Cymdeithas Myfyrwyr Bydwreigiaeth yn llwyddiannus mewn Gwobrau Cenedlaethol
Mae un o gymdeithasau'r myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, a sefydlwyd ddim ond pum mis yn ôl, wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am ragoriaeth.
Cafodd y myfyrwyr bydwreigiaeth Samantha Davies, Jonathan Cliffe, Daisy Fenner, Sioned Jones, Hannah Heffernan a Rosie Florence, ac aelodau pwyllgor y Gymdeithas Myfyrwyr Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor, eu rhoi yn y ti uchaf am Wobr Myfyriwr Bydwreigiaeth y Flwyddyn 2015, a gynhelir gan y British Journal of Midwifery Practice. Cyhoeddwyd y llwyddiant ar 23 Mawrth yn seremoni'r British Journal of Midwifery Awards yn Llundain.
Penderfynodd pwyllgor y gymdeithas enwebu'r Gymdeithas am y wobr, er mai dim ond ym Medi 2014 y cafodd ei sefydlu. Mae'r gymdeithas wedi tyfu'n gyflym ac wedi cyflawni llawer mewn cyfnod byr.
Yn ystod y 5 mis diwethaf, mae'r Gymdeithas wedi cynnal ei digwyddiad lansio, ei chynhadledd gyntaf dan arweiniad myfyrwyr ac wedi cynnal gweithdai gyda'r nos i fyfyrwyr. Mae digwyddiadau sydd ar y gweill at y dyfodol yn cynnwys gweithgareddau codi arian, gweithdai pellach gyda'r nos a chynadleddau.
Meddai Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Jo Rycroft-Malone, "Dwi'n hynod falch efo llwyddiant y Gymdeithas Myfyrwyr Bydwreigiaeth a'r gydnabyddiaeth broffesiynol yma a ddaeth mor fuan ar ôl sefydlu'r gymdeithas. Fel Ysgol rydym wrth ein bodd o weld ein myfyrwyr yn codi proffil y proffesiynau gofalu ar draws gwledydd Prydain, dangos sgiliau arwain, a datblygu ffyrdd newydd o gefnogi ei gilydd drwy eu rhaglen addysg broffesiynol."
Fel yr eglurodd Jonathan Cliffe, Cadeirydd y Gymdeithas:
"Gall bydwreigiaeth fod yn gwrs dwys a heriol i'w astudio. Ein nod yn ffurfio'r Gymdeithas oedd creu cyfle i fyfyrwyr rannu meddyliau a syniadau efo'i gilydd. Bydd hyn gobeithio'n fantais fawr i fyfyrwyr drwy gydol eu hamser yn astudio ym Mhrifysgol Bangor. Nod cyffredinol y gymdeithas yw creu cysylltiadau rhwng yr holl fyfyrwyr er mwyn rhannu profiadau, gan weithredu fel fforwm i gynorthwyo ei gilydd a rhannu athroniaeth gyffredin."
Mae’r gymdeithas yn gweithredu law yn llaw â’r rhaglen Fydwreigiaeth er mwyn gwella profiad yr holl fyfyrwyr o ran dysgu ac addysg, gan ehangu a chyfoethogi eu haddysg drwy weithgareddau allgyrsiol. Un o amcanion allweddol y gymdeithas yw cynnal dyddiau astudio a digwyddiadau a fydd o fudd i rai'n astudio ac ymarfer bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor ac ysbytai'r bwrdd iechyd lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2015