Gwelwyd bod rhwystrau sylweddol yn atal diagnosis prydlon o ddementia a mynediad at gefnogaeth ôl-ddiagnostig mewn pum gwlad yn Ewrop

Yn ôl adroddiad a gyflwynwyd heddiw yn Senedd Ewrop mae rhwystrau arwyddocaol sy'n atal diagnosis prydlon o’r clefyd Alzheimer wedi'u gweld ledled Ewrop.

Cynhaliwyd yr astudiaeth, a ariennir gan Alzheimer Europe, mewn pum gwlad dan arweiniad yr Athro Bob Woods o Goleg Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor. Dyma oedd canfyddiadau'r astudiaeth:

  • Dywedodd gofalwyr fod oedi sylweddol cyn cael diagnosis gan ei bod yn cymryd 2.1 mlynedd ar gyfartaledd i gael diagnosis (rhwng 1.6 mlynedd yn y Weriniaeth Tsiec a'r Eidal i 2.5 mlynedd yn yr Alban). Roedd chwarter y bobl â dementia wedi cael diagnosis o gyflwr arall cyn dementia.
  • Pan wnaed y diagnosis, roedd gan tua hanner y bobl ddementia ysgafn (53%), roedd gan draean ddementia cymedrol (36%) ac roedd gan 4% ddementia difrifol. Teimlai bron i hanner y gofalwyr (47%) y byddai'r diagnosis wedi bod yn well yn gynharach (yn amrywio o 36.5% yn yr Iseldiroedd i 52.1% yn yr Eidal).
  • Ymhlith y rhwystrau allweddol y nodwyd eu bod yn atal diagnosis cynharach oedd bod gofalwyr yn dweud fod y person proffesiynol cyntaf iddyn nhw ei weld ddim yn ystyried bod unrhyw beth o'i le (33%) neu'n credu nad oedd yn werth gofyn am ddiagnosis (6.6%) a bod y person â dementia yn gwrthod gofyn am help (37.9%).
  • Yn gyffredinol, ni chafodd un o bob pump o bobl â dementia wybod am eu diagnosis. Mae gwahaniaethau pwysig yn bodoli yn hyn o beth o wlad i wlad. Yn y Ffindir, yr Alban a'r Iseldiroedd, roedd bron pob person â dementia wedi cael gwybod am eu diagnosis (98.9%, 95.6% a 91.8% yn y drefn honno), ond yn y Weriniaeth Tsiec ac yn yr Eidal, roedd llawer o bobl â dementia heb gael gwybod (23.3% a 59.3% yn y drefn honno). 
  • Mae cefnogaeth ôl-ddiagnostig yn parhau'n broblem sylweddol ar draws Ewrop. Ni chafodd 19% o'r gofalwyr a 27.9% o bobl â dementia unrhyw wybodaeth ar adeg y diagnosis.  Roedd yr angen am wybodaeth ynglŷn ag ymdopi a byw'n dda â dementia ac ynglŷn â'r gwasanaethau sydd ar gael yn arbennig o uchel (51.1% a 46% yn y drefn honno). Ar y cyfan, gofalwyr yn y Ffindir ac yn yr Iseldiroedd oedd fwyaf bodlon â'r wybodaeth a gawson nhw. Roedd gofalwyr yn yr Eidal yn llai hapus ynglŷn â phob un math o wybodaeth a gawson nhw.
  • Un o'r gwasanaethau a gynigiwyd amlaf i ofalwyr yn ystod y diagnosis oedd cyswllt â pherson neu wasanaeth a enwir a fyddai'n gallu eu cynorthwyo wrth eu cyfeirio at wasanaethau neu ddweud wrthynt â phwy y gallent gysylltu yn ôl yr angen (20.9%), gofal dydd (19.2%) a chaffis dementia (18.7%). Nid oedd gan nifer o ofalwyr fynediad at asesiad o'u hanghenion eu hunain (50.9%), cynllun gofal ar gyfer y person â dementia (44.6%) na gwasanaethau cwnsela (44.6%), ond byddent wedi hoffi cael defnyddio'r gwasanaethau hyn.

Dywedodd yr Athro Bob Woods: "Roedd Prifysgol Bangor yn falch o gael bod yn arweinydd academaidd ar yr arolwg Ewropeaidd yma. Dan ni wedi dangos bod aelodau o'r teulu sy'n gofalu am bobl â dementia yn elwa o gael diagnosis prydlon, sy'n cael ei rannu'n dda a lle mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar ôl diagnosis - ond mae llawer iawn o deuluoedd ledled Ewrop nad ydyn nhw’n cael hyn. "

Mae Olga Sehnalová yn Aelod Senedd Ewrop dros Y Weriniaeth Tsiec ac roedd hi'n un o noddwyr y ddadl. Mae hi'n croesawu canfyddiadau'r arolwg:

"Fel Aelod o Senedd Ewrop a Chynghrair Alzheimer Ewrop, mae gen i ddiddordeb yn sut mae gwledydd Ewrop yn wahanol i'w gilydd wrth ymdrin â dementia. Er gwaethaf y ffaith fod dementia yn cael mwy a mwy o gydnabyddiaeth fel blaenoriaeth o ran iechyd y cyhoedd ac o ran datblygu strategaethau dementia cenedlaethol, tynnodd arolwg Alzheimer Europe sylw at y ffaith bod rhwystrau pwysig sy'n atal diagnosis prydlon yn dal i fodoli. Er bod yr amser cyn derbyn diagnosis yn weddol fyr yn Y Weriniaeth Siec o’i gymharu â gwledydd eraill, ni allwn ei alw’n llwyddiant chwaith gan ei fod yn cymryd blwyddyn a hanner yma. Dwi'n gobeithio y bydd mentrau Ewropeaidd megis Gweithredu ar y Cyd ynglŷn â Dementia yn ffordd o nodi arferion da ac yn gwneud argymhellion ynglŷn â sut i wella diagnosis prydlon a chefnogaeth ôl-ddiagnostig ar draws holl wledydd Ewrop."

Pwysleisiodd un arall o noddwyr y ddadl, Syrpa Pietikäinen, Aelod Senedd Ewrop dros y Ffindir ac Is-Gadeirydd Cynghrair Alzheimer Ewrop:

"Ro'n i wrth fy modd i weld bod pobl â dementia yn y Ffindir yn cael gwybod yn systematig am eu diagnosis ac yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau cynllunio gofal. Er gwaethaf hyn, mae'r oedi cyn cael diagnosis ffurfiol o ddementia yn dal yn sylweddol. Ledled Ewrop, mae angen inni barhau i fuddsoddi mewn ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, mewn hyfforddiant meddygol i feddygon teulu ac arbenigwyr a mynd i'r afael â rhai o'r pethau sy'n peri oedi yn y system o ran atgyfeirio a chael mynediad at wasanaethau diagnostig."

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2018