Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr radiograffeg blwyddyn olaf sydd i gyd wedi llwyddo i gael swyddi - cyn iddynt sefyll eu holl arholiadau terfynol!

Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn hynod falch o roi gwybod bod ein holl fyfyrwyr radiograffeg blwyddyn olaf wedi llwyddo i gael swyddi. Mae hyn hyd yn oed cyn iddynt sefyll eu harholiadau terfynol i gyd!  Gall yr Ysgol ganmol yn rheolaidd bod 100% o'i myfyrwyr yn cael swyddi o fewn 3 mis ar ôl iddynt raddio, ond mae'r sefyllfa eleni wedi bod yn rhyfeddol. 

Dywedodd Elizabeth Carver, prif ddarlithydd a chydlynydd addysg glinigol, bod y myfyrwyr hyn wedi bod yn grŵp blwyddyn rhagorol ac:  "mae'n ymddangos bod darpar gyflogwyr yn sylweddoli y byddant yn gwneud gweithwyr iechyd proffesiynol ardderchog hefyd.  Fe wnaeth un myfyriwr hyd yn oed lwyddo i gael swydd bur ddeniadol y cafodd nifer o radiograffwyr cymwysedig (a phrofiadol) gyfweliad amdani." 

Fel arfer, bydd yr Ysgol yn drist o weld y myfyrwyr yn gadael ond rydym yn hynod falch o'u gweld yn dechrau ar eu gyrfaoedd fel radiograffyddion. Bydd rhai'n symud gyda'u gwaith i bob rhan o wledydd Prydain, ond bydd y mwyafrif yn gweithio yng Ngogledd Cymru a gobeithiwn y byddant yn cadw mewn cysylltiad â ni yn y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015