Cyn Beiriannydd yn y Llynges yn graddio mewn Nyrsio

Ar ôl symud allan o'r cartref teuluol a'i rentu am 3 blynedd i dalu am addysg uwch, bydd myfyriwr o Brifysgol Bangor yn graddio'r wythnos hon.Anthony GreenAnthony Green

Bydd Anthony Green, 43, o Benmaenmawr, sy'n briod ac yn dad i dri o blant, yn derbyn gradd BA Nyrsio (Anabledd Dysgu).

Ar ôl iddo adael Ysgol Aberconwy, ymunodd Anthony â'r Llynges Frenhinol fel peiriannydd yn trin hofrenyddion.  Gadawodd y Llynges a threuliodd nifer o flynyddoedd ym myd gwerthu cyn dechrau gweithio fel gweithiwr cynnal i bobl gydag anabledd dysgu.  Sylweddolodd Anthony'n fuan ei fod wedi cael hyd i'r yrfa roedd eisiau ei gwneud am weddill ei oes. 

Meddai Anthony:  "Roeddwn wedi tyfu i fyny efo ewythr oedd â Syndrom Down, ac er fy mod i'n hoff iawn o dreulio amser efo fo roeddwn yn meddwl efallai mai'r rheswm am hynny oedd oherwydd ei fod yn ewythr i mi.  Ond ar ôl i mi ddechrau gweithio fel gweithiwr cynnal fe wnes i sylweddoli fy mod i wrth fy modd yn gweithio efo pobl ag anableddau dysgu a'u cefnogi.   Yn y diwedd fe wnes i benderfynu mynd i wneud hyfforddiant nyrsio fel y gallwn gael mwy o wybodaeth a sgiliau i helpu pobl nag y gallwn ei wneud fel gweithiwr cynnal. 

Dewisais astudio ym Mhrifysgol Bangor gan mai hon ydi fy mhrifysgol leol a bod tiwtoriaid yno roeddwn yn gwybod amdanyn nhw ac yn eu parchu'n fawr.

Fe ddaliais ati i weithio yn ystod fy astudiaethau - ar ddyddiau Sadwrn efo dyn ifanc dwi wedi bod yn ei gefnogi am 10 mlynedd, ac ar nosweithiau Mercher mewn cartref preswyl lleol i bobl gydag anableddau dysgu.  Roedd yn anodd ffitio popeth i mewn, efo darlithoedd, astudio, ysgrifennu traethodau, gwaith a bywyd teuluol.  Roedd yn dipyn o straen ar brydiau - mynd yn syth o'r brifysgol i weithio ac yna cyrraedd adref am 11pm. Ond roedd yn werth pob munud a phan oeddwn yn gweithio roeddwn yn gallu rhoi'r hyn roeddwn wedi'i ddysgu mewn darlithoedd ar waith yno, ac roedd hynny'n help mawr.

“Yn ystod y cwrs cymerais ran mewn project yn sefydlu gwefan o'r enw   learningdisabilitynurse.com    Mae hon yn wefan newydd i helpu unrhyw un sy'n ymwneud efo gwaith anabledd dysgu neu sy'n meddwl am fynd i'r maes yma.  Datblygodd y wefan ar ôl i mi ennill The Fiona Law Practice Innovation Award 2011.     Gofynnais i un arall a ddaeth i'r brig am y wobr a fyddai'n hoffi helpu ar broject a gawsom i hybu nyrsio anabledd dysgu.  Fe wnaethom ysgrifennu erthygl hefyd a gyhoeddwyd yn Learning Disability Practice Magazine yn Ebrill 2012 a chawsom ein lluniau ar glawr y rhifyn hwnnw'n lansio'r wefan.     

“Prif uchafbwynt fy nghyfnod ym Mangor oedd ennill gwobr Fiona Law yng Nghynhadledd Rhwydwaith Rhyngwladol Nyrsys Anabledd Dysgu, a oedd yn cael ei chynnal ym Mangor y flwyddyn honno.     Roeddwn yn gwybod fy mod i'n un o'r 5 a oedd wedi dod i'r brig, ond doeddwn i ddim yn gwybod eu bod am ddewis enillydd cyffredinol a fedrwn i ddim credu'r peth pan gyhoeddwyd fy enw fel yr enillydd drwodd a thro.  Beth oedd yn gwneud y wobr yma'n arbennig iawn oedd bod Fiona Law yn ddarlithydd mewn nyrsio anabledd dysgu ym Mangor a sefydlwyd y wobr yma er cof amdani.  Rydw i'n dal yn hynod falch o hynny.  Enillais y wobr am ddarn y gwnaethom ei ysgrifennu ynghylch sut roeddem yn teimlo ynghylch dyfodol nyrsio anabledd a sut y gallem ni wneud gwahaniaeth. 

"Uchafbwynt arall oedd cael fy A cyntaf am draethawd!  Roeddwn yn gwybod wedyn y gallwn ymdopi efo ochr academaidd y cwrs a oedd wedi fy mhoeni dipyn pan ddechreuais.

“Roeddwn yn un o'r rhai a ddaeth i'r brig am y Nursing Times Learning Disability Student of the Year yn 2012 ac euthum i Lundain i'r seremoni wobrwyo.   Hefyd deuthum yn ail am Wobr Myfyriwr Nyrsio'r Flwyddyn gan Goleg Brenhinol Nyrsio Cymru yn Nhachwedd 2012."      

Mae Anthony'n gobeithio cael gyrfa faith fel nyrs anabledd dysgu gan wneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl y bydd yn gofalu amdanynt.  

 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013