Caffi Marwolaeth ym Mhrifysgol Bangor
Croeso i’r Caffi Marwolaeth ym Mhrifysgol Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018
Cwmnïau fferyllol yn gwneud elw ar afiechydon prin
Mae ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Bangor yn dangos fod cwmnïau fferyllol yn ymelwa ar gymhellion a fwriadwyd i ddatblygu rhagor o driniaethau ar gyfer afiechydon prin er mwyn rhoi hwb i'w helw.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2016
Cwrs Ar-lein Enfawr Agored yr Ysgol Gwyddorau Iechyd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Nursing Times 2020
Mae Cwrs Ar-lein Enfawr Agored, neu MOOC o ddefnyddio’r enw cyffredin ar ei gyfer, a ddatblygwyd gan staff yr Ysgol Gwyddorau Iechyd , gyda Bethan Jones o'r Tîm Technoleg Dysgu ar y cyd â Tracey Cooper, Cyfarwyddwr Dros Dro Atal a Rheoli Heintiau, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Llym Swydd Gaerwrangon wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau'r Nursing Times eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2020
Cydnabod Cyfraniad Oes
Derbyniodd Gwerfyl Roberts, Uwch-Ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd , Wobr Cyfraniad Oes yn ystod Digwyddiad Dathlu Mwy na Geiriau 2017 Llywodraeth Cymru yn ddiweddar. Mae Digwyddiad Dathlu Mwy na Geiriau yn cydnabod ac yn dathlu pwysigrwydd darparu
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2017
Cydweithio i ddatblygu a gweithredu Rhaglen Nyrs Gyswllt newydd i Atal Heintiau
Sefydlwyd project newydd ar y cyd rhwng Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu rhaglen newydd i hyrwyddo arfer gorau mewn atal heintiau.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2017
Cyfarfod Iechyd a Lles
Mae'n ffaith wybyddus fod pobl gydag anableddau dysgu'n wynebu anghydraddoldeb ym maes gofal iechyd, yn dioddef oddi wrth iechyd gwaelach na'u cymheiriaid nad ydynt yn anabl, ac yn wynebu rhwystrau o ran cael mynediad amserol a phriodol at wasanaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2016
Cyflwyno Gwobr Addysgu Uchaf y DU i Darlithwyr Bangor
Mewn seremoni wobrwyo’n ddiweddar derbyniodd yr Athro James Intriligator a Peggy Murphy o Goleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad Prifysgol Bangor eu Cymrodoriaeth Dysgu Cenedlaethol am ragoriaeth mewn addysgu a chefnogi dysgu mewn addysg uwch.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2014
Cyhoeddi Gŵyl Newid Ymddygiad o bwys
Ystyrir bod newid ymddygiad yn gyfrwng hanfodol bwysig i wasanaethau cyhoeddus a sefydliadau i ymateb i'r newidiadau cyfoes cymdeithasol a demograffig sylweddol rydym yn eu gweld yng Nghymru a thu hwnt. Cynhelir Gŵyl Newid Ymddygiad (#BehFest16) bwysig am bythefnos ym Mhrifysgol Bangor rhwng 9-20 Mai. Bydd yn cyflwyno'r datblygiadau diweddaraf ym maes newid ymddygiad i unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwybod am y technegau newid ymddygiad hyn a'u rhoi ar waith er budd eu sefydliadau neu'r cyhoedd yn gyffredinol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2016
Cylchgrawn y Times Higher yn holi
Cylchgrawn y Times Higher yn ei holi'r Athro Jo Rycroft-Malone, pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, ac athro gweithredu a chyfarwyddwr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor. Ym mis Hydref bydd yn dod yn gyfarwyddwr y rhaglen gwasanaethau iechyd ac ymchwil a gynhelir gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR) - y corff cyllido mwyaf ym maes ymchwil gymhwysol i iechyd yn y Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2015
Cymdeithas Myfyrwyr Bydwreigiaeth yn llwyddiannus mewn Gwobrau Cenedlaethol
A student Society at Bangor University, which has only been in existence for five months, has won national recognition for excellence.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2015
Cymdeithas newydd i fyfyrwyr yn cystadlu am Wobr y DU
Mae Cymdeithas myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, sydd ond wedi bod mewn bodolaeth am bum mis, ar y rhestr fer i dderbyn Gwobr genedlaethol o bwys.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2015
Cymharu Gofal Iechyd a Chymdeithasol Canada a Chymru
Mae dau o ddarlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor wedi teithio i Ganada ar gyfer menter gydweithredol rhwng y Coleg, Prifysgol Bangor a Consortium national de formation en santé, Canada er mwyn ehangu gwybodaeth, datblygu partneriaeth a chodi proffil y problemau sy’n bodoli wrth ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Sharon Pierce a Ruth Wyn Williams, sy’n darlithio dan nawdd y Coleg yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor wedi derbyn nawdd trwy Gynllun Grantiau Bach y Coleg i fynychu seminar yn Ottawa rhwng 21-22 Mai.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015
Cymhwyso gwyddoniaeth!
Cynhelir Gŵyl Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor eto am y seithfed flwyddyn yn olynol ac mae croeso i bawb archwilio a thrafod gwyddoniaeth trwy sgyrsiau, gweithgareddau ymarferol, arddangosfeydd, dangosiadau - ac ni fydd raid talu i fynd i'r un ohonynt.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2017
Cymorth amhrisiadwy i fobl sydd yn byw efo dementia gan wirfoddolwyr Cruse
Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor yn gwerthuso gwasanaeth newydd i ddarparu cymorth emosiynol ar ôl diagnosis o dementia. Datblygwyd yr gwasanaeth gan Maxine Norrish yn Cruse Cymru, pobl sydd yn byw efo dementia mewn partneriaeth â Chymdeithas Alzheimer Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2021
Cymrodoriaeth Gwyddoniaeth i edrych ar Welliant
Mae Dr Chris Burton o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor wedi derbyn Cymrodoriaeth glodfawr gan y Sefydliad Iechyd. Bydd y grant yn cefnogi ei ymchwil am dair blynedd, ac yn ei alluogi i ymchwilio i sut mae sefydliadau iechyd yn gwella'r gwasanaeth maent yn eu darparu - yn arbennig pan ddaw i gydweithio gyda chleifion a'r cyhoedd, a'r mathau o anfanteision a llwyddiannau a brofir.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2013
Cymrodyr ymchwil newydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Prifysgol Bangor yn darparu tri allan o’r saith cymrawd ymchwil newydd a fydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o raglen sy’n rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau addysg uwch a senedd Cymru. Bydd yr academyddion o Ysgolion y Gyfraith, Gwyddorau Iechyd a Gwyddorau Naturiol yn rhannu eu harbenigedd ar faterion o bwys mawr a fydd yn bwydo’n uniongyrchol i waith y Cynulliad a’i bwyllgorau. Mae hyn yn arwain o gyfraniad Prifysgol Bangor i’r peilot llwyddiannus .
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2019
Cymru i lansio gwasanaeth arloesol ar gyfer ymchwil i ddementia
Heddiw (2/7/15), lensir gwasanaeth cenedlaethol, ar-lein ac ar y ffôn, sy’n helpu pobl i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil dementia. Mae J oin Dementia Research yn addo cyflymu’r broses o ymchwilio i ddementia yng Nghymru, gan roi cyfle i bobl â dementia a hebddo gofrestru eu diddordeb mewn astudiaethau, a helpu ymchwilwyr i ganfod y cyfranogwyr iawn ar yr adeg iawn. Bydd Mark Drakeford, Gweinidog Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn rhoi’r cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Chanolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru (CDGD/DSDC) ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015
Cyn Beiriannydd yn y Llynges yn graddio mewn Nyrsio
Ar ôl symud allan o'r cartref teuluol a'i rentu am 3 blynedd i dalu am addysg uwch, bydd myfyriwr o Brifysgol Bangor yn graddio'r wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Cynhadledd Arddangos Ymchwil Iechyd a Meddygol
Ochr yn ochr â'r rhaglen wyddonol, cyflwynodd Sefydliad Gogledd Cymru ar gyfer Hap-dreialon Iechyd raglen yn canolbwyntio ar yr isadeiledd ymchwil sydd ar gael eisoes yn y rhanbarth. Mae hwn yn cynnig cefnogaeth sylweddol a phwysig i ymchwil iechyd a meddygol, o gefnogaeth i ddatblygu treialon i gyfleusterau ymchwil craidd yn y prifysgolion a chyfleoedd masnachol drwy gyfleusterau newydd, megis Parc Gwyddoniaeth Menai.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2015
Cynrychiolaeth dda o fyfyrwyr o Gymru yng Ngwasanaeth Coffa Florence Nightingale
Yn ddiweddar cymerodd chwe myfyriwr o Brifysgol Bangor ran mewn gwasanaeth seremonïol yn Abaty Westminster.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015
Cynrychiolwyr rhyngwladol yn cael eu denu i Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Prifysgol Bangor
Daeth cynrychiolwyr o gyn belled â Chanada, Qatar, yr Eidal a Denmarc i ysgol haf ymchwil breswyl Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cynllun peilot Cymrodoriaethau Academaidd gyda Phrifysgol Bangor
Mae dau academydd o Brifysgol Bangor i rannu eu harbenigedd i alluogi Aelodau'r Cynulliad i ddatblygu polisi ac ymarfer er budd pobl Cymru. Bydd Dr Alexandra Plows o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor, a Dr Catrin Hedd Jones o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd , yn treulio amser yn gweithio ar brojectau penodol gyda Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, dan Gymrodoriaethau Academaidd newydd sy'n cael eu peilotio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017
Dagrau a chwerthin wrth i'r hen a'r ifanc rannu profiadau
Dros y misoedd diwethaf, mewn canolfannau gofal ar draws Cymru, mae arbrawf cymdeithasol arloesol wedi digwydd - a bydd y canlyniadau'n siŵr o syfrdanu. Mewn cyfres newydd o dair rhaglen emosiynol ar S4C, sy'n dechrau nos Sul, 10 Rhagfyr, mae Hen Blant Bach yn ymchwilio i beth all ddigwydd pan mae chwech o blant bach yn rhannu eu gofal dydd gyda chriw o bensiynwyr - a'r effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017
Darlith Gyhoeddus ar Iechyd a Lles, Cyfres Tri: ymchwil diweddaraf ar anableddau dysgu
ANABLEDDAU DYSGU 6.00 pm - 7.00 pm Yr Athro Richard Hastings Families of individuals with learning disability and autism Egwyl 7.00 pm - 7.30pm 7.30 pm - 8.30 pm
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2013
Darlithwyr Prifysgol Bangor yn Ennill Gwobr Addysgu Uchaf y DU
Mae’r Athro James Intriligator a Peggy Murphy o Brifysgol Bangor wedi cael eu gwneud yn Gymrodyr Dysgu Cenedlaethol . Hon yw’r wobr bwysicaf y gellir ei hennill am ragoriaeth mewn addysgu a chefnogi dysgu mewn addysg uwch.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2014
Datblygu nyrsio anabledd dysgu - adroddiad cynhadledd
Dan arweiniad Liz Gouveia a Lois Wiggins, myfyrwyr nyrsio anabledd dysgu o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor cynhaliwyd gweithdy yng nghynhadledd DU ac Iwerddon 'Byw'r Ymrwymiad' yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2017
Datganiad ar y cyd ynglŷn â myfyrwyr bydwreigiaeth yn dychwelyd i'r gwasanaeth bydwreigiaeth yn Ysbyty Glan Clwyd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor yn cydnabod bod rhagoriaeth yn addysg a hyfforddiant bydwragedd yn bwysig am ddau reswm allweddol. Yn gyntaf, byddwn yn sicrhau gweithlu bydwreigiaeth at y dyfodol. Yn ail, gall darparu lleoliadau ar gyfer myfyrwyr bydwreigiaeth gyfrannu at y diwylliant cyffredinol o ddysgu a datblygu o fewn gwasanaethau bydwreigiaeth. Yn 2015, tynnwyd myfyrwyr bydwreigiaeth yn ôl dros dro o'r gwasanaeth bydwreigiaeth yn Ysbyty Glan Clwyd yn dilyn pryderon a godwyd gan fudd-ddeiliaid. Rydym wedi ymrwymo i ddychwelyd myfyrwyr bydwreigiaeth i'r gwasanaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2017
Dathlu Bydwraig y dyfodol
The 'My Future, My Midwife' celebration event held recently in Cardiff was to celebrate the launch of the new future standard. This aims to equip future midwives with the knowledge and skills they need to help provide the safest and best care for the women, babies and families in our care.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2020
Dathlu Ugain Mlynedd o Addysg Nyrsio Iechyd Meddwl Ragorol ym Mhrifysgol Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2016
Dathlu cyfraniadau eithriadol i addysgu a dysgu
Cyflwynwyd Cymrodoriaethau Addysgu yn y Coleg Gwyddorau Dynol eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2021
Dathlu rhagoriaeth nyrsio yng ngogledd Cymru
Rhoddwyd cydnabyddiaeth i ragoriaeth nyrsio yng ngogledd Cymru yn ddiweddar yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru 2015. Roedd tri chynrychiolydd o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer mewn tri categori.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2015
Dau fyfyriwr o Fangor ar restr fer Gwobrau'r Student Nursing Times
Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor yn hynod falch bod dwy fyfyrwraig, Abigail Sinnett a Francesca Elner, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau'r Student Nursing Times 2016. Mae Abigail yn un o naw myfyriwr bydwreigiaeth o'r Deyrnas Unedig sydd yng nghategori Myfyriwr Bydwreigiaeth y Flwyddyn. Mae Francesca yn un o ddeg myfyriwr nyrsio o'r Deyrnas Unedig sydd yng nghategori Myfyriwr Nyrsio'r Flwyddyn: Oedolion.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2016
Dechrau ar ddarn bwysig o waith ymchwil gwellha iechyd
Dechreuwyd ar ddarn newydd o ymchwil pwysig am y ffyrdd gorau o gynnwys barn cleifion a defnyddwyr gwasanaeth i wella'r Gwasanaeth Iechyd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2013
Dementia a heriau i’r synhwyrau - Gall dementia effeithio mwy na’r cof
Mae Catrin Hedd Jones, darlithydd ac ymchwilydd yn yr Ysgol gwyddorau Iechyd ac aelod o Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Cymru, wedi gweithio gydag arbenigwr blaenllaw yng Nghymru ac aelodau o Merched y Wawr i gyfieithu a diweddaru'r llyfryn Dementia & Sensory Challenges – Dementia can be more than Memory i gefnogi codi ymwybyddiaeth am yr heriau i’r synhwyrau i [rai] pobl sy'n byw â dementia trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mawrth 2021
Dementia: gall y label "salwch" wneud i bobl fod yn isel eu hysbryd
Bu pobl yng ngogledd Cymru yn cymryd rhan mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac sy'n dangos bod pobl sy'n ystyried symptomau dementia fel salwch yn teimlo'n fwy negyddol na'r rhai sy'n ei weld fel rhan annatod o fynd yn hŷn.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2016
Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda ni
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2024
Dewis yr Athro Jane Noyes yn Gymrawd Academi Nyrsio America
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi bod yr Athro Jane Noyes, wedi'i dewis i fod yn Gymrawd Academi Nyrsio America (Academi).
Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2021
Different types of alcohol elicit different emotional responses
Nid yw'r datganiad i'r wasg gan BMJ OPEN ar gael yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017
Digwyddiad Dathlu Sgyrsiau Creadigol
Yn ddiweddar, bu Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, a'r awdur enwog John Killick, yn dathlu eu project diweddaraf yn cefnogi pobl sydd â dementia - Sgyrsiau Creadigol. Arweiniwyd y project gan Dr Kat Algar-Skaife o'r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ( DSDC ) Cymru, yng Ngholeg Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor a chafodd ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2018
Dim ond awr o ryngweithio cymdeithasol bob wythnos yn gwella gofal dementia
Mae cael dim ond awr yr wythnos yn ychwanegol o ryngweithio cymdeithasol i bobl gyda dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal yn gwella ansawdd bywyd, pan gyfunir hynny â gofal personol. Cyfrannodd Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor at arbrawf ar lefel eang a arweiniwyd gan Brifysgol Exeter, King’s College, Llundain a'r Oxford Health NHS Foundation Trust. Daeth i'r amlwg bod y dull gweithredu hwn hefyd yn arbed arian.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2018
Dioddefodd mwy nag wyth o bob deg dyn yn y carchar drallod yn ystod plentyndod – adroddiad newydd
Trallod yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â mwy o amser yn y carchar, troseddu treisgar a hanes o amser mewn sefydliadau troseddwyr ifanc Mae carcharorion gwrywaidd yn llawer mwy tebygol na dynion yn y boblogaeth ehangach o fod wedi dioddef trallod yn ystod plentyndod fel camarfer plant neu fyw mewn cartref gyda thrais domestig, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu y gallai camau ataliol ac ymyrraeth gynnar i fynd i'r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) atal troseddu a lleihau costau ar gyfer y system cyfiawnder troseddol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2019
Disgyblion yn cael blas ar fywyd Prifysgol
Profodd bron i hanner cant o fyfyrwyr o ysgolion a cholegau ledled gogledd Cymru fywyd prifysgol drostynt eu hunain ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018
Diweddariad eira- Campws Wrecsam
Ni fydd ein campws yn Wrecsam, gan gynnwys y Llyfrgell, ar agor ddydd Llun oherwydd yr eira. Bydd ar agor fel arfer dydd Mawrth. Mae’r Brifysgol ym Mangor ar agor fel arfer.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2017
Dod â bwrlwm Bangor i Brifwyl y Bae
Unwaith eto eleni, bydd staff Prifysgol Bangor yn cyfrannu â’u harbenigeddau at nifer o weithgareddau craidd ac ymylol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cael ei chynnal yn ardal Caerdydd rhwng 3 - 11 Awst.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2018
Dosbarth meistr ar gyfer myfyrwyr nyrsio anableddau dysgu
Croesawyd Mark Gray, sy’n nyrs anabledd dysgu ac yn ymgynghorydd ym maes anabledd a golwg i ddiwrnod ‘Cymuned Ymarfer Anabledd Dysgu’ yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2018
Dros 60 oed ac ar-lein: Adroddiad newydd ar iechyd y boblogaeth yn canfod bod pobl hŷn yng Nghymru yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol
Mae pobl dros 60 oed yng Nghymru ar-lein ac yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol, a gall hyn fod yn offeryn pwysig yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd. Mae 77 allan o pob 100 o bobl yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn yn defnyddio un neu fwy o gyfryngau cymdeithasol. Mae 65 o blith y 100 yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol bob dydd. Daw'r canfyddiadau hyn o adroddiad newydd: Iechyd y Boblogaeth mewn Oes Ddigidol: Patrymau yn y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru g an Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor a gyhoeddir heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2020
Dull gwell o adrodd am ymchwil a fydd yn gwella gofal cleifion
Gallai cleifion gael gofal a chanlyniadau gwell yn sgil canllawiau newydd ar adrodd am ymchwil a ddatblygwyd o astudiaeth a gyfrannodd ymchwilwyr o Brifysgol Bangor ati. Mae arbenigwyr wedi datblygu dull sy'n hwyluso’r broses o adrodd am ganfyddiadau gwahanol astudiaethau ansoddol megis gwybodaeth a gasglwyd o gyfweliadau â chleifion a grwpiau ffocws. Mae'r astudiaeth wedi arwain at lunio’r canllawiau cyntaf wedi’u teilwra ar gyfer adrodd ar y fethodoleg hon, a elwir yn feta-ethnograffeg. Bydd yn rhoi mwy o hyder i ymchwilwyr a phenaethiaid gofal iechyd yng nghanfyddiadau astudiaethau ansoddol ac, yn y pen draw, yn helpu i wella gofal cleifion a gwasanaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2019
Dweud eich dweud, a helpu i ffurfio degawd nesaf iechyd a llesiant yng Nghymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) eisiau clywed eich barn am yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru i helpu pobl i osgoi salwch corfforol a meddyliol. Gwneir y gwaith hyn ar y cyd efo Prifysgol Bangor. Mae pawb yng Nghymru’n cael eu hannog i ymweld â www.staywellinwales.com i ddweud beth sy’n bwysig iddyn nhw, eu ffrindiau a’u cymunedau, a’r hyn fydd, yn eu barn nhw, yn helpu pobl i fyw bywydau iachach, hapusach a hwy.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2017
Dwy o Brifysgol Bangor ar Restr Fer Gwobrau Merched Cymru
Mae dwy o Brifysgol Bangor wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau newydd Gwobrau Merched Cymru 2019. Mae Clare Wilkinson a Debbie Roberts, ill dwy o Ysgol Gwyddorau Iechyd y Brifysgol, wedi eu gosod ar y rhestr fer am eu Gwasanaethau i Addysg.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019
Dwy wobr RCBC glodwiw i Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor
Mae'n bleser gan Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor bod Robert Goldsmith, Ffisiotherapydd Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol wedi'i leoli yng Nghaerdydd, a Patricia Masterson-Algar, ymchwilydd ôl-radd ym maes adsefydlu yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor, ill dau wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu cyllid RCBC Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2017
Dyfarnu Aur i Fangor
Mae safon Aur wedi ei dyfarnu i Brifysgol Bangor yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon. Mae’r fframwaith yn asesu prifysgolion yn erbyn amrediad o feini prawf ac mae’n rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i godi safonau mewn addysg uwch. Mae hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sydd yn penderfynu pa brifysgol i fynd iddi, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017
Dyfarnu Gwobr am Wasanaethau i Ofal Iechyd Dwyieithog
Mae project i roi labeli rhybudd Cymraeg ar feddyginiaethau wedi ennill y wobr am Wasanaethau i Ofal Iechyd Dwyieithog yng Ngwobrau Cyrhaeddiad cyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Y partneriaid yn y project oedd Uned Dechnolegau Iaith (UTI) Canolfan Bedwyr a Chanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor, ar y cyd gyda fferyllwyr Ysbyty Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2016
Economegwyr Iechyd o Brifysgol Bangor ymhlith yr ymchwilwyr iechyd gorau yng Nghymru
Mae'r Athro Rhiannon Tudor Edwards a'r Athro Dyfrig Hughes, o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginia ethau ym Mhrifysgol Bangor wedi eu enwi fel dau o'r 15 Uwch Arweinydd Ymchwil a gyhoeddwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn eu cystadleuaeth agored 2018.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2019
Efelychu Rhyngbroffesiynol
Bu myfyrwyr maes plant a radiograffeg y drydedd flwyddyn yn cymryd rhan mewn ymarferiad efelychu rhyngbroffesiynol cyntaf yr ysgol. Gwnaed yr efelychu'n bosib ar ôl prynu offer efelychu maes plant newydd o ansawdd da ac fe'i cynhaliwyd yn ystafell Pelydr-X yr adran radioleg yng Nghampws Wrecsam.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2019
Effaith ymchwil i arthritis rhiwmatoid wedi'i gydnabod yn yr Unol Daleithiau
Cafodd papur a ysgrifennwyd gan yr Athro Andrew Lemmey (Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer) o'r enw “Tight control of disease activity fails to improve body composition or physical function in rheumatoid arthritis patients” ei ddyfarnu fel yr erthygl fwyaf poblogaidd am arthritis rhiwmatoid yn 2016 gan Rheumatology Advisor (newyddlen wythnosol yn yr Unol Daleithiau sy'n dewis y goreuon a chrynhoi erthyglau o'r holl brif gyfnodolion rhiwmatoleg rhyngwladol). Mae hyn yn dilyn canmoliaeth arall gan y newyddlen ym mis Mehefin ar ôl ei ddewis fel y papur mwyaf diddorol yn y wasg ar gyfer podlediad.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2017
Eisteddfod brysur arall i Brifysgol Bangor yn Eisteddfod Llanrwst 2019
Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn cymryd rhan flaenllaw eto eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst. Yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm y Maes, bydd rhaglen lawn o weithgareddau hefyd ar stondin y brifysgol ar y Maes eto eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019
Ennill Gwobr Myfyriwr Nyrsio Anabledd Dysgu y Flwyddyn mewn Gwobrau Cenedlaethol
Unwaith eto, mae myfyriwr o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi ennill un o brif wobrau'r Gwobrau Myfyrwyr Nursing Times a gynhelir bob blwyddyn. Mae Kate Young yn canlyn llwyddiant myfyrwyr eraill o Fangor a enillodd gategorïau yn y gorffennol. Eleni, enillodd Kate wobr Myfyriwr Nyrsio Anabledd Dysgu y flwyddyn yng Ngwobrau Myfyrwyr y Nursing Times 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2019
Esboniad ar y paradocs niwed alcohol
Mae ymchwil newydd gan broject cydweithredol sy’n cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Liverpool John Moores ac Alcohol Research UK yn esbonio pam mae pobl mewn cymunedau difreintiedig yn dioddef lefelau uwch o salwch sy'n gysylltiedig ag alcohol na phobl mewn cymunedau nad ydynt yn ddifreintiedig, er eu bod yn yfed yr un faint o alcohol – y paradocs alcohol niwed.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2016
Exercise: we calculated its true value for older people and society
Dyma erthygl yn Saesneg gan Carys Jones, Cymrawd Ymchwil gyda'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2020
Ffilm Nyrsio Anabledd Dysgu wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru
