Adroddiad pwysig yn canfod bylchau a gwendidau sylweddol mewn gwybodaeth iechyd i blant

Nid yw pob plentyn a pherson ifanc sydd â chyflwr iechyd cronig, neu sydd ag angen llawdriniaeth, yn cael mynediad at wybodaeth o safon uchel sy’n addas i blant i’w helpu i ddeall beth sy’n digwydd iddo/iddi. Dyna ganfyddiad allweddol astudiaeth tair blynedd a ariannwyd gan raglen Cyflenwi a Threfnu Gwasanaethau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd ac a arweiniwyd gan Brifysgolion Bangor a Chaerdydd.

Mae’r adroddiad Pwysigrwydd Gwybodaeth Iechyd i Blant, a gyhoeddwyd ar y cyd â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, yn tynnu sylw at y ffaith bod angen darparu gwybodaeth i blant sy’n ddiddorol, yn hygyrch, yn gywir ac yn briodol i’w hoedran.  

Mae Fiona Smith, Ymgynghorydd Plant a Phobl Ifanc Coleg Brenhinol y Nyrsys, wedi croesawu’r adroddiad. “Mae gan nyrsys rôl allweddol o ran cyfleu gwybodaeth gymhleth i blant a phobl ifanc,” dywedodd. “Rhaid i ni werthfawrogi pa mor bwysig yw’r astudiaeth hon, oherwydd mae gwella mynediad at adnoddau gwybodaeth priodol a dealltwriaeth pobl ifanc yn debygol o arwain at well canlyniadau iechyd.”

Mae awduron yr adroddiad yn nodi, er bod rhai cryfderau i’r wybodaeth iechyd a ddarperir i blant a’u teuluoedd, bod gwendidau a bylchau sylweddol yn bodoli hefyd. Maent yn credu bod eu hymchwil yn nodi angen clir i roi sylw i sut y caiff gwybodaeth iechyd i blant ei datblygu a’i chyflenwi.

“Roedd ein hymchwil yn cynnwys astudiaeth fanwl o’r deunydd sydd ar gael ar hyn o bryd ac arsylwadau a chyfweliadau â dros 150 o gyfranogwyr, gan gynnwys plant o chwech i 18 oed, rhieni a gweithwyr iechyd proffesiynol,” meddai cyd arweinydd yr astudiaeth, yr Athro Jane Noyes, o’r Ganolfan Ymchwil Gysylltiedig ag Iechyd ym Mhrifysgol Bangor. “Mae wedi rhoi dealltwriaeth gliriach i ni o beth sydd angen ei wneud er mwyn i’r plentyn cywir gael yr wybodaeth gywir ar yr adeg gywir.”

Daeth yr astudiaeth â thîm unigryw at ei gilydd a oedd yn cynnwys arbenigwyr o fyd y cyfryngau a newyddiaduraeth, darlunydd plant, ymchwilwyr gwasanaethau iechyd, ymchwilwyr plant, anthropolegwyr, meddygon, nyrsys a seicolegwyr. Roedd gan y tîm ddiddordeb arbennig mewn gwybodaeth iechyd a oedd yn canolbwyntio ar blant sy’n hunanofalu ac yn rheoli eu meddyginiaeth ac roedd arnynt eisiau gwybod y ffordd orau o gynllunio a chyflenwi gwybodaeth iechyd mewn partneriaeth â phlant a’u teuluoedd. 

“Roedd arbenigedd eang y tîm yn ein galluogi i archwilio safbwyntiau arloesol ac ystyried gwelliannau i fater cymhleth cynhyrchu, cyflenwi a defnyddio gwybodaeth iechyd i blant yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai cyd arweinydd yr astudiaeth, yr Athro Emerita Anne Williams o’r Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. “Credwn fod ein canlyniadau’n gwneud cyfraniad newydd a phwysig at y ddealltwriaeth bresennol o ‘gyflwr celfyddyd a gwyddoniaeth’ gwybodaeth iechyd i blant.”  

