Yn benderfynol o wireddu’r freuddwyd – Jade yn graddio fel Bydwraig Dosbarth Cyntaf

Jade ParsonsJade ParsonsEr mai bod yn fydwraig fu ei breuddwyd erioed, chwaraeodd amgylchiadau eu rhan a golygu y bu rhaid i Jade Parsons roi y freuddwyd honno o’r neilltu.

 hithau wedi adael yr ysgol yn un ar bymtheg oed heb unrhyw gymwysterau a dod yn feichiog yn fuan wedi hynny, golygodd bod yn rhaid i Jade, o Dreffynnon, neilltuo ei holl egni ac amser ar fagu ei theulu ifanc. Nid aeth y freuddwyd yn angof, serch hynny. Yn benderfynol o greu llwybr a fyddai’n ei harwain at gyflawni ei nod o ddod yn fydwraig lawn, yn 2015 cofrestrodd Jade fel myfyriwr hŷn yn ei choleg Addysg Bellach lleol, Coleg Cambria, a sicrhau’r cymwysterau TGAU yr oedd eu hangen arni er mwyn gallu cofrestru ar Gwrs Mynediad at Ofal Iechyd yn y coleg.

Gyda’i chymhwyster diweddaraf yn ei dwrn, gwnaeth Jade gais i Prifysgol Bangor yn 2016. Yr wythnos hon, mae hi graddio gyda gradd yn y Dosbarth Cyntaf mewn Bydwreigiaeth, ynghyd â nifer o enwebiadau am wobrau cenedlaethol a dderbyniodd yn ystod ei chyfnod yma.

Wrth siarad ar ôl y seremoni, dywedodd Jade:

“Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n gwisgo cap a gŵn ac yn graddio gyda gradd anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Ar adegau, roedd yn anodd cyfuno bod yn fyfyriwr a bod yn fam ond roedd y penderfyniad i wella ein hamgylchiadau ni fel teulu yn fy ngyrru ymlaen ac yn fy ngorfodi i gynllunio a rheoli fy amser yn effeithiol. Hoffwn ddiolch i ddarlithwyr a staff y Brifysgol am eu cefnogaeth aruthrol, sydd wedi caniatáu imi gychwyn ar yr unig yrfa a fu gen i mewn golwg erioed - sef bydwraig llawn-amser.”

Wrth ganmol Jade ar ei gradd, dywedodd Dr Jude Field, Cyfarwyddwr Cwrs y rhaglen Bydwreigiaeth yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd:

“Trwy gydol ei 3 blynedd o hyfforddiant, dangosodd Jade ei hymrwymiad i fydwreigiaeth mewn cymaint o ffyrdd. Roedd dull menyw-ganolog o ddarparu gofal yn amlwg ym mhob un o’i haseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol, roedd ei chefnogaeth bersonol gyda chyd-fyfyrwyr a staff yn rhagorol, ac roedd y ffordd y gwnaeth oresgyn rhai heriau personol trwy ganolbwyntio ar y fath raddau ar ei hastudiaethau yn gwbl ysbrydoledig. Roedd  llwyddo gyda gradd Dosbarth Cyntaf yn ddiweddglo hyfryd i amser Jade gyda ni ym Mangor a dymunwn y gorau iddi yn ei gyrfa.”

Mae Jade bellach wedi dechrau gweithio fel bydwraig yn Ysbyty Glan Clwyd, lle bu’n gwirfoddoli cyn dechrau ei hastudiaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2019