Mae ffilm i hyrwyddo nyrsio anabledd dysgu a gomisiynwyd gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru ac a gynhyrchwyd gan Hijinx wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru yn y categori Celfyddydau, Busnes ac Iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2020
Ffisiotherapyddion Cyntaf Prifysgol Bangor yn cyrraedd y gweithle
Mae’r myfyrwyr ffisiotherapi cyntaf i astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi graddio ac maent ar fin dechrau gweithio fel ffisiotherapyddion gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac mewn mannau eraill yn y Gwasanaeth Iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Chwefror 2022
Ffisiotherapyddion cyntaf Cymru i gael rhoi presgripsiwn
Mae pedwar ffisiotherapydd sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dod y rhai cyntaf ymysg eu proffesiwn yng Nghymru i gael rhoi moddion ar bresgripsiwn i'w cleifion, yn union fel y byddai meddyg teulu'n ei wneud.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Medi 2014
Full-time PhD Studentship
Tâl blynyddol: £14,000 y flwyddyn a ddarperir gan Drapers ; telir y ffioedd goruchwylio gan y Brifysgol PhD tair blynedd llawn-amser yn canolbwyntio ar: Ailddarganfod tosturi a chydymdeimlad yn y gweithlu nyrsio: integreiddio estheteg i addysg a hyfforddiant nyrsio er mwyn gwella arferion gofal dementia.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2014
Fy Nghwest am Yrfa fy Mreuddwydion
Gan Gracious M. Ali ( MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd -2017/18)
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2018
Gall y celfyddydau wella'r berthynas rhwng staff gofal dementia a phreswylwyr cartrefi gofal
Dangoswyd bod y celfyddydau yn cadarnhau sgiliau a hyder staff gofal dementia, gan alluogi cyfnewid ystyrlon gyda phreswylwyr a all fod yn greadigol, 'yn y foment', yn ddigymell ac yn fyrfyfyr. Arweiniodd partneriaeth rhwng Canolfan Ymchwil DSDC Cymru Prifysgol Bangor (y grŵp ymchwil o Heneiddio a Dementia @ Bangor yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ), Dementia Positive , Ymgynghoriaeth TenFiveTen a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint at sefydlu project ymchwil 18 mis a ddatblygodd a rhoi prawf ar Sgyrsiau Creadigol, rhaglen datblygu staff wedi'i seilio ar y celfyddydau ar gyfer gweithlu gofal dementia.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2019
Getting Welsh GPs to act more quickly on cancer symptoms
A research project at Bangor University will look at early cancer diagnosis - a priority area for the Welsh Government, as late presentation of cancer is thought to significantly contribute to the relatively poor survival of Welsh cancer patients compared to the rest of the UK. The award had been made to Professor Richard Neal from the University's North Wales Centre for Primary Care Research , himself a practicing G.P and a world-leader in the field of early cancer diagnosis.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2016
Gofal Iechyd Darbodus - Bangor yn ymchwilio i ffyrdd o gynorthwyo Llywodraeth Cymru
Ymwelodd dirprwyaeth o Lywodraeth Cymru â Phrifysgol Bangor i ymweld â Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru (WCBC) a thrafod agenda Gofal Iechyd Darbodus y llywodraeth. Mae Canolfan Newid Ymddygiad Cymru ar hyn o bryd yn ysgrifennu pennod ar gyfer yr e-lyfr Gofal Iechyd Darbodus ( prudenthealthcare.org.uk ) er mwyn cynorthwyo i ledaenu gwybodaeth am wyddor newid ymddygiad ym maes gofal iechyd darbodus.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2014
Gofalwr penderfynol yn graddio am yr ail dro gyda balchder
Mae gofalu am berthynas mewn oed wrth weithio'n rhan-amser yn dipyn o dasg, ond mae gwneud hyn wrth astudio am radd yr un pryd yn go arbennig. Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi llwyddo, er gwaethaf pob disgwyl, i weithio, gofalu ac astudio, ac mae'n graddio'r wythnos hon. Mae Emyr Williams, 50, o ogledd Cymru, wedi graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf BN (Anrh) mewn Nyrsio Iechyd Meddwl , ac mae eisoes wedi cael y swydd yr oedd arno'i heisiau.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2015
Grŵp cyntaf o raddedigion Nyrsio PGDip llwybr carlam dwy flynedd yn ymuno â gweithlu nyrsio Cymru
Mae'r garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio cyn-gofrestru ôl-radd o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor wedi graddio a chofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fel nyrsys oedolion.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2020
Gwaith hyfforddi ym maes dementia yn cael sylw mewn rhaglen ddogfen
Mae'r gwaith a wnaed i gefnogi a hyfforddi gofalwyr pobl â dementia, a gynhaliwyd gan Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor yn cael sylw ar raglen Dementia: Making a Difference ar BBC 2 Wales heno (24.5.12) am 22.00
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2012
Gwasanaeth Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi papur briffio newydd gan academydd Prifysgol Bangor
Mae Gwasanaeth Ymchwil Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi papur briffio newydd ar Addysg a Gofal Plant Cynnar (ECEC) gan Dr David Dallimore o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd. Y papur briffio hwn yw'r cyntaf mewn cyfres o dri, gan ddarparu canllaw cyflym i addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC). Mae'n cyflwyno'r cysyniad o ECEC, yn gosod tystiolaeth ar gyfer gwahanol ymagweddau at ECEC ac yn cysylltu hyn â pholisi cyfredol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2019
Gweinidog yn clywed am addysg ac ymchwil ym maes iechyd
Bu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar i glywed am y datblygiadau diweddaraf yn ymwneud ag ymchwil y Brifysgol ym maes iechyd, addysg nyrsys a chysylltiadau â'r GIG.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2014
Gweithio ar y cyd i helpu i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol
Ar ddechrau Tachwedd 2012, cafodd y prosiect ei lansio yn Y Rhyl a Wrecsam a gwelwyd y manteision yn syth. Mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu bod llai o alwadau wedi'u gwneud i ystafell reoli'r heddlu o'r ardaloedd sy’n rhan o’r prosiect. Meddai Arolygydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yr Heddlu, Michael Isaacs: “Mae’n bwysig iawn ein bod yn defnyddio ein hadnoddau i dargedu'r materion hynny sy’n achosi’r pryder mwyaf i gymunedau Gogledd Cymru ac mae’n galonogol clywed bod y cyhoedd wedi bod yn dweud wrthym yn barod eu bod yn gweld gwelliant yn eu cymdogaethau.”
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2013
Gwelwyd bod rhwystrau sylweddol yn atal diagnosis prydlon o ddementia a mynediad at gefnogaeth ôl-ddiagnostig mewn pum gwlad yn Ewrop
Yn ôl adroddiad a gyflwynwyd heddiw yn Senedd Ewrop mae rhwystrau arwyddocaol sy'n atal diagnosis prydlon o’r clefyd Alzheimer wedi'u gweld ledled Ewrop. Cynhaliwyd yr astudiaeth, a ariennir gan Alzheimer Europe, mewn pum gwlad dan arweiniad yr Athro Bob Woods o Goleg Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor. Dyma oedd canfyddiadau'r astudiaeth:
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2018
Gwobr Genedlaethol i Nesta
Yn ddiweddar bu i fyfyrwraig doethuriaeth o Brifysgol Bangor ennill gwobr genedlaethol yng Nghynhadledd Flynyddol Prif Swyddog Nyrsio Cymru yng Nghaerdydd. Bu i Nesta Roberts, 25 oed, o Gricieth, ennill ysgoloriaeth goffa nyrsio flynyddol Alun Islwyn Giles. Rhoddwyd y wobr tuag at ei hastudiaeth doethuriaeth, ac mae ar gyfer aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, i hyrwyddo datblygu celf a gwyddoniaeth mewn nyrsio.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2013
Gwobr Nyrs y Frenhines i Ddalithydd o Fangor
Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobr glodfawr am ei chyfraniad i nyrsio yn y gymuned.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2016
Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Bangor 2016
Mae Prifysgol Bangor am ddathlu rhagoriaeth yr ymchwil a gynhyrchir gan y Brifysgol mewn noson Wobrwyo newydd i’w chynnal yn y Brifysgol fis Rhagfyr, a newydd gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer y Gwobrau. Bydd y Gwobrau newydd yn rhoi sylw haeddiannol i ymchwilwyr unigol a thimau ymchwil neilltuol y Brifysgol. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod Noson Wobrwyo sydd i’w chynnal yn Pontio, nos Lun Rhagfyr 5 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016
Gwyliwch y bwlch: Gwahaniaethau mewn agweddau at iechyd a gwella iechyd ar draws y gymdeithas yng Nghymru
Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn amlygu gwahaniaethau amlwg o ran barn sy'n ymwneud ag iechyd rhwng pobl yng Nghymru yn dibynnu ar eu hoedran a'u cyflogaeth, a sut y maent yn byw eu bywydau. Roedd pobl a ddywedodd eu bod yn teimlo'n iach yn fwy tebygol o gytuno (59 y cant) y dylai'r GIG wario llai ar drin salwch a mwy ar ei atal na'r rhai a ddywedodd eu bod yn teimlo'n llai iach (46 y cant) - a allai deimlo mwy o angen am driniaeth iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2019
Hen Blant Bach ar restr fer gwobrau rhyngwladol Ffilm a Theledu
Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth gyrraedd rownd derfynol Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018. Mae Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, wedi’i henwebu yng nghategori Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2018
Hen Blant Bach yn ennill Gwobr Arian mewn Gŵyl Ffilm a Theledu Ryngwladol
Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth ennill Gwobr Arian yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd , a gynhaliwyd yn ddiweddar. Enilllodd Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, y Wobr Arian yng nghategori rhaglen ddogfen Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2018
Hwb i Brifysgol Bangor ar ddechrau tymor newydd
Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor wedi derbyn hwb sylweddol yn sgil buddsoddiad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol . Mae’r brifysgol wedi penodi pum darlithydd trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg i weithio ym meysydd Seicoleg , y Gyfraith , Cyfrifiadureg , Nyrsio a Gofal Iechyd a Chyfrifeg .
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2013
Hwb mawr i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o fethodolegwyr treialon
Mae partneriaeth i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o fethodolegwyr treialon wedi cael cyllid gan y Cyngor Ymchwil Meddygol trwy eu cystadleuaeth Doctoral Training Partnership (DTP).