Roedd canfyddiadau allweddol yr ymchwil yn cynnwys: 

  • Er gwaethaf y nifer cynyddol o adnoddau gwybodaeth iechyd i blant, gan gynnwys llyfrau, taflenni, teganau, gemau, disgiau DVD a gwefannau, mae bylchau sylweddol yn bodoli yn y ddarpariaeth.
  • Mae nifer mawr o gynhyrchwyr gwybodaeth – o blant i gwmnïau fferyllol – a llawer o amrywiaeth yn ansawdd a chywirdeb y deunydd sydd ar gael ar hyn o bryd.
  • Ceir enghreifftiau da o wefannau gwybodaeth iechyd i blant y GIG, lle caiff cywirdeb gwybodaeth ei wirio.
  • Mae ar blant eisiau i’w hadnoddau gwybodaeth iechyd fod yn fwy realistig ac ystyrlon gan gyd-fynd â’u hoed, eu hamgylchiadau – gan gynnwys teulu, cartref, ysgol neu goleg – a’u gwahanol anghenion iechyd.
  • Mae arnynt hefyd eisiau cael gwybodaeth iechyd ar adegau allweddol, megis adeg diagnosis, dechrau ysgol, newid ysgol, tyfu gyda chyflwr, materion yn ymwneud â ffordd o fyw a’r cyfnod pontio i ofal oedolion.
  • Yn aml, mae plant yn ei chael yn anodd rheoli eu cyflyrau iechyd a’u meddyginiaeth yn yr ysgol gan nad oes gan athrawon a disgyblion yr wybodaeth sydd ei hangen i ddeall yr afiechyd.
  • Yn aml, bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cyfleu gwybodaeth ar lafar a gall plant anghofio’r cyngor y maent wedi’i gael.
  • Ceir nifer o adnoddau y mae’n rhaid talu amdanynt, neu nad ydynt ar gael i’r GIG. Byddai nyrsys a meddygon sydd ag adnoddau o safon uchel ar gael iddynt yn elwa o fwy o gymorth ynglŷn â’r ffordd orau o’u defnyddio. Mae nyrsys a nyrsys arbenigol yn chwarae rôl arbennig o bwysig mewn gwybodaeth iechyd i blant.
  • Hefyd, mae ar lawer o aelodau teulu eisiau gwybodaeth iechyd o safon uchel am gyflwr a gofal eu plentyn/brawd/chwaer ac mae rhai, ond nid pob un, yn cael gwybodaeth ar ran y plentyn.
  • Mae rhai rhieni’n hidlo’r wybodaeth iechyd y maent yn ei chanfod, sy’n golygu nad yw’r plant o reidrwydd yn cael yr wybodaeth bwysig sydd ei hangen arnynt er mwyn gofalu amdanynt eu hunain.

Cafodd Harriet, 17, ddiagnosis o ddiabetes ddeg mlynedd yn ôl. “Byddai wedi bod yn ddefnyddiol cael gwybodaeth y gallwn uniaethu â hi fel plentyn, oherwydd roedd hi’n anodd i mi ddeall yr wyddoniaeth gymhleth y tu ôl i ddiabetes,” meddai. “Rydw i’n meddwl bod y cylchlythyrau’n wych a dylen nhw gael eu cyhoeddi’n amlach, ac mae angen rhoi mwy o wybodaeth am faterion fel yfed alcohol i bobl ifanc â diabetes.”

Mae Harriet hefyd yn credu bod ar ysgolion angen mwy o wybodaeth am sut i ddelio â disgyblion â diabetes. “Yn aml, doedd gan fy athrawon ysgol gynradd ddim syniad beth i’w wneud pan oedd gen i ddiffyg siwgr, ac mi wnaeth un golli fy nghyflenwad argyfwng o glwcos hyd yn oed, heb ddeall pa mor bwysig oedd o. Pan ges i ddiagnosis am y tro cyntaf, roedd rhai o’r disgyblion yn fy osgoi i hyd yn oed, rhag ofn iddyn nhw ddal y clefyd ‘ymledol’. Roedd hyn yn gyffredin, hyd yn oed yn yr ysgol uwchradd.”

Mae Sally yn gadarnhaol iawn am y gefnogaeth a gafodd gan y gweithwyr iechyd proffesiynol a oedd yn gofalu am ei mab, sy’n dioddef o epilepsi. Ond mae’n ychwanegu: “Rydw i’n pryderu bod llawer o wybodaeth iechyd ar gael yn rhwydd ar y rhyngrwyd, ond nad yw bob amser yn gywir neu’n cael ei rheoleiddio’n briodol… Mae plant a phobl ifanc angen cael gwybodaeth y maen nhw’n ei deall a chael cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod beth mae’r wybodaeth yn ei olygu iddyn nhw.”    

Pwysigrwydd Gwybodaeth Iechyd i Blant: Ymchwilio i arferion a gofynion gwybodaeth iechyd i blant a phobl ifanc sy’n briodol i’w hoedran  Hefyd, gellir llwytho crynodeb lleyg Saesneg o’r adroddiad oddi ar y we yma.

 

Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2011