Ennill Gwobr Myfyriwr Nyrsio Anabledd Dysgu y Flwyddyn mewn Gwobrau Cenedlaethol
Unwaith eto, mae myfyriwr o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi ennill un o brif wobrau'r Gwobrau Myfyrwyr Nursing Times a gynhelir bob blwyddyn. Mae Kate Young yn canlyn llwyddiant myfyrwyr eraill o Fangor a enillodd gategorïau yn y gorffennol. Eleni, enillodd Kate wobr Myfyriwr Nyrsio Anabledd Dysgu y flwyddyn yng Ngwobrau Myfyrwyr y Nursing Times 2019.
Daw Kate, 26 oed, o Ddeiniolen ac aeth i Goleg Meirion Dwyfor i gwblhau cwrs mynediad cyn dod i Brifysgol Bangor i ddechrau'r rhaglen BN Nyrsio Anabledd Dysgu.
Dywedodd y beirniaid fod Kate yn “ymgeisydd rhagorol” ac yn “dangos sgiliau eithriadol” ym mhob maes o'u meini prawf.
Mewn ymateb i'r wobr dywedodd Kate “Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r Ysgol Gwyddorau Iechyd wedi agor cymaint o ddrysau i mi ddatblygu fy mrwdfrydedd am weithio gydag unigolion ag Anableddau Dysgu.
“Cefais gefnogaeth i wneud hyn gan staff addysgu gwych a chyd-fyfyrwyr yn y brifysgol a'r holl unigolion arbennig sy'n gweithio yn y Gwasanaethau Anabledd Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
“Ein nod yw gweithio gyda'n gilydd gan roi cyfle cyfartal i bawb, ni fyddwn wedi ennill y wobr hon heb bob un o'r unigolion yr wyf wedi gweithio gyda nhw ac sydd wedi fy nghefnogi dros y tair blynedd diwethaf fel myfyriwr, felly mae hon iddyn nhw!”
Dywedodd Arweinydd y Rhaglen, David Allsup, “Llongyfarchiadau mawr i Kate ar ennill y wobr genedlaethol bwysig hon i'r Ysgol a'r Brifysgol, yn erbyn carfan gref o fyfyrwyr nyrsio Anabledd Dysgu ar y rhestr fer. Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda Kate ac yn anrhydedd i fod yn rhan o'r broses enwebu fel ei thiwtor personol. Da iawn Kate! ”
Ategwyd y farn hon gan Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Chris Burton, a ddywedodd “Rwy'n falch iawn fod Kate wedi ennill y gydnabyddiaeth bwysig hon, sy'n codi nid yn unig ei phroffil ei hun, ond proffil Anabledd Dysgu ym Mhrifysgol Bangor. Llongyfarchiadau mawr iddi hi, ac i'r staff academaidd a'r mentoriaid ymarfer sydd wedi cefnogi ei datblygiad fel arweinydd y dyfodol yn y gwasanaethau Anabledd Dysgu.”
Eleni, cafodd myfyrwyr a staff Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor eu henwebu am nifer o wobrau, gan brofi unwaith eto bod yr ysgol yn perfformio'n gyson dda.
Dyma'r rhai oedd ar y rhestr fer am wobrau:
Addysgwr y Flwyddyn - Stephen Prydderch
Addysgwr y Flwyddyn - Julie Roberts
Myfyriwr Nyrsio Anabledd Dysgu - Kate Young
Cyfraniad Eithriadol i Faterion Myfyrwyr - Nicola Williams
Mae rhestr fer lawn 2019 i'w gweld yma - https://studentawards.nursingtimes.net/2019-shortlist
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2019