Gwasanaeth Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi papur briffio newydd gan academydd Prifysgol Bangor

Mae Gwasanaeth Ymchwil Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi papur briffio newydd ar Addysg a Gofal Plant Cynnar (ECEC) gan Dr David Dallimore o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd. Y papur briffio hwn yw'r cyntaf mewn cyfres o dri, gan ddarparu canllaw cyflym i addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC). Mae'n cyflwyno'r cysyniad o ECEC, yn gosod tystiolaeth ar gyfer gwahanol ymagweddau at ECEC ac yn cysylltu hyn â pholisi cyfredol yng Nghymru.

Ymgymerodd Dr Dallimore â'r ymchwil hwn fel rhan o Gynllun Cymrodoriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gynlluniwyd i gefnogi Aelodau'r Cynulliad wrth iddynt graffu ar ddeddfwriaeth gyfredol a deddfwriaeth y dyfodol trwy eu darparu â’r ymchwil academaidd berthnasol ddiweddaraf iddynt.

I ddarllen papur briffio Dr Dallimore yn llawn, cliciwch yma: https://seneddymchwil.blog/2019/05/16/cyhoeddiad-newydd-addysg-a-gofal-plentyndod-cynnar-yng-nghymru-cyflwyniad/

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2019