Teitl Nyrs y Frenhines i Ddarlithydd Prifysgol Bangor

Jane wright gyda'i thystysgrif.: Llun: Kate StanworthJane wright gyda'i thystysgrif.: Llun: Kate StanworthMae darlithydd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei gwobrwyo am ei nyrsio cymunedol rhagorol trwy ennill y teitl "Nyrs y Frenhines". Mae Jane Wright wedi ennill gwobr Nyrs y Frenhines, sy'n cynnwys y teitl "Nyrs y Frenhines" gan y "Queen’s Nursing Institute". Elusen gofrestredig yw hon sydd â'r Frenhines yn noddwr arni, ac mae'r sefydliad wedi ymroi i wella gofal nyrsio i bobl yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain.

Mae gan Jane Wright, sy'n gweithio yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y brifysgol, gefndir fel nyrs ardal. Mae'r wobr yn cydnabod ei gwaith yn y maes hwnnw a'i gwaith yn dysgu'r gweithlu nyrsio cymunedol a nyrsys cymunedol y dyfodol.  Yn ogystal â'i gwaith yn dysgu nyrsys y dyfodol, mae hi hefyd yn gweithio gyda thimau nyrsio ardal, nyrsys ysgol ac ymwelwyr iechyd yn ac yn canolbwyntio ar ogledd ddwyrain Cymru, i gefnogi eu gwaith fel mentoriaid sy'n darparu addysg sgiliau clinigol a hyfforddiant i fyfyrwyr israddedig ac ôl-radd ar leoliadau ymarfer.  

Mae Jane wrth ei bodd o fod wedi ennill y wobr, a dywedodd:

"Mae gwobr Nyrs y Frenhines yn cydnabod y gwerth ychwanegol, y blaengaredd a'r creadigrwydd y mae nyrsys yn ei gyfrannu at ofal iechyd a lleoliadau dysgu. “Mae ennill gwobr mor bwysig a chael cydnabyddiaeth fel hyn gan sefydliad uchel ei barch fel hwn yn hwb aruthrol. Edrychaf ymlaen at gyfle i rannu'r wybodaeth a'r blaengaredd sydd ar gael trwy gyfrwng rhwydweithiau cenedlaethol a rhanbarthol, a byddaf yn eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o waith nyrsys cymunedol. Byddwn yn annog pob nyrs gymunedol sy'n credu mewn gofal o ansawdd uchel ar sail tystiolaeth i ddod yn Nyrs y Frenhines. Hoffwn hefyd ddiolch i Dr Chris Burton a'r Athro Jo Rycroft-Malone am fy nghefnogi a'm hannog i wneud cais am y wobr hon.  “

Gan longyfarch Jane, dywedodd yr Athro Jo Rycroft-Malone, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor:

“Caiff gwaith y "Queen’s Nursing Institute" ei gydnabod a'i barchu ym maes gofal iechyd. Gelwir ar y sefydliad yn aml am gyngor a sylwadau mewn perthynas â chomisiynu a chyfeirio polisi, neu fel llefarydd ar ran nyrsio cymunedol. Rwy'n falch dros ben bod gwaith caled ac ymrwymiad Jane Wright wedi dod â'r gydnabyddiaeth bwysig hon iddi hi ac i'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd."

Gyda'i harbenigedd a'i phrofiad ym maes nyrsio ardal, gofal iechyd cymunedol a pholisi cymdeithasol, mae Jane wrthi'n gwneud ymchwil ar gyfer doethuriaeth trwy ysgoloriaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r project yn edrych ar sut gellir teilwra canllawiau arfer gorau strôc i'w defnyddio mewn cartrefi gofal. Ymgymerwyd â'r project ymchwil hwn mewn partneriaeth â chartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

Ar hyn o bryd, mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor yn recriwtio myfyrwyr nyrsio at fis Mawrth a mis Medi i gampws Bangor (Nyrsio Oedolion, Nyrsio Anabledd Dysgu, Nyrsio Iechyd Meddwl) a Wrecsam (Nyrsio Oedolion, Nyrsio Plant). Mae gan yr ysgol gysylltiadau agos â nifer o fyrddau iechyd, ac mae'n cynnig cyfleoedd dysgu ac ymarfer clinigol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae 98% o'i graddedigion yn dod o hyd i waith ar ôl graddio, felly mae'n ddewis poblogaidd i'r rhai sy'n chwilio am lwybr clir i fyd gwaith yn y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd.

 

Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2014