Dwy o Brifysgol Bangor ar Restr Fer Gwobrau Merched Cymru

Mae dwy o Brifysgol Bangor wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau newydd Gwobrau Merched Cymru 2019. Mae Clare Wilkinson a Debbie Roberts, ill dwy o Ysgol Gwyddorau Iechyd y Brifysgol, wedi eu gosod ar y rhestr fer am eu Gwasanaethau i Addysg.

A hithau’n Athro mewn Meddygaeth Teulu ym Mhrifysgol Bangor, mae Clare yn arwain Canolfan Ymchwil Gofal Cychwynnol Gogledd Cymru (North Wales Centre for Primary Care Research) ac yn cynnal ymchwil i wella gofal cychwynnol a diagnosis canser cynnar ar gyfer pobl yng Nghymru.

Ymunodd yr Athro Debbie Roberts â Phrifysgol Bangor yn 2016 gan dderbyn Cadair mewn Astudiaethau Nyrsio Sylfaenol (Foundation of Nursing Studies/ FoNS) mewn Dysgu Practis (Practice Learning). Mae ei rôl unigryw yn pontio ymarfer clinigol ac addysgu.

Bydd y digwyddiad ‘tei-du’ yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Exchange, Caerdydd, nos Fercher Ebrill 3, pan fydd y merched ysbrydoledig hyn yn dod ynghyd i ddathlu eu cyraeddiadau.

Yr Athro Clare WilkinsonYr Athro Clare WilkinsonChwaraeodd yr Athro Clare Wilkinson ran hanfodol wrth arwain y gwaith i ddod â’r nawdd gwreiddiol i sefydlu Ysgol Glinigol Gogledd Cymru i hyfforddi mwy o ddoctoriaid yng Ngogledd Cymru. Mae hi’n gyn-gadeirydd diweddar ar Banel Gofal Cychwynnol y National Institute for Health, Health Technology Assessment Programme, ac mae hi wedi ennill dros £13M mewn grantiau ymchwil sydd wedi ei harfarnu gan gyfoedion, a £6M ar gyfer isadeiledd ymchwil ac mae wedi cyfrannu at dros 150 o bapurau ymchwil sydd wedi eu harfarnu gan ei chyfoedion.

Meddai:

“Mae’n fraint cael fy enwebu ochr yn ochr â merched mor flaengar, ac rwy’n ymhyfrydu wrth weld yr holl gategorïau a’r merched sy’n eu poblogi.”

Mae rôl unigryw’r Athro Debbie Roberts yn ei galluogi i weithio gyda myfyrwyr Prifysgol Bangor ac efo nyrsys sydd wedi cymhwyso, yn ogystal â phobl broffesiynol eraill o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ei phrif ffocws yw ymestyn a datblygu amgylcheddau dysgu ar gyfer myfyrwyr nyrsio’r Brifysgol ac i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y GIG yng Ngogledd Cymru. Yn ystod ei gyrfa 19 blynedd yn maes academia, mae Debbie wedi cyhoeddi’n Yr Athro Debbie RobertsYr Athro Debbie Robertseang ym maes addysg nyrsio, gan gynnwys papurau academaidd a gwerslyfrau addysg nyrsio, gydag un ohonynt yn werslyfr sylfaen yn Siapan.

Wrth ymateb i’w henwebiad ar gyfer Gwobrau Merched Cymru, dywedodd Debbie:

“Mae’n fraint o’r mwyaf cael fy enwebu am wasanaeth i addysg a bod ymhlith merched mor flaenllaw o bob cwr o Gymru.”

Nod Gwobrau Merched Cymru 2019 yw cydnabod a dathlu llwyddiant merched, boed yn entrepreneuriaid, yn gweithio ym myd busnes, mewn meysydd proffesiynol, y gwasanaeth sifil, mewn lifrai, yn gweithio i’r sector elusennol a llawer mwy, sydd yn cyfrannu at wneud Cymru yn wlad wych i fyw ynddi. Mae’r Gwobrau’n ymgorffori cryfder a phendantrwydd parhaus merched, gan  barchu’r rhai sydd yn parhau i ffynnu yn eu meysydd.

Meddai unigolyn ar ran Gwobrau Merched Cymru 2019:
“Mae’r Gwobrau hyn yn dathlu pŵer ac ehangder y talent sydd wrth wraidd pob merch a’r gwaith caled gan ferched arwrol, sydd yn aml ddim yn cael ei gydnabod.

“Rydym yn hapus i weld ymwneud mawr gan y cyhoedd a ymunodd yn y broses enwebu i ethol eu hoff bersonoliaethau sydd wedi dilyn eu breuddwydion a chyflawni eu nodau. 

“Rydym yn gobeithio y bydd y merched yn y rownd derfynol yn ysbrydoli merched eraill i ddilyn yn ôl eu hesiampl ac yn edrych ymlaen at groesawu merched sydd yn haeddu canmoliaeth i seremoni fythgofiadwy. Rydym yn dymuno’n dda i bawb sydd yn y rownd derfynol.”

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019