Penodi Athro mewn Gwasanaethau Iechyd ac Ymchwil Weithredu yn Gyfarwyddwr newydd Rhaglen Gwasanaethau Iechyd a Chyflawni Ymchwil yr NIHR

Yr Athro Jo Rycroft Malone.Yr Athro Jo Rycroft Malone.Penodwyd Yr Athro Jo Rycroft-Malone, o Brifysgol Bangor yn gyfarwyddwr Rhaglen Ymchwil Gwasanaethau a Chyflawni Iechyd y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil i Iechyd.  Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR) yw'r corff cyllido mwyaf ar gyfer ymchwil gymhwysol i iechyd yn y Deyrnas Unedig. Bydd yr Athro Rycroft Malone yn dilyn yr Athro Ray Fitzpatrick pan fydd yntau'n camu i lawr o'i swydd yn arwain y rhaglen HS&DR ddiwedd mis Hydref 2015.

Mae gan Yr Athro Rycroft-Malone, sydd â'r Gadair mewn Gwasanaethau Iechyd ac Ymchwil Weithredol, enw da rhyngwladol pan ddaw i sicrhau y rhoddir tystiolaeth ar gyfer ymarfer gorau mewn gofal iechyd ar waith. Mae'n astudio'r prosesau, ymyriadau a chanlyniadau ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd a chyflawni gofal drwy ymchwil dulliau cymysg.

Yn ogystal â bod yn bennaeth Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor, mae'r Athro Rycroft-Malone yn olygydd yr 'International Journal of Health Policy and Management' ac yn aelod o fwrdd golygyddol y BMC Implementation Science ac yn Arweinydd Academaidd ar gyfer Effaith ym Mhrifysgol Bangor.     

Diolchodd y Prif Swyddog Meddygol, Y Fonesig Sally Davies FRS RMedSci, i'r cyfarwyddwr presennol, a chroesawu'r penodiad newydd gan ddweud;

"Mae gan Jo enw da'n rhyngwladol am ymchwil, ac rwy'n siŵr y bydd yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen, gan alluogi i ragor o ymchwil o ansawdd uchel gael ei chyllido i mewn i ansawdd, hygyrchedd a threfniant gwasanaethau iechyd."

Gan siarad am ei phenodiad, dywedodd yr Athro Rycroft-Malone “Mae'n bleser gennyf gael fy mhenodi i'r swydd hon, ac rydw i'n edrych ymlaen at arwain Rhaglen Gwasanaethau Iechyd a Chyflawni Ymchwil yr NIHR ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf.”

Mae'r Rhaglen Gwasanaethau Iechyd a Chyflawni Ymchwil (HS&DR) yn un o ffrydiau cyllido'r NIHR. Mae'n cyllido amrywiaeth eang o ymchwil i gynhyrchu tystiolaeth drwyadl a pherthnasol ynghylch ar drefn ac ansawdd gwasanaethau iechyd, yn cynnwys costau a chanlyniadau. Mae projectau a gyllidir drwy'r rhaglen hon yn llwyddiannus oherwydd bod ganddynt botensial gwirioneddol i gael effaith gadarnhaol ar y ffordd y cyflwynir gwasanaethau iechyd, ac felly ar ganlyniadau i gleifion. 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2014