Cymorth amhrisiadwy i fobl sydd yn byw efo dementia gan wirfoddolwyr Cruse

Mae ymchwil ar effaith dementia ar unigolion a'u teulu yn datgelu bod rhai yn delio â theimladau o golled amwys neu'n galar annisgwyl pan fydd person yn datblygu dementia. Mae'r math hwn o alar yn aml yn cael ei anwybyddu gan gymdeithas gan fod newidiadau a cholledion yn medru bod yn raddol ac arwyddocaol i'r rhai y mae dementia yn effeithio arnynt.

Dywedodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer Cymru: "Mae gwella mynediad at gymorth cyn profedigaeth a helpu pobl i ymdopi'n well â'r teimladau o golled a galar drwy eu taith yn hanfodol i helpu pobl i fyw'n dda gyda dementia." Mae pandemig y coronafeirws wedi gwneud byw dementia yn heriol, felly, nawr yn fwy nag erioed, mae cymorth emosiynol yn hanfodol.

Ariannwyd y gwasanaeth gan y Gronfa Gofal Integredig fel cynllun peilot yng Nghymru gyda 72 o wirfoddolwyr Cruse eisoes yn cwblhau'r hyfforddiant arbenigol. Mae'r hyfforddiant wedi rhoi cipolwg i wirfoddolwyr Cruse ar sut i gefnogi’r berthynas rhwng y gofalwr a'r person â dementia drwy newidiadau. Dywedodd un gwirfoddolwr fod yr hyfforddiant yn “amhrisiadwy, oherwydd y mwyaf rydych chi'n ei wybod am bobl eraill a'r hyn maen nhw'n mynd drwyddo, gallwch gynnig gwell cefnogaeth".

Mae Cruse eisoes wedi cefnogi 82 o gleientiaid sydd wedi'u heffeithio gan ddementia sy'n profi teimladau o golled a galar. Darperir cymorth yn seiliedig ar anghenion yr unigolion naill ai ar sail unigol dros y ffôn/gwe neu mewn grwpiau. I wneud atgyfeiriad neu i gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael e-bost: lossanddementia@cruse.org.uk

Dywedodd Gwenllian Hughes ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor sy'n gweithio ar yr astudiaeth, gan gyfweld a dadansoddi adborth gan wirfoddolwyr a chleientiaid "Hyd yma mae'r adborth ar y gefnogaeth y mae Gwirfoddolwyr Cruse yn gynnig a'r hyfforddiant maen nhw'n ei brofi wedi bod yn bwerus a chadarnhaol iawn”. Mae dyfyniadau gan gleientiaid yn dangos hyn isod.

Mae adborth cychwynnol gan gleientiaid wedi amlygu pwysigrwydd y gwasanaeth wrth i ofalwyr adrodd teimladau o unigrwydd a bod yn "anweledig" gan ddisgrifio'r cymorth dros y ffôn yn "amhrisiadwy, ar adeg o dywyllwch mawr yn cynnig golau mewn storm!" Dywedodd cleientiaid eraill fod y gwasanaeth yn "fan diogel, gallwn ymddiried a sgwrsio yn gyffyrddus" gan eu galluogi i gael eu gweld fel person sydd hefyd yn  "bwysig". 

Mae'r canlyniadau hyd yma yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymorth cyn profedigaeth o ran galluogi rhoddwyr gofal ac aelodau o'r teulu i ddarparu'r gofal a'r cymorth gorau i'r sawl sy'n byw gyda dementia a'u hatgoffa i ofalu amdanynt eu hunain hefyd. Mae'r gwerthusiad yn parhau a bydd yr adroddiad terfynol ar gael yn gynnar yn 2022.  Mae trafodaethau eisoes i ehangu'r gefnogaeth i sefydliadau yn Lloegr. 

 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2021