Mwy o ddefnydd o wasanaethau gofal iechyd yn ystod bywyd oedolyn yn gysylltiedig â phlentyndod trawmatig

Gall profi cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol fel plentyn, neu straen arall fel byw mewn cartref a effeithir gan drais yn y cartref, cam-drin sylweddau neu salwch meddwl, arwain at ddefnydd uwch o'r gwasanaethau iechyd fel oedolyn.

Mae papur ymchwil yn y Journal of Health Service Research & Policy (doi) yn cynnig, am y tro cyntaf, dystiolaeth ystadegol sy'n dangos beth bynnag fo dosbarth cymdeithasol-economaidd neu ddemograffeg arall, mae pobl sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn defnyddio mwy o wasanaethau iechyd a meddygol yn ystod eu bywyd. 

Prif bwyntiau o'r ymchwil:

  • Mae unigolion a ddioddefodd sawl math o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (sef cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol neu straen arall fel byw mewn cartref gyda thrais yn y cartref neu gydag oedolyn yn cam-drin sylweddau neu salwch meddwl) yn fwy na dwywaith mor debygol o ddefnyddio adrannau achosion brys ysbytai, angen aros dros nos mewn ysbyty neu ddefnyddio meddygfeydd yn aml fel oedolion.
  • Roedd astudiaeth o 7,414 o oedolion yng Nghymru a Lloegr yn cymharu rhai a ddioddefodd profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gyda'r rhai yr oedd eu plentyndod yn rhydd o brofiadau niweidiol o'r fath. Roedd y rhai gyda phedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn dangos lefelau llawer uwch o ddefnyddio gofal iechyd hyd yn oed fel oedolion ifanc (18-29 oed) gyda'r cynnydd hwn yn dal yn amlwg ddegawdau yn ddiweddarach.
  • Roedd rhaid i 12% o oedolion ifanc oedd heb gael unrhyw brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fynd i adran achosion brys yn y flwyddyn ddiwethaf, gan godi i 29% mewn oedolion ifanc gyda phedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Erbyn 60-69 oed roedd 10% o unigolion heb unrhyw brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod angen o leiaf un arhosiad dros nos yn yr ysbyty (yn y flwyddyn ddiwethaf) gan godi i 25% gyda'r rhai oedd â phedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
  • Mae lefelau uchel o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gyffredin. Yn y sampl gyffredinol hon o'r boblogaeth roedd 10% o'r holl oedolion wedi profi pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod sy'n golygu y gall trawma yn ystod plentyndod gyfrannu'n fawr at y pwysau ar wasanaethau iechyd i oedolion.

Daw'r ymchwilwyr o Goleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad y Brifysgol i'r casgliad y gall buddsoddi mewn atal neu leihau profiadau niweidiol mewn plentyndod yn ogystal â mynd i'r afael â'r trawma o ganlyniad i brofiadau o'r fath, helpu i leihau'r galw ar y gwasanaeth iechyd a'r costau yn y dyfodol.

Meddai Mark Bellis, Athro Iechyd Cyhoeddus yng Ngholeg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad Prifysgol Bangor:

"Hyd yn oed ar y lefelau biolegol mwyaf sylfaenol, gall cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod newid plant gan eu gadael yn fwy tebygol o ddatblygu iechyd corfforol a meddyliol gwael drwy gydol eu bywydau. Mae plentyndod a magwraeth ddiogel yn rysáit ar gyfer adeiladu plant cryfach, hapusach, gyda llawer mwy o siawns o fod yn oedolion iach."

"Mae ein canlyniadau yn dangos y mwyaf yw'r profiadau niweidiol mae pobl yn dioddef fel plant y mwyaf tebygol y maent fel oedolion i fod yn ddefnyddwyr aml o wasanaethau iechyd sylfaenol megis meddygon teulu a gwasanaethau brys yn ogystal ag angen cymorth mwy arbenigol mewn ysbyty dros nos. Wrth i gostau gofal iechyd gynyddu yn y DU a thramor, mae'n hanfodol ein bod yn cymryd agwedd gydol oes at iechyd sy'n cydnabod bod y problemau a welwn yn aml mewn oedolion wedi  dechrau gyda thrawma yn ystod plentyndod."

Dywedodd yr Athro John Middleton, Llywydd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU am yr astudiaeth:

"Mae'r mwyafrif helaeth o rieni yn dymuno gosod eu plant ar gwrs iach mewn bywyd ac mae llawer iawn y gall gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill ei wneud i helpu, yn enwedig yn y cymunedau tlotaf. Gall buddsoddi mewn plentyndod o ansawdd dorri'r cylchoedd niweidiol sydd wedi effeithio ar deuluoedd ers cenedlaethau. Ond bydd torri corneli o ran rhoi cefnogaeth i deuluoedd a phlant yn golygu ein bod yn parhau i dalu gydag iechyd oedolion gwael a phwysau cynyddol ar wasanaethau iechyd am genedlaethau i ddod."

Ychwanegodd yr Athro Karen Hughes, cydawdur y papur:

"Mae'r risgiau i oedolion fod yn ysmygwyr neu yfwyr trwm a datblygu canser, diabetes a chlefydau eraill sy'n bygwth bywyd i gyd yn cynyddu mewn pobl sydd â hanes o brofiadau niweidiol mewn plentyndod. Mae'r astudiaeth hon yn dangos sut mae canlyniadau iechyd profiadau niweidiol mewn plentyndod yn effeithio nid yn unig ar yr unigolyn ond hefyd ar y gwasanaethau iechyd sy'n eu cefnogi. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol eisoes yn chwarae rhan sylweddol mewn trin effeithiau gydol oes profiadau niweidiol mewn plentyndod ond dylai cydnabod rhan y profiadau hyn mewn afiechyd oedolion ddarparu cyfleoedd i gael triniaeth well a chanolbwyntio mwy ar atal." 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2017