Dros 60 oed ac ar-lein: Adroddiad newydd ar iechyd y boblogaeth yn canfod bod pobl hŷn yng Nghymru yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol

Mae pobl dros 60 oed yng Nghymru ar-lein ac yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol, a gall hyn fod yn offeryn pwysig yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd.

Mae 77 allan o pob 100 o bobl yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn yn defnyddio un neu fwy o gyfryngau cymdeithasol. Mae 65 o blith y 100 yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol bob dydd. Daw'r canfyddiadau hyn o adroddiad newydd: Iechyd y Boblogaeth mewn Oes Ddigidol: Patrymau yn y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor a gyhoeddir heddiw.

Mae nodi pwy sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau eriall i asesu pwy fyddai’n derbyn negeseuon iechyd trwy’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn helpu i nodi pa fath o blatfform sydd orau ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl.

Nid oes gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd yng Nghymru, ond i'r rhai sy'n gwneud hynny (87 y cant o bobl yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn), mae'r adroddiad yn nodi bod cyfran uwch o fenywod (91 y cant, o gymharu ag 86 y cant o ddynion) yn ymwneud ag un neu fwy o fathau o gyfryngau cymdeithasol; er bod cyfran uwch o ddynion yn defnyddio cyfryngau cynnwys fideo (72 y cant, o gymharu â 65 y cant o fenywod). Roedd bron y cyfan (99.6 y cant) o bobl ifanc 16 i 20 oed ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd ymgysylltu â'r cyfryngau cymdeithasol yn tueddu i ostwng gydag oedran, ond roedd yn aros yn uchel mewn grwpiau oedran hŷn; roedd 76 y cant o'r rhai 60-69 oed, a 60 y cant o'r rhai dros 70 oed, yn defnyddio un neu fwy o fathau o gyfryngau cymdeithasol.

Meddai'r awdur arweiniol Dr Jiao Song, Ystadegydd Iechyd Cyhoeddus, Adran Ymchwil a Gwerthuso, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae'n ddiddorol bod y cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cael eu hystyried yn rhywbeth i bobl iau, ond mae canfyddiadau'r adroddiad wedi amlygu bod cyfran uchel o'r rhai yn y grwpiau oedran hŷn yn ymgysylltu â'r cyfryngau cymdeithasol.”

Defnyddiodd yr adroddiad ddata a gasglwyd yn yr arolwg Technegol Ddigidol ac Iechyd 2018 - arolwg sy'n gynrychioliadol yn genedlaethol gyda 1,252 o drigolion yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn. Roedd yr arolwg yn cynnwys cwestiynau ar fynediad i'r rhyngrwyd a/neu dechnoleg ddigidol, canfyddiadau o rannu gwybodaeth sy'n ymwneud ag iechyd ar y cyfryngau cymdeithasol, statws iechyd a demograffeg.

Meddai Dr Catherine Sharp, Uned Cydweithredu Iechyd Cyhoeddus, Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor:

“Mae'r adroddiad hefyd yn datgelu bod pobl ag iechyd hunangofnodedig uwch a phobl sydd â ffordd iachach o fyw yn fwy tebygol o ddefnyddio un neu ragor o gyfryngau cymdeithasol na'r rhai ag iechyd hunangofnodedig is a'r rhai ag ymddygiad sy'n niweidio iechyd.”

Yn ddiddorol, roedd y gyfran a oedd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyffredinol yn debyg ar draws grwpiau amddifadedd, ond roedd lefelau defnydd o Twitter a WhatsApp yn is ymhlith y rhai lleiaf cefnog.

Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae angen i ni barhau ag ymdrechion i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad, ond rydym yn cydnabod y gall y cyfryngau cymdeithasol gynnig llwyfan i gyrraedd cynulleidfa ehangach ac ymgysylltu'n wahanol â phoblogaethau ynghylch iechyd.

“Ar hyn o bryd, mae systemau iechyd yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol gan mwyaf fel cyfrwng i rannu gwybodaeth, ond nid yw'r dull hwn yn manteisio i'r eithaf ar y rheswm pam fo'r cyfryngau cymdeithasol hyn yn gweithio - sef yr elfen rwydweithio. Wrth edrych i'r dyfodol, mae angen i systemau iechyd ddysgu sut i gymryd rhan mewn sgyrsiau ar lwyfannau o'r fath er mwyn cefnogi sylwgarwch ac i apelio gyda'u cynulleidfaoedd; i fynd i'r afael â chredoau, agweddau, bwriadau ac ymddygiadau ar gyfer iechyd.”

Mae’r uned Cydweithio Iechyd Cyhoeddus (PHCU) yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd wedi’i lleoli ar gampws Wrecsam ac fe’i hariennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r PHCU yn rhyngwyneb academaidd i Iechyd Cyhoeddus Cymru i cynnal ymchwil o ansawdd uchel y gellir ei ddarparu’n gyflym a chefnogi datblygiad meysydd ymchwil newydd.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2020