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2021
Hyfforddiant Nyrsio yng Ngogledd Cymru
Yn dilyn adolygiad o Addysg Gofal Iechyd Anfeddygol yng Nghymru, a phroses dendro ddilynol, mae cais Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor i ddarparu addysg nyrsio i israddedigion yng Ngogledd Cymru wedi bod yn llwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2013
Iechyd da i'r gwyliau
Mae gofyn i bobl beth maent yn ei yfed ar wyliau ac achlysuron arbennig eraill yn dangos bod oddeutu 12 miliwn yn fwy o boteli o win yr wythnos yn cael eu hyfed yn Lloegr nag y tybiwyd yn flaenorol. Nid yw'r arolygon blaenorol ar faint o alcohol a yfir wedi rhoi ystyriaeth i'r holl alcohol a werthir. Ymddengys bod ymchwil a ariannwyd gan Alcohol Research UK ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn mynediad agored BMC Medicine, wedi cael hyd i'r 'unedau coll' hyn. Hefyd, mae erthygl yn y Saesneg, " England's missing booze: 12 million more bottles drunk per week than previously thought " wedi ei gyhoeddi ar The Conversation heddiw gan Mark Bellis, Prifysgol Bangor a Christine Griffith, University of Bath. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2015
Investing in warmer housing could save the NHS billions
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Nathan Bray , Swyddog Ymchwil Mewn Economeg Iechyd, Eira Winrow , Myfyrwraig ymchwil PhD a Swyddog Cefnogi Project Ymchwil, a Rhiannon Tudor Edwards , Athro Economeg Iechyd, i gyd o Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2017
Laniswch eich gyrfa fel Nyrs Gofrestredig (Oedolion)
Yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd rydym yn cyfuno y safon uchaf o addysgu gyda phrofiad ymarferol a perthnasol. Mae gennym ychydig o leoedd ar ôl i fyfyrwyr ddechrau ar ein rhaglen BN (Anrhydedd) Nyrsio Oedolion ar 7fed Ebrill 2014, yng Nghampws Archimedes Wrecsam y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2014
Lansio Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor
Ddydd Iau, 25 Chwefror 2016, mae Prifysgol Bangor yn lansio'r Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol newydd. Gan adeiladu ar sylfaen gadarn o ragoriaeth ymchwil bydd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) yn hwyluso ymchwil fwy rhyngddisgyblaethol sy'n pontio darganfyddiadau yn y labordy ymlaen i ymchwil sy'n datrys problemau iechyd cymhleth yn y byd go iawn. Yn y ffordd hon bydd BIMHR yn cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol yn ogystal a chael effaith ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig, ac yn rhyngwladol
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2016
Lefelau goroesi canser isel yn y Deyrnas Gyfunol yn gysylltiedig ag oedi wrth gyfeirio cleifion am brofion
Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru yn Wrecsam newydd gwblhau eu rhan mewn astudiaeth fanwl newydd ar ganser a allai ddangos ffyrdd o wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2015
Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr radiograffeg blwyddyn olaf sydd i gyd wedi llwyddo i gael swyddi - cyn iddynt sefyll eu holl arholiadau terfynol!
Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn hynod falch o roi gwybod bod ein holl fyfyrwyr radiograffeg blwyddyn olaf wedi llwyddo i gael swyddi.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015
Llwybr arall cyffrous i Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Bangor
Gyda ffisiotherapyddion yn aml yn brin, mae rheolwyr gwasanaeth ffisiotherapi a darpar fyfyrwyr yng Nghymru wedi dangos diddordeb cryf yn natblygiad llwybr carlam 2 flynedd cyn-gofrestru wedi'i anelu at ymgeiswyr graddedig. Ystyrir y math hwn o raglen yn ddull gwahanol cyffrous o fynd i'r proffesiwn yn hytrach na'r llwybr arferol i israddedigion.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2019
Llwybr newydd yn arwain at yrfa mewn nyrsio
Rhaglen Diploma Ôl-radd mewn Nyrsio Oedolion gan Brifysgol Bangor yw'r cwrs cyntaf o'i fath yng ngogledd Cymru. Mae'n cynnig llwybr carlam dwy flynedd i raddedigion diweddar ym maes gwyddor bywyd a gwyddorau cymdeithas allu cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2018
Llwyddiant Dwbl i nyrsys yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd
Mae’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn hynod o falch fod Sefydliad Florence Nightingale wedi dyfarnu dwy o’i ysgoloriaethau i’n nyrsys ni yng Ngogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2015
Llwyddiant myfyrwyr nyrsio: Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg
Llongyfarchiadau i un ar ddeg o fyfyrwyr nyrsio am lwyddo i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg a ddyfarnwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2018
Llywodraeth Cymru i archwilio cynigion ar gyfer ysgol feddygol yn y Gogledd
Health Minister, Vaughan Gething, has set-up a group to examine the feasibility of a North Wales medical school. The Welsh Government is already providing £7m a year to fund undergraduate medical training in North Wales and is now looking to explore a proposal by Bangor University and Betsi Cadwaladr University Health Board for a new medical school.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2020
Logo newydd i NWORTH wrth i'r uned treialon clinigol barhau i dyfu
Sefydliad Hap-dreialon Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru (NWORTH) yw'r Uned Treialon Clinigol yng Ngogledd Cymru sydd wedi'i chofrestru ag UKCRC (#23).
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2018
MSc newydd mewn Astudiaethau Dementia yn tynnu ar arbenigedd academaidd a chlinigol
Mae datblygu MSc newydd mewn Astudiaethau Dementia yn y flwyddyn academaidd hon yn cynnig cyfle cyffrous i staff clinigol sy'n ymwneud â gofal dementia, yn y gymuned ac mewn ysbytai ar draws Gogledd Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Fe'i datblygwyd drwy waith partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, BCUHB a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r MSc mewn Astudiaethau Dementia yn dechrau o safbwynt pobl sy'n byw gyda dementia ac yn archwilio meysydd arfer clinigol ac ymchwil o’r safbwynt hwn trwy gydol y cwrs, gan graffu ar faterion pwysig sy'n wynebu pobl sy'n byw gyda dementia a'r dulliau gorau o ddarparu gofal rhagorol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2016
Mae Jade Parsons, myfyriwr bydwreigiaeth, wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer am wobr myfyriwr bydwreigiaeth y flwyddyn y British Journal of Midwifery Practice Awards 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ionawr 2019
Mae awr o gymdeithasu pob wythnos mewn gofal dementia yn gwella bywydau ac yn arbed arian
Gall cyfuniad o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a dim ond awr yr wythnos o ryngweithio cymdeithasol wella ansawdd bywyd a lleihau aniddigrwydd pobl â dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal, ac arbed arian hefyd. Cyflwynwyd canfyddiadau treial ar raddfa fawr yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Alzheimer (AAIC) 2017 yn ddiweddar. Cafodd yr ymchwil ei arwain gan Brifysgol Caerwysg, King’s College, Llundain a'r Oxford Health NHS Foundation Trust, gyda chyfranogiad Prifysgol Bangor, ac ariannwyd yr ymchwil gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR).
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017
Mae myfyrwyr bodlon i’w cael ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i aros yn safle 14 ym Mhrydain, ac mae’r Brifysgol yn ail yng Nghymru mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr ( Times Higher Education Student Experience Survey 2015 ).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2016
Mae nyrsio ym Mhrifysgol Bangor yn mynd o nerth i nerth, ond bydd nifer cyfyngedig o leoedd ar gael yn ystod y broses glirio.
Mae'r Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn tablau cynghrair prifysgolion yn ddiweddar tra mae'r campws yn Wrecsam yn parhau i elwa o fuddsoddiad pellach. Roedd yr ysgol hefyd yn falch iawn o'r cynnydd sylweddol yn nifer y lleoedd i fyfyrwyr a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, sy'n golygu bod gan ei chyrsiau rhagorol, ar gampws Bangor a Wrecsam, leoedd ychwanegol ar gyfer mynediad ym mis Medi 2016 a mis Ebrill 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2016
Mae pobl Cymru am weld rhagor yn cael ei wneud i atal salwch a gwella eu hiechyd - hyd yn oed os yw'n golygu gwario llai ar ofal iechyd
Mae 53 y cant o bobl yng Nghymru yn cytuno y dylai mwy o arian gael ei wario ar atal salwch a llai ar ei drin. Dim ond 15 y cant a anghytunodd. Canfu arolwg Cadw'n Iach yng Nghymru , a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, fod gan y cyhoedd yng Nghymru yn gryf o blaid rhagor o reoleiddio ac ymyrryd iechyd cyhoeddus.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2018
Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynyddu'r risg o salwch meddwl, ond gall cymorth cymunedol gynnig diogelwch
Mae pobl sydd wedi dioddef cam-drin, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod (ACEs) fel byw gyda thrais domestig yn ystod eu plentyndod yn wynebu risg uwch o lawer o salwch meddwl drwy gydol eu hoes. Cafodd canfyddiadau o astudiaeth genedlaethol newydd ledled Cymru fod oedolion a oedd wedi dioddef pedwar neu fwy o fathau o ACE bron 10 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi teimlo eu bod eisiau lladd eu hunain neu wedi hunan-niweidio o gymharu â'r rhai nad oedd wedi cael unrhyw brofiadau ACE.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2018
Mae traean o bobl yng Nghymru yn defnyddio technoleg ddigidol i wneud hunan-ddiagnosis
Mae mwy na thraean o bobl yng Nghymru (34 y cant) yn defnyddio technoleg ddigidol i wneud hunan-ddiagnosis o gyflyrau iechyd, er mai dim ond 14 y cant sy'n gwneud apwyntiad gofal iechyd ar-lein. Daw'r canfyddiadau hyn o arolwg newydd - Iechyd y Boblogaeth Mewn Oes Ddigidol - gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor , sy'n trafod sut y mae pobl yng Nghymru yn defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi a monitro eu hiechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2019
Mae ymyriadau yn y gweithle yn gwella iechyd a boddhad yn y gwaith yn gyffredinol yn ôl adroddiadau'r staff eu hunain
AMae adroddiad gan Brifysgol Bangor yn tynnu sylw at y ffaith bod rhoi amser â thâl i'r staff gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn effeithiol, mae'r staff yn ei weld yn beth cadarnhaol, ac mae'n arwain at newidiadau cadarnhaol yn iechyd pobl.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2020
Mae'r garfan gyntaf o fyfyrwyr Ffisiotherapi PGDip yn cychwyn ar eu cwrs ym Mangor heddiw
Gyda phrinder ffisiotherapyddion yn aml, mae rheolwyr gwasanaeth ffisiotherapi a darpar fyfyrwyr yng Nghymru wedi croesawu datblygiad llwybr newydd i bobl gymhwyso fel ffisiotherapyddion.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2020
Mam i chwech yn gwireddu ei breuddwyd o fod yn nyrs ugain mlynedd ar ôl dechrau
Mae mam i chwech o blant wedi gwireddu ei breuddwyd o fod yn nyrs 20 mlynedd ar ôl iddi roi'r gorau i'w chwrs i gael babi - ac wedi goresgyn heriau'r pandemig coronafeirws ar yr un pryd.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2020
Mwy o ddefnydd o wasanaethau gofal iechyd yn ystod bywyd oedolyn yn gysylltiedig â phlentyndod trawmatig
Gall profi cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol fel plentyn, neu straen arall fel byw mewn cartref a effeithir gan drais yn y cartref, cam-drin sylweddau neu salwch meddwl, arwain at ddefnydd uwch o'r gwasanaethau iechyd fel oedolyn. Mae papur ymchwil yn y Journal of Health Service Research & Policy (doi) yn cynnig, am y tro cyntaf, dystiolaeth ystadegol sy'n dangos beth bynnag fo dosbarth cymdeithasol-economaidd neu ddemograffeg arall, mae pobl sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn defnyddio mwy o wasanaethau iechyd a meddygol yn ystod eu bywyd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2017
