Prifysgol Bangor i gynnig tair rhaglen gofal iechyd newydd o 2022

Mae rhaglenni newydd mewn nyrsio trwy ddysgu o bell a dysgu gwasgaredig, gan gynnwys ffocws ar iechyd meddwl, a hylendid deintyddol, yn rhan o weledigaeth y Brifysgol i gynnig ychwaneg o lwybrau i fyfyrwyr weithio yn y proffesiynau meddygol, iechyd a gofal, ynghyd ag amgylchedd cynhwysfawr ar gyfer dysgu ac addysgu dwyieithog, a chapasiti lleoliadau ledled ein cymunedau.

Mae’r rhaglenni newydd wedi'u hariannu trwy fenter Addysg a Gwella Iechyd yng Nghymru Llywodraeth Cymru ac maent yn dangos arbenigedd Prifysgol Bangor wrth ddarparu addysg o ansawdd uchel sy'n sicrhau cynaliadwyedd o fewn gweithlu'r GIG yng Nghymru. 

Dywedodd yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-ganghellor Addysgu a Dysgu:

“Bydd rhaglenni newydd Prifysgol Bangor yn cefnogi'r ecosystem iechyd a gofal yng Nghymru trwy ddarparu addysg ddeinamig ac arloesol o'r ansawdd uchaf.

“Rydym yn bwriadu peri newid sylweddol o ran hyfforddiant a gallu digidol y gweithlu iechyd a gofal, a chyfrannu at well canlyniadau i gleifion o ganlyniad i ragor o ddarpariaeth gwasanaeth. Bydd ein cyrsiau newydd yn ein galluogi i hyfforddi rhagor o weithwyr proffesiynol mewn meddygaeth ac iechyd yn y rhanbarth, yn ogystal ag yn rhyngwladol, mewn modd arloesol trwy ddysgu cyfunol a dysgu o bell.”

Bydd y rhaglenni newydd canlynol yn dechrau ym mis Medi 2022:

1.    Nyrsio trwy Ddysgu o Bell, Cymru Gyfan (Oedolion/Plant ac Iechyd Meddwl)
Cyfle cyffrous i ddarpar fyfyrwyr nyrsio ddewis llwybr hyblyg i astudio ar eu cyflymder eu hunain o amgylch ymrwymiadau gwaith, gan ddefnyddio technolegau arloesol i gysylltu â'r Brifysgol ac i ymarfer, ac a fydd yn cefnogi Byrddau Iechyd ledled Cymru i ddarparu'r gweithlu nyrsio sydd ei angen i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol. 

2.    Hylendid Deintyddol, Gogledd Cymru
Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr fod yn rhan o raglen newydd ysbrydoledig a fydd, am y tro cyntaf, wedi'i lleoli yng Ngogledd Cymru. Bydd Prifysgol Bangor yn cynnig cyfle i fyfyrwyr hylendid deintyddol weithio gyda myfyrwyr o broffesiynau eraill megis nyrsio, bydwreigiaeth, a radiograffeg wrth efelychu trochi ar sail achosion. 

3.    Contract Nyrsio Dysgu Gwasgaredig (Oedolion ac Iechyd Meddwl) (Powys)
Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn o weithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ddarparu profiad dysgu hyblyg i nyrsys dan hyfforddiant lle bydd addysg ryngbroffesiynol yn rhan allweddol o ymarfer addysgu, gan baratoi myfyrwyr drwy roi’r wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau sy'n angenrheidiol ar gyfer ymarfer cydweithredol sy'n canolbwyntio ar y claf.

Yn ogystal, bydd Prifysgol Bangor yn parhau i gynnig darpariaeth addysg iechyd mewn cydweithrediad â phartneriaid ymarfer ar gyfer Nyrsio (Oedolion, Plant ac Iechyd Meddwl) a Ffisiotherapi yn ardal Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Nyrsio Anableddau Dysgu, Bydwreigiaeth, Cynorthwywyr Meddygon, a Radiograffeg Diagnostig ledled Gogledd Cymru.

Dros y misoedd nesaf bydd Prifysgol Bangor yn gweithio ar ddatblygu manylebau’r rhaglenni ar gyfer agoriad ceisiadau cylch mynediad 2022 ym Mis Medi 2021. Unwaith y byddant ar gael, bydd gwybodaeth am y cwrs yn y prosbectws ar lein yma: https://www.bangor.ac.uk/cy/courses

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2021