Ymgyrch Genedlaethol yn Cydnabod Cyfraniad Myfyriwr Nyrsio o Brifysgol Bangor i Wella Ansawdd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Mae Clare Woodcock, myfyriwr ail flwyddyn sy'n astudio am radd mewn Nyrsio, wedi ennill lle yn y Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd Diogelwch mewn Gofal Iechyd sydd i'w gynnal ym Mharis yn ddiweddarach eleni. 

Mae'r rhaglen genedlaethol dros wella ansawdd gofal iechyd yn y GIG yng Nghymru wedi cydnabod ei hymroddiad i leihau peryglon haint i gleifion mewn ysbytai drwy fynnu safonau uchel o hylendid a glanweithdra.  Trwy fynd i'r gynhadledd bwysig hon caiff Clare gyfle i gyfarfod ag arbenigwyr rhyngwladol ym maes gwella gofal iechyd ac edrych ar ffyrdd newydd o barhau â'i gwaith yn yr agwedd bwysig hon o ofalu am gleifion.

Meddai Clare, "Dwi'n teimlo ei bod yn fraint fawr cael y cyfle yma i gyfrannu at wella gofal iechyd cleifion yng Nghymru.   Dwi'n gobeithio cael cyfle i ddysgu technegau newydd a syniadau ymarferol i wella ansawdd gofal ieClare Woodcock (chwith) gyda'r Athro Jo Rycroft-Malone Pennaeth yr  Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Clare Woodcock (chwith) gyda'r Athro Jo Rycroft-Malone Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd chyd a gallaf rannu'r rhain wedyn gyda fy nghyd-fyfyrwyr nyrsio i'w defnyddio yn ein hymarfer clinigol." 

Meddai'r Athro Jo Rycroft-Malone, Pennaeth yr Ysgol, "Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn falch iawn o lwyddiant Clare.  Fel Ysgol rydym yn ystyried bod ein gwaith o hybu dulliau gweithredu gorau yn hynod bwysig, a chefnogi myfyrwyr i roi arweiniad ym maes gwella'r gofal a'r profiad a gaiff cleifion.  Mae'r wobr y mae Clare wedi'i chael yn dangos sut y gall ein myfyrwyr ddod yn arweinwyr tra maent yn dal i ddysgu." 

Mae Clare wedi cael ei chefnogi gan y darlithydd, Carol Westwell, a ddywedodd, "Mae ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor yn hynod falch o weithio mewn partneriaeth â'r rhaglen 1000 Lives + er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cyfrannu at wella ansawdd y GIG yng Nghymru.  Dwi'n hynod falch o weld llwyddiant Clare a'r cyfraniad gwerthfawr y mae'n ei wneud i wella'r profiad a gaiff cleifion ac arwain dulliau o wella ansawdd o fewn ymarfer clinigol."  

Am fwy o wybodaeth am yr Ysgol ewch i http://www.bangor.ac.uk/healthcaresciences/  

Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2014