Mwyafrif o blaid marw â chymorth
Mae ymchwil rhyngwladol newydd yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl a atebodd gwestiynau am hunanladdiad â chymorth o blaid hynny. Mae hyn i’r gwrthwyneb i’r adolygiad ymchwil diweddar sy’n awgrymu bod meddygon y DU yn gyson yn gwrthwynebu ewthanasia. Casglwyd y canlyniadau o farn dros 62,000 o bobl a oedd yn ymateb i nifer fawr o bapurau ymchwil ar y pwnc o wahanol wledydd. Mae’r canlyniadau’n dangos am y tro cyntaf bod gan bobl o wahanol gefndiroedd a phrofiadau safbwynt tebyg iawn am y pwnc.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2012
Myfyriwr Nyrsio Oedolion yn cael ei derbyn ar Raglen #150Leaders fawreddog Cyngor y Deoniaid Iechyd
Nod Rhaglen Arweinyddiaeth Myfyrwyr Cyngor y Deoniaid Iechyd (a ariennir yn rhannol gan Ymddiriedolaeth Nyrsio Burdett) ac a elwir yn eang fel #150Leaders, yw hyrwyddo a datblygu sgiliau arwain ymhlith myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2021
Myfyriwr iechyd yn gwella bywydau pobl fregus drwy Therapi Celf
Credir mai project a wneir gan fyfyriwr nyrsio ym Mhrifysgol Bangor yw'r cyntaf ym maes therapi celf.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2016
Myfyriwr nyrsio anabledd dysgu am wirfoddoli yn Ghana
Ar 28 ain o Awst, 2017 bydd Iola Mair Morris myfyriwr nyrsio Anableddau Dysgu yn ei ail flwyddyn yn mynd i Ghana i wirfoddoli am bythefnos. Mae’r prosiect yn gofalu am bobl a phlant ag anabledd dysgu gyda chyfle i wirfoddoli mewn cartref i blant amddifad, ysgolion ac ysbytai.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017
Myfyriwr nyrsio anabledd dysgu yn gwirfoddoli yn Rwmania
Mae Yenita Singer, myfyriwr blwyddyn gyntaf nyrsio anabledd dysgu, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor; wedi bod yn llwyddiannus i gael y cyfle i wirfoddoli dros yr haf ym Mhrosiect Oltenia, Rwmania gyda The LIFE Foundation. Dyma'r ail myfyrwyr nyrsio anabledd dysgu o Fangor i wirfoddoli ym Mhrosiect Oltenia. Fe fuodd Lyndsey Hughes yn Rwmania ar ddiwedd ei thrydedd flwyddyn o’r cwrs nyrsio anabledd dysgu yn Awst 2016. Mae'r Lyndsey, erbyn hyn yn nyrs anabledd dysgu cofrestredig yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac wedi cyfarfod â Yenita i rannu ei phrofi
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2017
Myfyriwr nyrsio ym Mangor yn cyrraedd rhestr fer gwobr ryngwladol
Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn falch o gyhoeddi bod Robson Sengwe (myfyriwr nyrsio 3ydd blwyddyn yng Nghampws Wrecsam Prifysgol Bangor) wedi cyrraedd rhestr fer rownd derfynol Gwobrau Student Nursing Times 2017 am gyfraniad eithriadol i faterion myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2017
Myfyriwr yn gwneud gwahaniaeth gydag ymgyrch dros fitamin hanfodol
Mae ymgyrch myfyriwr doethurol o Brifysgol Bangor i sicrhau bod fitamin B12 chwistrelladwy ar gael dros y cownter mewn fferyllfeydd wedi cael sylw yn araith Jane Hunt AS yn ystod dadl yn Neuadd Westminster.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2021
Myfyriwr yn paratoi i gystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd
Mae myfyriwr o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn edrych ymlaen at gynrychioli Ynys Môn mewn cystadleuaeth rhwng ynysoedd y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2015
Myfyriwr Ôl-radd yn ennill gwobr o fri ar ôl graddio ddwywaith
“Rhyfeddol” ac “ysbrydoledig” yw’r rhai o’r geiriau sydd wedi’u defnyddio i ddisgrifio dyn o Gonwy ar ôl iddo droi gofalu am ei fam yn waith llawn amser; gan ailhyfforddi a graddio am yr eildro.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2016
Myfyrwraig Bydwreigiaeth o'r drydedd flwyddyn yn derbyn gwobr cydnabyddiaeth arbennig.
Mae Jade Parsons, myfyrwraig BM Bydwreigiaeth wedi derbyn gwobr cydnabyddiaeth arbennig yng ngwobrau MaMa yn Glasgow.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2019
Myfyrwraig Nyrsio Ddawnus yn Graddio
Ar ô l gwaith caled a dyfalbarhad, bydd myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor yn graddio gyda gradd dosbarth cyntaf Baglor Nyrsio - Anableddau Dysgu yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Myfyrwraig Nyrsio yn derbyn Tystysgrif Sgiliau yn yr Iaith Gymraeg gyda rhagoriaeth
Yn ystod derbyniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yr wythnos ddiwethaf cyflwynwyd Tystysgrif Sgiliau yn yr Iaith Gymraeg gyda rhagoriaeth i Elain Fôn Jones, myfyriwr ail flwyddyn sy'n astudio nyrsio rhai ag anableddau dysgu.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2015
Myfyrwraig nyrsio wedi ei henwebu am wobr
Mae Francesca Elner wedi cael ei henwebu ac wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dewis yr Is-Lywydd fel cynrychiolydd cwrs myfyrwyr Nyrsio Oedolion yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd. Nododd Undeb y Myfyrwyr bod Francesca wedi dangos ymroddiad tu hwnt i'r galw, gyda chyfraniad arbennig yn ennyn cyfranogiad myfyrwyr wrth lobïo dros newid, ac yn adrodd yn ôl i Undeb y Myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2015
Myfyrwraig o Fangor ar restr fer Gwobr Nyrs y Flwyddyn
Mae Stephanie Morris, myfyrwraig yn yr Y sgol Gwyddorau Gofal Iechyd i'w llongyfarch ar gyrraedd rownd derfynol Gwobr Nyrs dan Hyfforddiant y Flwyddyn, y Coleg Nyrsio Brenhinol .
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2016
Myfyrwraig o Fangor yn ennill Gwobr Nyrs y Flwyddyn
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi ennill Gwobr o bwys sydd yn dathlu ei llwyddiannau neilltuol a’i phroffesiynoldeb Stephanie Morris, myfyrwraig Nyrsio Oedolion yn ei thrydedd flwyddyn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yw Nyrs dan Hyfforddiant y Flwyddyn 2016, y Coleg Nyrsio Brenhinol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2016
Myfyrwyr Bangor yn cael llwyddiant yn seremoni gyntaf Gwobrau Nyrs y Flwyddyn
Mae dau fyfyriwr o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobrau yng Nghaerdydd yn ddiweddar yn y seremoni gyntaf Nyrs y Flwyddyn i’w chynnal gan y Coleg Nyrsio Brenhinol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2013
Myfyrwyr Bydwreigiaeth yn mynd i'r afael â thrais yn erbyn merched
Midwifery students from Bangor University’s School of Healthcare Sciences recently presented a poster at the Maternity, Midwifery and Baby Forum conference in London.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2016
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dod yn 'Ffrindiau Dementia' cyn yr Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia
Ddydd Llun 8 Mai 2017 rhoddodd Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor wahoddiad i Theresa Davies i gyflwyno sesiwn Ffrindiau Dementia i ddosbarth o nyrsys yn Wrecsam.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2017
Myfyrwyr a staff Bangor ar y rhestr fer yng Ngwobrau 2019 y Student Nursing Times
Two students and two lecturers in Bangor University’s highly ranked School of Health Sciences have been shortlisted in several of this year’s Student Nursing Times Awards.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2019
Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eu cefnogaeth i'r brifysgol unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac wedi gosod y brifysgol yn wythfed ymysg prifysgolion anarbenigol y DU ac yn ail ymysg prifysgolion Cymru. Daw'r newyddion yn fuan ar ôl i'r brifysgol ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd llywodraeth y DU, yr unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017
Myfyrwyr nyrsio hael yn lledaenu hwyl yr ŵyl i gleifion ar ward adsefydlu
Mae myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn dod â hwyl Nadoligaidd ychwanegol i gleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae myfyrwyr nyrsio o'r ail flwyddyn, Ceri Davies, Kate Topple a Fern Williams, ynghyd â'u darlithydd Angela Williams wedi llenwi bocsys esgidiau â nwyddau Nadoligaidd i gleifion ar wardiau Bedwen, Onnen ac ENT.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2016
Myfyrwyr nyrsio hael yn paratoi i ledaenu hwyl y Nadolig i gleifion Wrecsam
Bydd myfyrwyr nyrsio Prifysgol Bangor yn dod â hwyl Nadoligaidd ychwanegol i gleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam eto eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2017
Myfyrwyr sy'n wirfoddolwyr yn helpu i godi calonnau cleifion iechyd meddwl
Mae unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn cael eu cefnogi yn ystod eu hadferiad diolch i ymdrechion grŵp ymroddgar o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2018
New study calculates alcohol cancer risk in cigarette equivalents to help communicate risk
Mae’r Athro Mark Bellis o’r Coleg Gwyddorau Dynol wedi bod yn ymwneud ag ymchwil sydd yn cael llawer o sylw ar y cyfryngau heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2019
Newid y Polisïau Rhoddi Gwaed
Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi cyfrannu at newid y polisïau sy'n ymwneud â Rhoddi Gwaed.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2020
Ni ddylai newid hinsawdd effeithio ar ddileu malaria i bob pwrpas
Mae economegwyr iechyd wedi cael peth newyddion da wrth wynebu newid hinsawdd. Mae astudiaeth i economeg iechyd yn ymwneud â threchu malaria mewn gwledydd lle mae'r haint bron wedi'i ddileu yn dangos na fydd newid hinsawdd yn cael cymaint o effaith â hynny ar y broses ac na ddylai atal sefydliadau iechyd rhag parhau i gryfhau eu dulliau dileu presennol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2015
Nid yw pympiau inswlin o fawr werth yn hytrach na phigiadau lluosog yn achos plant yn y flwyddyn gyntaf ar ôl iddynt gael diagnosis Diabetes Math 1
Arweiniodd Dr Colin Ridyard a'r Athro Dyfrig Hughes o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) y dadansoddiad economaidd iechyd o astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar a oedd yn ymchwilio i weld a oedd inswlin a roddir gan ddefnyddio pympiau arllwysiad yn fwy effeithiol a chost-effeithiol na defnyddio pigiadau mewn babanod, plant a phobl ifanc a oedd newydd gael eu diagnosio â diabetes math I.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2018
Nursing Lecturer (Welsh-medium) Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Darlithydd Nyrsio (cyfrwng Cymraeg) Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2013
Nyrs ‘Gofalgar’ yn Ysbyty Gwynedd wedi helpu wyres i ffarwelio â’i thaid am y tro olaf drwy alwad ffôn rhithiol
Mae myfyriwr nyrsio wedi cael ei chanmol am ei gofal a’i thosturi ar ôl iddi drefnu galwad ffôn rhithiol i ganiatáu i wyres ffarwelio â’i thaid.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2021
OPSWISE – Gwella gofal i bobl hŷn
Mae astudiaeth gan Brifysgol Bangor wedi rhoi golwg newydd ar sut mae gwasanaethau iechyd ar gyfer pobl hŷn yn cael eu cynnal.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016
O’r Fainc at Ymyl y Gwely a Thu Hwnt
Cafodd Prifysgol Bangor ganmoliaeth fawr wrth lansio ei sefydliad newydd arloesol ddydd Iau (25 Chwefror). Bydd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor yn cynnal y gwaith ardderchog y mae Bangor eisoes yn ei wneud o ran ymchwil iechyd a meddygol ac yn ymestyn arno drwy ddwyn ynghyd academyddion o fri o ystod eang o feysydd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2016
Pa wahaniaeth y mae seibiant yn ei wneud: gweledigaeth ar gyfer dyfodol seibiannau byr i ofalwyr di-dâl yng Nghymru
Cyhoeddwyd adroddiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer dyfodol seibiannau byr i ofalwyr di-dâl yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2021
Parafeddyg Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ennill Cymrodoriaeth PhD o fri!
