Cymharu Gofal Iechyd a Chymdeithasol Canada a Chymru

 

Mae dau o ddarlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor  wedi teithio i Ganada ar gyfer menter gydweithredol rhwng y Coleg, Prifysgol Bangor a Consortium national de formation en santé, Canada er mwyn ehangu gwybodaeth, datblygu partneriaeth a chodi proffil y problemau sy’n bodoli wrth ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Sharon Pierce a Ruth Wyn Williams, sy’n darlithio dan nawdd y Coleg yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor wedi derbyn nawdd trwy Gynllun Grantiau Bach y Coleg i fynychu seminar yn Ottawa rhwng 21-22 Mai.

Cynhelir y digwyddiad ochr yn ochr â Chynhadledd Language Rights and Challenges in an Era of Globalization lle fydd pob Comisiynydd Iaith gan gynnwys Comisiynydd Iaith Cymru, Meri Huws yn bresennol.

Bwriad y digwyddiad rhyngwladol yw dod ag ymchwilwyr Canada a Chymru ynghyd i rannu profiadau a thrafod gofal iechyd mewn cyd-destun dwyieithog a’r heriau a ddaw yn sgil hynny.

Byddant yn edrych yn benodol ar bolisïau a fframwaith Canada a Chymru ac adnabod y bylchau sy’n bodoli yng ngwaith ymchwil y ddwy wlad er mwyn cytuno ar brosiectau ymchwil ar y cyd.  

Yn ystod yr ymweliad, bydd cyfle i ymweld ag ysbyty Montfort, Ottawa sy’n cynnig gwasanaeth gwbl ddwyieithog (Ffrangeg/Saesneg) i gleifion yn ogystal â sgwrsio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Ottawa.

Yn y pendraw, y gobaith yw y bydd hyn oll yn gwella’r gwasanaethau iaith a gynigir ym maes iechyd mewn cyd-destun dwyieithog a chreu rhagor o wasanaethau effeithiol.

Yn ôl Ruth Wyn Williams:

‘‘Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno gwaith y Coleg i’r cyfeillion yng Nghanada yn ogystal â’r cyd-destun yma yng Nghymru ym maes iechyd. Dwi’n mawr obeithio hefyd y cawn gyfle i rannu ffyrdd newydd o addysgu a chyflwyno y rheiny i fyfyrwyr yma yng Nghymru. Bydd heb os yn gyfle gwych i ddysgu sut mae gwledydd sy’n wynebu’r un fath o sialensiau â ni yn ymateb i rwystrau ac yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd sydd ar gael.’’

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015