Y Drydedd Ymgyrch Elusennol Flynyddol dros Anrhegion i Gleifion!
Mae Cymdeithas Nyrsio'r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn casglu anrhegion i'w rhoi i gleifion am y drydedd flwyddyn o dan yr apêl Anrhegion i Gleifion.
Mae'r ymgyrch bresennol yn digwydd ar gampysau Bangor a Wrecsam. Y mannau casglu ar gyfer anrhegion yw; Wrecsam, Ystafell 11, Cambrian 2 a Bangor, Y Lle Dysgu a Rennir, Fron Heulog.
Mae'r myfyrwyr wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn casglu rhoddion gan fusnesau lleol, yn ogystal â staff y Brifysgol a myfyrwyr a'r cyhoedd. Bu gwesteion pwysig yn ymweld â'r ddau safle ac roeddent yn awyddus i gyfrannu at yr achos.
Ymwelodd Maer Wrecsam, y Maer Andy Williams, â safle Wrecsam a chwrdd â myfyrwyr a darlithwyr i siarad â nhw am yr ymgyrch anrhegion i gleifion a'r wardiau y byddant yn cyflwyno'r rhoddion iddynt.
Ar safle Bangor, ymwelodd Albert Owen AS Ynys Môn â'r myfyrwyr i'w llongyfarch ar eu hymdrechion ac i wneud cyfraniad at yr ymgyrch.
Dywedodd Albert Owen AS "Roeddwn yn falch o allu ymuno â'r myfyrwyr nyrsio a gwneud cyfraniad o swyddfa'r etholaeth.
"Hoffwn ddiolch i Amy Hughes a thîm Cymdeithas Nyrsio Prifysgol Bangor am eu caredigrwydd a'u gwaith caled wrth drefnu'r digwyddiad arbennig hwn."
Dywedodd Amy Hughes, trefnydd arweiniol safle Bangor "Nid yn unig ydym yn gobeithio taro'r targed o 200 o flychau, rydym yn anelu at fynd yn uwch a thu hwnt! Cawsom ymateb aruthrol gan fusnesau lleol, y myfyrwyr a'r cyhoedd. Mawr yw ein diolch i bawb am sicrhau llwyddiant yr ymgyrch. Rydych chi i gyd wedi bod yn rhyfeddol!"
Mae'r myfyrwyr ar bob lefel a phob disgyblaeth yn helpu gyda'r casgliad er mai Cymdeithas Nyrsio Bangor yw'r prif drefnydd.
Dywedodd Kayte Powell, arweinydd y Gymdeithas Nyrsio yn Wrecsam,
"Rydyn ni'n rhoi'r bocsys sy'n llawn o bethau da, gan gynnwys deunyddiau ymolchi, posau, gemau a dilladach megis sanau a sliperi, ynghyd â chardiau Nadolig dwyieithog mewn llawysgrifen, i gleifion ar wardiau adferiad ac iechyd meddwl pobl hŷn ar 19 Rhagfyr.
Mae angen rhoddion arnom o hyd! "
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
Kayte Powell: Hbu919@bangor.ac.uk
Amy Hughes: hbua50@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2018