Llongyfarchiadau i Christopher Evans ar ennill Cymrodoriaeth Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (RCBC) ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2016
Partneriaeth newydd ar gyfer myfyrwyr cynghori
Mae Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai a'r Gwasanaeth Cychwynnol Cynghori Iechyd Meddwl (PMHCS), sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yn ffurfio partneriaeth newydd gyffrous, gan weithio gyda'i gilydd i gefnogi myfyrwyr Cynghori MSc.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2017
Partneriaethau Iechyd i ddysgu, hyfforddi a darparu cefnogaeth ymarferol i weithwyr iechyd yn Lesotho
Bydd yr Ysgol Gwyddorau Iechyd yn anfon staff allweddol gydag arbenigedd mewn trefnu, rheoli ac arwain ym maes gofal iechyd i Lesotho. Mae’r Brifysgol yn cydweithio efo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru ar broject a gyllidir gan yr Adran Datblygiad Rhyngwladol (DiFD) drwy Gynllun Partneriaethau Iechyd yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2015
Penodi Athro mewn Gwasanaethau Iechyd ac Ymchwil Weithredu yn Gyfarwyddwr newydd Rhaglen Gwasanaethau Iechyd a Chyflawni Ymchwil yr NIHR
Penodwyd Yr Athro Jo Rycroft-Malone, o Brifysgol Bangor yn gyfarwyddwr Rhaglen Ymchwil Gwasanaethau a Chyflawni Iechyd y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil i Iechyd. Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR) yw'r corff cyllido mwyaf ar gyfer ymchwil gymhwysol i iechyd yn y Deyrnas Unedig. Bydd yr Athro Rycroft Malone yn dilyn yr Athro Ray Fitzpatrick pan fydd yntau'n camu i lawr o'i swydd yn arwain y rhaglen HS&DR ddiwedd mis Hydref 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2014
Penodi Llysgenhadon Addysg Uwch newydd i’r Coleg Cymraeg o Brifysgol Bangor
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi pump llysgennad newydd ar gyfer 2021 o Brifysgol Bangor i rannu ‘Sŵn y Stiwdants’ ac annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2021
Penodi Llysgenhadon newydd i’r Coleg Cymraeg
Mae’r Coleg Cymraeg wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2020 er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mae’r 23 llysgennad wedi’u lleoli mewn chwe prifysgol ledled Cymru gan gynnwys pum ohonynt ym Mhrifysgol Bangor. Bydd Tegwen Bruce-Deans and Aled Siôn Storey Pritchard, o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a Katy Williams a Briall Gwilym o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn dechrau ar eu gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy’r flwyddyn a bydd Elan Duggan yn parhau am flwyddyn arall.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2020
Penodiad NICE
Yn ddiweddar penodwyd Yr Athro Jo Rycroft-Malone o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor yn gadeirydd newydd Grŵp Strategaeth Weithredu’r National Institute for Health and Clinical Excellence (NICE).
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2012
Penodiad Polisi Iechyd ym Mhrifysgol Bangor
Fe fydd modd astudio Polisi Iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gwyddor Cymdeithas, Prifysgol Bangor o fis Hydref eleni yn dilyn penodi’r Dr. Myfanwy Davies yn ddarlithydd yno. Bydd hyn yn gyfrwng i ymestyn y ddarpariaeth bresennol ac yn sail i gynlluniau ymchwil mewn meysydd gwirioneddol arloesol a pherthnasol i’n cyfnod ni.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2011
Penodi’r Athro Jo Rycroft-Malone yn Aelod Annibynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae’r Athror Jo Rycroft-Malone o Brifysgol Bangor wedi ei phenodi fel aelod annibynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr .
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2014
Pobl hŷn yn helpu tyfu economi Cymru
Mae mwy a mwy o bobl dros eu 65 oed yn byw ac yn gweithio yng Nghymru heddiw, ac mae eu cyfraniad at economi Cymru’n tyfu. Dyna mae economegwyr iechyd Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor yn ei ddweud yn eu hadroddiad Byw yn iach yn hirach: y ddadl economaidd dros fuddsoddi ym maes iechyd a lles pobl hŷn yng Nghymru heddiw (30 Gorffennaf 2018).
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2018
Pobl sydd â dementia yn elwa o therapi cysylltiedig â nod
Mae naw deg o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr o bob cwr o ogledd Cymru, wedi cyfrannu at ganfyddiadau ymchwil newydd sydd wedi dangos bod therapi adferiad gwybyddol personol yn gallu helpu pobl â dementia cynnar i wella'n sylweddol eu gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thasgau bob dydd pwysig. Roedd y treial ar raddfa fawr, a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Alzheimer (AAIC) 2017 ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf, wedi canfod bod adferiad gwybyddol yn arwain at bobl yn gweld cynnydd boddhaol mewn meysydd fel y gallant barhau i weithredu a chadw eu hannibyniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017
Poorer children priced out of learning instruments but school music programmes benefit the wider community
Dyma erthygl yn Saesneg gan Eira Winrow, Myfyrwraig PhD a Swyddog Cefnogi Ymchwil a Rhiannon Tudor Edwards, Athro Economeg Iechyd yng Nghalonfal Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2018
Preventable trauma in childhood costs North America and Europe $1.3 trillion a year
Datganiad rhyngwladol uniaith Saesneg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid oes cyfieithiad ar gael.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2019
Prifysgol Bangor i gynnig tair rhaglen gofal iechyd newydd o 2022
Bydd Prifysgol Bangor yn ehangu ei rhaglenni israddedig mewn pynciau sy'n gysylltiedig â meddygaeth ac iechyd, gan ategu cynlluniau uchelgeisiol i sefydlu ysgol feddygol newydd ar gyfer Gogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2021
Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn
Fel prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.Mae manylion a newyddion ynghylch holl weithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod i’w gael ar safle gwe: www.bangor.ac.uk/eisteddfod
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017
Prifysgol Bangor yn Lansio Academi Dysgu Dwys ALPHAcademy
Mae Prifysgol Bangor heddiw (20.4.21) yn lansio Academi Dysgu Dwys (ILA) -ALPHAcademy- a fydd yn gyrru newidiadau mewn gofal iechyd byd-eang. Wedi ei gyhoeddi heddiw gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ac o dan arweiniaeth prifysgolion Bangor ac Abertawe, mae cyfanswm o dair academi.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2021
Prifysgol Bangor yn Nhablau Pynciau 10 Uchaf y DU
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos ymhlith y deg prifysgol orau yn y DU am chwe phwnc a gaiff eu dysgu yma, yn ôl The Complete University Guide ar gyfer 2019. Mae'r Brifysgol ymysg y prifysgolion ym Mhrydain sydd â sgor uchel wedi ei nodi ar gyfer Boddhad Myfyrwyr, ac yn ymddangos yn drydydd yn nhabl Prifysgolion Cymru sy’n ymddangos, gan sicrhau safle cyfartal 62 yn y gynghrair gyntaf o’i bath sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy’n cynnwys pob prifysgol yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2018
Prifysgol Bangor yn cyfrannu at Ganolfan newydd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (Canolfan PRIME Cymru)
Mae Prifysgol Bangor, ochr yn ochr â'i phrifysgolion partner, Caerdydd, Abertawe a De Cymru, wedi derbyn £3.6M ar gyfer 'Canolfan PRIME Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys'.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2015
Prifysgol Bangor yn derbyn cyllid i adeiladu seilwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol 2018-2020
Mae Grwpiau Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) wedi derbyn symiau sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2017
Prifysgol Bangor yn gwneud gwahaniaeth mewn gofal iechyd yn yr iaith Gymraeg
Mae gwaith arloesol i ymestyn a gwella'r defnydd o'r iaith Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael ei gydnabod gyda Phrifysgol Bangor yn ennill gwobrau Gwireddu'r Geiriau mewn dau gategori. Cyflwynwyd y gwobrau yng Nghynhadledd a Gwobrau'r Iaith Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Mae'r Gwobrau yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y sectorau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn arbennig wrth ddelio â chleifion, eu teuluoedd a'r cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2015
Prifysgol Bangor yn hyfforddi 170 o staff gofal dwys ychwanegol i ymladd y pandemig
A 170-strong team of nursing staff have been trained to work in critical care units across North Wales and save as many lives as possible during the Covid-19 pandemic.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2020
Prifysgol Bangor yn lansio Canolfan Gwerth Cymdeithasol newydd
Ddydd Mawrth, 11 Mehefin, bydd Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor yn lansio Canolfan Gwerth Cymdeithasol newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2019
Project celfyddydau enfawr yn newid canfyddiadau mewn cartrefi gofal yng Nghymru
Mae project celf cyfranogol sy'n cynnwys 122 o gartrefi gofal ar draws Cymru (bron 20% o'r cyfanswm) wedi dod â newidiadau sylfaenol iawn i'r ffordd mae staff yn edrych ar rai o'u preswylwyr mwyaf bregus. Dyna oedd un o ddarganfyddiadau allweddol gwerthusiad o broject cARTrefu Age Cymru a gyflwynwyd i weinidogion ac Aelodau Cynulliad mewn dathliad arbennig yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth 10 Hydref 2017).
