Swydd Athro newydd yn ymgorffori’r gweithio ar y cyd sydd rhwng Prifysgol a Bwrdd Iechyd

Yr Athro Debbie RobertsYr Athro Debbie RobertsMae Debbie Roberts yn teimlo ei bod mewn sefyllfa dda i gael effaith ar addysg nyrsio, ac i ddylanwadu ar ofal cleifion, wedi iddi dderbyn Cadair Astudiaethau Nyrsio Sylfaenol (Foundation of Nursing Studies/ FoNS) mewn Dysgu Practis (Practice Learning), yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor.

Cefnogir apwyntiad Debbie Roberts i’r swydd unigryw, sydd yn pontio practis clinigol a dysgu, gan y Foundation of Nursing Studies (FoNS). Yn rhinwedd ei phenodiad, mae’r Athro Roberts yn gallu gweithio â myfyrwyr Prifysgol Bangor a chyda nyrsys cymwysedig a phobl broffesiynol eraill o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ei nod yw ehangu a datblygu awyrgylch ddysgu ar gyfer myfyrwyr nyrsio yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor ac i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y GIG ar draws gogledd Cymru.

Meddai’r Athro Debbie Roberts:

“Rwy’n angerddol dros addysgu a dysgu yn maes addysg nyrsio, ac yn awyddus i hybu dysgu ac ymestyn dysgu mewn practis er mwyn gwella gofal iechyd yn y rhanbarth. Mae gen i lawer o ddiddordeb mewn sicrhau ein bod yn cysylltu ymchwil, addysgu a mentergarwch gyda’i gilydd ac yn defnyddio tystiolaeth fel sail i’n addysgu.”

Ers ei phenodi, mae Debbie wedi datblygu strategaeth ar gyfer dysgu practis sydd yn canolbwyntio ar gefnogi myfyrwyr nyrsio israddedig drwy fentora. Mae hi hefyd yn archwilio sut y gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar erchwyn y gwely, er mwyn ehangu dysgu i’r myfyrwyr a gofal cleifion.

Meddai Dr Theresa Shaw, Prif Weithredwraig FoNS:

“Rwyf wrth fy modd bod y bartneriaeth arloesol hon rhwng FoNS, Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi arwain at benodi yr Athro Roberts i’r swydd gyffrous hon, sy’n cefnogi a hybu dysgu yn y practis. Gyda’r gwerthoedd a’r dyheadau sydd gennym yn gyffredin, i ehangu gofal ac iechyd drwy ragoriaeth mewn addysgu a dysgu, ochr yn ochr gyda gwellhad i’r gwasanaeth, mae’r swydd yn cynnig cyfle i gryfhau amgylchoedd dysgu practis ar draws gogledd Cymru a chynnig dysgu mwy eang drwy iechyd a gofal cymdeithasol.”

Meddai Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth :

“Rydym yn  falch o gael y cyfle i gydweithio gyda’r Athro Roberts. Mae’n hollbwysig i ni ac i’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ein bod yn cael gweithlu nyrsio talentog sydd wedi ei recriwtio a’i ddatblygu’n lleol. Rydym yn croesawu’r penodiad ac yn ffyddiog y bydd yr Athro Roberts yn gwneud cyfraniad gwerthfawr wrth gynorthwyo datblygiad y genhedlaeth nesaf o nyrsys a bydwragedd gofalgar, talentog a medrus.”

Meddai’r Athro Chris Burton, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor:

“Rydym wrth ein bodd i gael yr Athro Roberts yn ymuno a’r tîm ac i fod yn gartref i’r penodiad ar y cyd blaengar hwn. Mae amcanion y swydd yn gweddu â’n hamcanion ni yma. Mae gennym yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd draddodiad hir o weithio mewn partneriaeth gyda’r GIG a chyda grwpiau eraill, er mwyn darparu rhaglenni is-raddedig, ôl- raddedig a doethurol sy’n cael effaith ar fyfyrwyr a gwasanaethau fel ei gilydd. Mae ein hymchwil, sydd o safon ryngwladol, ym maes gwella gofal iechyd yn ein galluogi i weithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â heriau gofal iechyd cyfoes.”

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2017