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2017
Project cerddoriaeth Codi’r To yn dod â harmoni i’r cartref a gwerth cymdeithasol i ysgolion a chymunedau
Mae arfarniad economeg o werth Sistema Cymru - Codi’r To , menter gerddorol mewn dwy ysgol yng Ngwynedd, yn datgelu bod gwerth y project yn ymestyn ymhell tu hwnt chwarae offeryn cerddorol, ac wedi arwain at well harmoni i nifer o’r cartrefi a fu’n cymryd rhan. Rhoddodd y dadansoddiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau (SROI) a gynhaliwyd gan Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor (CHEME), gwerthoedd ariannol yn erbyn pob agwedd ar fuddiannau gweithgareddau Codi’r To gyda disgyblion mewn dwy Ysgol yng Ngwynedd a chanfod bod bob £1 a wariwyd yn creu gwerth cymdeithasol cyfwerth a £6.69.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2018
Prosiect 'Bydd Yfory yn Ddiwrnod Da' yn gweld gwaith celf y cyhoedd yn cael ei arddangos mewn ysbytai lleol
Yn ystod y cyfnodau clo yn sgil y pandemig, gwnaed cannoedd o galonnau tecstilau hardd gan y cyhoedd ar gyfer cleifion Covid-19 a'u teuluoedd a'u hanfon i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2021
Prynu nwyddau gofal iechyd mewn modd moesegol
Cyfrannodd yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd at y Pythefnos Masnach Deg drwy gynnal seminar a arweiniwyd gan Lucy Bryning sy’n ymchwilydd yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) a Jude Field sy’n ddarlithydd mewn bydwreigiaeth ac yn aelod o Grŵp Llywio Masnach Deg y brifysgol. Roedd y seminar yn canolbwyntio ar ystyriaethau moesegol cynhyrchu a chaffael deunyddiau meddygol, megis offer llawfeddygol, tecstiliau a menig archwilio ar gyfer y GIG.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2017
Pynciau Prifysgol Bangor ymhlith y gorau yn y byd
Mae dadansoddiad sydd newydd ei gyhoeddi o dablau cynghrair diweddaraf QS World University Rankings bellach yn darparu gwybodaeth am safleoedd gwahanol bynciau ym mhrifysgolion gorau’r byd. Mae Prifysgol Bangor wedi llamu 60 safle yn uwch i safle 411 yn fyd-eang yn y tablau dylanwadol hyn. Mae chwe phwnc ac un maes pynciol ym Mhrifysgol Bangor i’w gweld ymhlith prifysgolion gorau’r byd yn nhabl cynghrair yn ôl pynciau QS World University Rankings. Mae Amaethyddiaeth a Choedwigaeth i’w gweld ymhlith y 100 sefydliad gorau ledled y byd sy’n dysgu’r pwnc gan godi o fod ymhlith y 200 gorau'r llynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2017
REF 2014: Safon eithriadol ymchwil iechyd ym Mhrifysgol Bangor
Mae Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd wedi croesawu canlyniadau REF 2014, lle barnwyd bod 95% o ymchwil yn ymwneud ag iechyd ym Mhrifysgol Bangor o safon gyda'r orau yn y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
Recognise & Respond; Safer Care & Detecting Deterioration
Ar 20 Medi 2017 cynhaliodd Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor gynhadledd ryngweithiol ar gyfer nyrsys plant o bob rhan o Ogledd Cymru a Lloegr.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2017
Rhannu gwybodaeth er budd iechyd cleifion
Fel rhan o fenter newydd, mae pobl sydd yn defnyddio ysbyty cymunedol yn Nolgellau, Gwynedd yn dod i wybod am elusennau a all eu cefnogi, neu ddarparu gwybodaeth ychwanegol am eu cyflwr.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2021
Rhestr Fer Gwobr Student Nursing Times
Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor yn hynod falch bod un o'n myfyrwyr bydwreigiaeth, Jonathan Cliffe, wedi cyrraedd rhestr fer rownd derfynol Gwobrau Student Nursing Times 2015. Mae Jonathan yn un o saith myfyriwr bydwreigiaeth o bob cwr o’r Deyrnas Unedig sydd yng nghategori Myfyriwr Bydwreigiaeth y Flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2015
Sefydliad Ymchwil BIHMR yn cael ei harddangos yn y seremoni wobrwyo gyntaf dan arweiniad ymchwilwyr ECR
Ddydd Iau 3 Hydref 2019 cyflwynodd rhwydwaith Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa ac Ymchwilwyr Profiadol (ECR) Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) eu seremoni wobrwyo gyntaf dan arweiniad ymchwilwyr am gefnogaeth ymchwil, a hynny yng nghynhadledd ECR y Sefydliad, a gynhaliwyd gan yr Ysgol Gwyddorau Iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2019
Sicrhau mynediad at Gerddoriaeth Cymraeg ar gyfer pobl sydd yn byw gyda dementia
Mae gwrando ar eich hoff fiwsig yn codi’ch calon, waeth be fo’ch oed. Dyna pam mae Prifysgol Bangor a Mudiad Merched y Wawr yn lansio apêl ar Ddiwrnod Miwsig Cymru, i bobl gysylltu gyda’u hawgrymiadau o’u hoff ganeuon o bob cyfnod. Bydd yr awgrymiadau mwyaf poblogaidd yn cael eu coladu er mwyn creu CD ac adnodd digidol a fydd ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim, ac yn cael ei rannu â chartrefi henoed a chartrefi gofal dementia er mwyn sicrhau bod cerddoriaeth Cymraeg ar gael i’r preswylwyr ei fwynhau.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019
Staff a myfyrwyr yn cael ras Dreigiau i godi arian i Hosbis Dewi Sant!
Cafodd yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ddiwrnod gwych pan gynhaliwyd yr Her Cychod Draig Hosbis Dewi Sant ar Lyn Padarn yn Llanberis. Roedd 22 o dimau yn cystadlu yn yr her a oedd yn cynnwys dau dîm o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, sef un tîm staff ac un tîm myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2017
Staff academaidd yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae pedwar aelod staff academaidd o Brifysgol Bangor wedi cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2015
Swydd Athro newydd yn ymgorffori’r gweithio ar y cyd sydd rhwng Prifysgol a Bwrdd Iechyd
Mae Debbie Roberts yn teimlo ei bod mewn sefyllfa dda i gael effaith ar addysg nyrsio, ac i ddylanwadu ar ofal cleifion, wedi iddi dderbyn Cadair Astudiaethau Nyrsio Sylfaenol ( Foundation of Nursing Studies / FoNS) mewn Dysgu Practis (Practice Learning), yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2017
Swydd Athro newydd yn ymgorffori’r gweithio ar y cyd sydd rhwng Prifysgol a Bwrdd Iechyd
Mae Debbie Roberts yn teimlo ei bod mewn sefyllfa dda i gael effaith ar addysg nyrsio, ac i ddylanwadu ar ofal cleifion, wedi iddi dderbyn Cadair Astudiaethau Nyrsio Sylfaenol (Foundation of Nursing Studies/ FoNS ) mewn Dysgu Practis (Practice Learning), yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor. Cefnogir apwyntiad Debbie Roberts i’r swydd unigryw, sydd yn pontio practis clinigol a dysgu, gan y Foundation of Nursing Studies (FoNS). Yn rhinwedd ei phenodiad, mae’r Athro Roberts yn gallu gweithio â myfyrwyr Prifysgol Bangor a chyda nyrsys cymwysedig a phobl broffesiynol eraill o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ei nod yw ehangu a datblygu awyrgylch ddysgu ar gyfer myfyrwyr nyrsio yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor ac i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y GIG ar draws gogledd Cymru
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2017
Sylw brenhinol i waith ymchwil Ephraim
Dangosodd Meghan, Duges Sussex, diddordeb neilltuol yng ngwaith myfyriwr Meistr o Brifysgol Bangor, Dr Ephraim Kisangala, sydd yn fyfyriwr Ysgoloriaeth y Gymanwlad o Uganda, pan gyfarfu’r ddau mewn derbyniad yn Llundain yn ddiweddar. Ac yntau’n feddyg teulu yn Uganda, derbyniodd Ephraim, sy’n astudio Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, wahoddiad i gyfarfod â’r Ddugess ar achlysur cyhoeddi Ddugess yn noddwr Brenhinol yr Association of Commonwealth Universities.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2019
Teitl Nyrs y Frenhines i Ddarlithydd Prifysgol Bangor
Mae darlithydd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei gwobrwyo am ei nyrsio cymunedol rhagorol trwy ennill y teitl "Nyrs y Frenhines". Mae Jane Wright wedi ennill gwobr Nyrs y Frenhines, sy'n cynnwys y teitl "Nyrs y Frenhines" gan y " Queen’s Nursing Institute ". Elusen gofrestredig yw hon sydd â'r Frenhines yn noddwr arni, ac mae'r sefydliad wedi ymroi i wella gofal nyrsio i bobl yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2014
The Toddlers who took on Dementia
Rhaglen ddogfen gan BBC Cymru yw “The Toddlers who Took on Dementia”. Mae'n dilyn tri diwrnod o weithgareddau a drefnwyd i geisio archwilio'r hyn sy'n digwydd pan fydd plant meithrin a phobl sy'n byw gyda Dementia'n dod ynghyd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2018
Trefnu bod Data ar Gael ar gyfer Ymchwil
SAIL a NWORTH yn Cytuno ar Gydweithrediad Strategol Mae SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) a NWORTH (Uned Dreialon Cinigol Bangor sydd yn ran o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd ) wedi cytuno i gydweithio mewn partneriaeth. Mae SAIL yn adnodd byd-eang yn canolbwyntio ar wella iechyd, lles a gwasanaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2015
Treial i ateb penbleth trin epilepsi plant
Mae un o'r treialon clinigol mwyaf erioed mewn plant ag epilepsi, sydd newydd gael ei lansio, yn ceisio darganfod pa driniaeth sy'n gweithio orau i blant a'u teuluoedd. Arweinir y treial CASTLE cenedlaethol gan yr Athro Deb Pal o King's College Llundain a'r Athro Paul Gringras o Ysbyty Plant Evelina Llundain, mewn cydweithrediad â'r Athro Dyfrig Hughes o Brifysgol Bangor. Dyma'r unig dreial i gymharu cyffuriau gwrth-epileptig gyda monitro gweithredol heb unrhyw feddyginiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2019
Trin gwenwyn clorocwin
Mae ymchwil gan yr Athro Dyfrig Hughes o Brifysgol Bangor wedi darparu tystiolaeth bwysig ynglŷn â diogelwch triniaethau sy'n cael eu profi i'w defnyddio gyda COVID-19.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2020
Trosi economeg iechyd cyhoeddus yn bolisi ac yn rhan o ymarfer
Wrth ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad ar ‘Y 1,000 Diwrnod Cyntaf’ mae un sy’n arbenigo mewn economeg iechyd cyhoeddus wedi tynnu sylw at ymchwil sy’n awgrymu y gallai buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar arbed miliynau o bunnoedd ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2017
Tynnu sylw at brojectau partneriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Bangor
Rhoddir sylw i brojectau cyffrous a wneir mewn partneriaeth rhwng academyddion Prifysgol Bangor a chymunedau, elusennau, cyrff llywodraethol a busnesau, yn lleol ac yn rhyngwladol, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener (8 Rhagfyr). Canolbwyntir ar 17 allan o 52 project yn y digwyddiad, gyda phob un ohonynt wedi eu hariannu drwy Gyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017
Tynnu sylw at ymchwil Canser ym Mhrifysgol Bangor
Bydd digwyddiad ym Mhrifysgol Bangor ar 4 Chwefror 2020 er mwyn nodi Diwrnod Canser y Byd. Cynhelir y digwyddiad, sydd yn rhad ac am ddim, yn Ystafell Ddarlithio 2 yn Pontio, rhwng 6.00pm ac 8.15pm. Bydd yn tynnu sylw at yr ymchwil canser sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor, gan nodi 20 mlynedd ers sefydlu Diwrnod Canser y Byd. Bydd nifer o sgyrsiau byr gan oncolegwyr ac ymchwilwyr prifysgol ac yna sesiwn holi ac ateb.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020
UKCRC yn cydnabod arbenigedd treialon clinigol Bangor
Yr wythnos hon cafodd Sefydliad Hapdreialon Iechyd Gogledd Cymru (Uned Dreialon Clinigol NWORTH) newyddion da pellach (yr wythnos ddiwethaf cytunodd Llywodraeth Cymru i ymestyn eu cyllid) gan eu bod wedi cael eu hail-achredu'n llwyddiannus am 5 mlynedd arall yn dilyn Proses Adolygu Cofrestriad 2017 a arweiniwyd gan Bwyllgor Adolygu Rhyngwladol o arbenigwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2017
Want to develop 'grit'? Take up surfing
Dyma erthygl yn Saesneg gan Rhi Willmot , myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017
What supplements do scientists use, and why?
Dyma erthygl yn Saesneg gyda chyfraniad gan Simon Bishop o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2018
Why PrEP takers should still use condoms with HIV+ partners
Dyma erthygl yn Saesneg gan Simon Bishop o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2017
Wobryo y Coleg Brenhinol - Gwobr Myfyriwr Nyrsio y flwyddyn yn mynd i Georgina Hobson o Fangor
Seremoni wobryo y Coleg Brenhinol - Gwobr Myfyriwr Nyrsio y flwyddyn yn mynd i Georgina Hobson o Fangor
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2012
Y Drydedd Ymgyrch Elusennol Flynyddol dros Anrhegion i Gleifion!
Mae Cymdeithas Nyrsio'r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn casglu anrhegion i'w rhoi i gleifion am y drydedd flwyddyn o dan yr apêl Anrhegion i Gleifion.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2018
Y Nursing Times yn gwahodd myfyriwr Nyrsio Plant Bangor i fod yn siaradwr gwadd yn eu Careers Live
Yn dilyn swydd golygydd myfyriwr gwadd blwyddyn o hyd ar gyfer myfyriwr Nyrsio Plant trydedd flwyddyn y Nursing Times, gwahoddwyd Thomas Williams i fod yn un o'r siaradwyr allweddol yn nigwyddiad Nursing Times Careers Live
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2021
Y cwrs Radiograffeg gorau yn y DU ar frig tabl cynghrair y Prifysgolion
Yn ôl y Times & Sunday Times University Guide 2016 , Prifysgol Bangor yw’r lle gorau i astudio radiograffeg . Ar ben hynny, myfyrwyr radiograffeg Bangor oedd â’r rhagolygon gyrfaol gorau o blith holl raddedigion radiograffeg y DU, a gosodwyd y cwrs ar y trydydd safle o ran safonau mynediad. Mae Prifysgol Bangor hefyd ymysg 10 uchaf o blith Prifysgolion y DU mewn pum pwnc arall. Yn ogystal â radiograffeg, daw Astudiaethau Celtaidd ( Cymraeg ) yn ail, Polisi Cymdeithasol yn ail, Amaeth a Choedwigaeth yn seithfed, Ysgrifennu Creadigol yn wythfed ac Addysg yn ddegfed.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2015
Ydych chi eisiau aros yn iach yn feddyliol pan fyddwch yn hŷn? Ysgogwch eich ymennydd pan fyddwch yn fengach
Yn ôl ymchwil newydd mae ysgogi'r ymennydd drwy gyflawni swyddogaethau arwain yn y gwaith, neu aros ymlaen mewn addysg, yn helpu pobl i aros yn iach yn feddyliol yn ddiweddarach mewn bywyd. Arweiniwyd yr ymchwiliad sylweddol gan Yr Athro Linda Clare o Brifysgol Exeter, ac a fu'n aelod o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor hyd yn ddiweddar, a chyhoeddwyd y canlyniadau yn y cyfnodolyn PLOS Medicine . Defnyddiwyd data a gasglwyd o dros 2,000 o bobl dros 65 oed a oedd yn ffit yn feddyliol, gan archwilio'r ddamcaniaeth bod profiadau sy'n rhoi her i'r ymennydd mewn ieuenctid a chanol oed yn gwneud pobl yn fwy gwydn i ddelio â newidiadau'n deillio o henaint neu salwch - mae ganddynt 'gryfder gwybyddol' uwch.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2017
Ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod – Adolygu tystiolaeth
Mae cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, ar y cyd ag Uned Gydweithredu Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Bangor, wedi creu adroddiad newydd ‘ Ymateb i Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod’ . Mae’r adroddiad newydd, a ddatblygwyd gan Dr Lisa Di Lemma, yn archwilio tystiolaeth ar draws amrywiaeth o raglenni sy’n ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE). Edrychodd yr adroddiad ar raglenni ac ymyriadau ar gyfer 11 math unigol o ACE, ac ACE fel term cyffredinol, i nodi ymagweddau cyffredin ar draws rhaglenni.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2019
Ymchwil Gwyddor Cymdeithas yn gwella ansawdd bywyd a gofal i bobl sydd â dementia
Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor, a gynhaliwyd mewn sawl cartref gofal yng ngogledd Cymru, yn cael sylw mewn llyfryn sydd i’w lansio yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth 15 Mawrth. Mae llyfryn briffio diweddaraf y Campaign for Social Science’s ‘Making the Case for the Social Sciences’ yn rhoi sylw i nifer o brojectau ymchwil ar ddementia mewn prifysgolion yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2016
Ymchwil arloesol Canolfan yn helpu i lunio strategaeth y dyfodol ar gyfer heneiddio yng Nghymru
Bydd canolfan ymchwil arloesol - y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) a arweinir gan Brifysgol Abertawe ar y cyd gyda Phrifysgolion Bangor a Chaerdydd, yn chwarae rôl allweddol wrth lunio dyfodol gofal pobl hŷn yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2019
Ymchwil gan Brifysgol Bangor i fynediad i feddyginiaethau at glefydau prin
Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor, mae cleifion â chlefydau prin yn aml yn cael profiadau llawn her, sy’n creu anawsterau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Cafodd ymchwilwyr yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau fod cleifion yn aml yn wynebu anawsterau o ran cael diagnosis i’w cyflwr, mynediad at ofal arbenigol, a bod triniaeth effeithiol ar gael. Er y cynnydd ers 10 mlynedd yn nifer y meddyginiaethau sydd ar gael i drin clefydau prin, mae mynediad at driniaeth yn broblemus, yn bennaf oherwydd eu costau uchel.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2015
Ymchwil newydd i seibiannau byr ystyrlon i ofalwyr
Yn ddiweddar cafodd Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor ei chomisiynu gan Shared Care Scotland i gynnal Adolygiad Rhychwantu er mwyn deall yn well y dystiolaeth ymchwil am seibiannau byr i ofalwyr (a elwir weithiau yn ofal seibiant) a'r hyn y mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym am effaith seibiannau byr ar ofalwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019
Ymchwil newydd yn dweud fod gwir gost gamblo'n cael ei danbrisio
Yn ôl gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw nid yw'r ffocws presennol ar unigolion sy'n 'gamblwyr problemus' yn ystyried holl gostau gamblo ar iechyd a'r gymdeithas ac mae hynny'n diystyru'r effaith ehangach ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau. Gwaith a wnaed ar y cyd yw hwn gan Brifysgol Bangor, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heather Wardle Research a Phrifysgol Abertawe. Mae'r gwaith hefyd yn dangos bod cyfraddau gamblo problemus ar eu gwaethaf yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2019
Ymchwil rhyngwladol yn datgelu her canser y coluddyn
Mae Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan o adolygiad mawr, rhyngwladol o amseroedd triniaeth i bobl â chanser y coluddyn. Cydweithrediad rhwng gwledydd â systemau gofal iechyd tebyg sy'n meddu ar ddata o ansawdd uchel yw'r Bartneriaeth Meincnodi Canser Rhyngwladol (ICBP) a aeth ati i olrhain pob cam yr aeth pobl â chanser y coluddyn trwyddo cyn cael triniaeth. Cydlynwyd yr astudiaeth yn y Deyrnas Unedig gan Cancer Research UK, ac ariannwyd elfen Cymru o'r astudiaeth gan Ymchwil Canser Cymru. Adroddwyd am yr astudiaeth yn BMJ Open . Archwiliwyd holiaduron gan 2,866 o gleifion a'u meddygon yn rhyngwladol, yn ogystal â chofnodion meddygol cleifion a gafodd ddiagnosis rhwng 2013 a 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2018
Ymchwil yn cynnwys Prifysgol Bangor sy'n berthnasol i adferiad llawn cleifion Covid-19 wedi ei ddyfynnu gan Senedd Ewrop
Cyhoeddwyd ymchwil gan yr Athro Dyfrig Hughes o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd ar effaith economaidd syndrom blinder cronig (CFS) - a adwaenir hefyd fel enseffalomyelitis myalgig (ME) - yn y cyfnodolyn Healthcare yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2020
Ymchwil yn dangos sut gall gwelliannau i dai arwain at fanteision iechyd
Yn ôl economegwyr iechyd ym Mhrifysgol Bangor gall tai cynhesach wella iechyd tenantiaid tai cymdeithasol a lleihau defnydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Gan weithio gyda chymdeithas dai Gentoo a Nottingham City Homes, fe wnaeth economegwyr iechyd yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau'r Brifysgol werthuso'r costau a'r canlyniadau'n gysylltiedig â gwelliannau i dai cymdeithasol. Daeth i'r amlwg bod cyswllt rhwng tai cynhesach a gwell iechyd i denantiaid tai cymdeithasol a llai o ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2017
Ymchwilwyr Bangor yn cyfrannu at hyrwyddo strategaeth ymchwil dementia
Bu Dr Gill Windle a'r Athro Emeritws Bob Woods, o ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia, rhan o BIHMR yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yn rhan o dasglu Cymdeithas Alzheimer yn cynnwys clinigwyr ac ymchwilwyr dementia yn y Deyrnas Unedig, noddwyr ymchwil dementia yn y Deyrnas Unedig, pobl â dementia a chynrychiolwyr gofalwyr, a ddatblygodd y 'map ymchwil dementia cyntaf ar gyfer dulliau atal, rhoi diagnosis, ymyrryd a gofal erbyn 2025'.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2018
Ymchwilydd rhyngwladol nodedig a chynghorwr iechyd cyhoeddus yn derbyn Cadair er Anrhydedd
Mae Prifysgol Bangor wedi rhoi Cadair er Anrhydedd i'r Athro Mark Bellis, ymchwilydd rhyngwladol adnabyddus a chynghorwr ym maes iechyd cyhoeddus. Rhoddwyd y gadair i gydnabod ei gyraeddiadau mewn sawl maes o iechyd cyhoeddus, yn cynnwys atal trais, alcohol, cyffuriau ac iechyd rhywiol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2014
Ymgeiswyr ar gyfer mynediad mis Medi 2013
Datganiad UCAS i Ddarparwyr Addysg Neges UCAS i fyfyrwyr Myfyrwyr sy’n ymgeisio am le ar gyrsiau nyrsio a ariannir yng Nghymru (pob maes nyrsio, h.y. oedolion, anableddau iechyd, iechyd meddwl ac iechyd plant) a chyrsiau therapi galwedigaethol yng Ngogledd Cymru a chyrsiau ODP ledled Cymru fydd yn dechrau ym mis Medi 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2012
Ymgyrch Genedlaethol yn Cydnabod Cyfraniad Myfyriwr Nyrsio o Brifysgol Bangor i Wella Ansawdd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Mae Clare Woodcock, myfyriwr ail flwyddyn sy'n astudio am radd mewn Nyrsio, wedi ennill lle yn y Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd Diogelwch mewn Gofal Iechyd sydd i'w gynnal ym Mharis yn ddiweddarach eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2014
Yn benderfynol o wireddu’r freuddwyd – Jade yn graddio fel Bydwraig Dosbarth Cyntaf
Er mai bod yn fydwraig fu ei breuddwyd erioed, chwaraeodd amgylchiadau eu rhan a golygu y bu rhaid i Jade Parsons roi y freuddwyd honno o’r neilltu. Â hithau wedi adael yr ysgol yn un ar bymtheg oed heb unrhyw gymwysterau a dod yn feichiog yn fuan wedi hynny, golygodd bod yn rhaid i Jade, o Dreffynnon, neilltuo ei holl egni ac amser ar fagu ei theulu ifanc
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2019
Yoga in the workplace can reduce back pain and sickness absence
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Rhiannon Tudor Edwards a ned Hartfiel o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2017
Yr holl fyfyrwyr radiograffeg sy’n graddio eleni wedi cael swyddi
Mae myfyrwyr Radiograffeg blwyddyn olaf sy'n graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon i gyd wedi cael swyddi mewn byrddau iechyd amrywiol yng Nghymru a Lloegr
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2015
Ysgol Glinigol Gogledd Cymru yn derbyn dwy wobr Rhagoriaeth mewn Addysgu
Mae dwy diwtor o Ysgol Glinigol Gogledd Cymru, Einir Mowll a Catrin Roberts wedi ennill Gwobrau Rhagoriaeth mewn Addysgu o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015
£1.8m o gyllid i astu daeth newydd o bwys ar reoli gwaedu ar ôl genedigaeth
Mae £1.8m o gyllid gan Sefydliad Cenedlaethol y DU dros Ymchwil Iechyd (NIHR) wedi ei ddyfarnu i gynnal astudiaeth o bwys ar drin gwaedu gyda chyffuriau ar ôl genedigaeth (COPE).
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2017
‘Cyfle am sgwrs’ i bobl sydd newydd gael diagnosis o ddementia
Mae “Cyfle am Sgwrs” yn rhoi cynnig i siarad ar y ffôn neu gwrdd â rhywun arall sy'n byw gyda diagnosis yng Ngogledd Cymru. Byddwn yn ei lansio ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o ‘ World Alzheimer’s Month ’ ym mis Medi (23/09/2019).
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2019
‘Safety=Design’: Achub miloedd o fywydau ac arbed miliynau o bunnoedd
Mae gobaith y bydd prosiect a lansiwyd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor yn achub miloedd o fywydau drwy symleiddio sut mae staff gofal iechyd a chleifion yn adnabod symptomau.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2016