Dwy wobr RCBC glodwiw i Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor

Mae'n bleser gan Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor bod Robert Goldsmith, Ffisiotherapydd Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol wedi'i leoli yng Nghaerdydd, a Patricia Masterson-Algar, ymchwilydd ôl-radd ym maes adsefydlu yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor, ill dau wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu cyllid RCBC Cymru gan Lywodraeth Cymru. Nod hwn yw cynyddu cydweithio a gwaith ymchwil ym meysydd nyrsio, bydwreigiaeth a’r proffesiynau perthynol i iechyd ar draws Gymru.

Roedd Robert yn llwyddiannus dan y ffrwd 'First into Research' a fwriadwyd ar gyfer newydd-ddyfodiaid i ymchwil neu'r rhai sydd am ddiweddaru eu sgiliau. Mae Robert yn awyddus iawn i geisio cael gwell dealltwriaeth o sut gall cleifion wneud synnwyr o'u cyflwr ac mae'n canolbwyntio ar seiatica. Dywed Robert “Rydw i'n awyddus dod i wybod yr hyn mae pobl â seiatica yn ei feddwl sy'n bod arnyn nhw, a sut mae hyn yn effeithio ar eu dewis o driniaeth. Os allwn ni ddeall hyn o safbwynt cleifion, efallai y byddwn yn gallu cynnig esboniadau gwell. Mae hyn yn debygol o helpu i wella pa mor effeithiol ydi triniaethau ymarfer i gleifion ar draws y Deyrnas Unedig.”

Bydd y wobr hon yn galluogi i Robert gwblhau project ymchwil, gan barhau i drin cleifion yn ei swydd glinigol gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae dod ag ymchwil i realiti beunyddiol ymarfer glinigol yn hanfodol os ydym am ateb cwestiynau sy'n bwysig ac ystyrlon i gleifion. Mae Robert yn edrych ymlaen at ddechrau ar y project, ac meddai "Mi ddewisais i wneud cais gyda Phrifysgol Bangor oherwydd bod ganddi record wych o ymchwil o ansawdd uchel ym maes gofal iechyd. Mae Dr Nefyn Williams yn ymchwilydd profiadol ym maes cyflyrau cyhyrysgerbydol ac rydw i hefyd yn ddiolchgar iawn i Dr Fiona Wood o'r ganolfan PRIME am ei chefnogaeth.”

Roedd Patricia yn llwyddiannus dan y ffrwd 'Cymrodoriaeth Ymchwil Ôl-ddoethurol'. Bydd ei phroject, wedi'i leoli yng ngogledd Cymru, yn ymchwilio i raglenni cefnogi cyfoedion (PSP) ar gyfer oedolion ifanc mewn teuluoedd y mae cyflwr niwrolegol yn effeithio arnynt. Rhaglenni PSP yw'r rhai sy'n defnyddio gosodiad cyfoedion lle mae unigolion yn dysgu drwy ryngweithio gyda chyfoedion mewn amgylchiadau tebyg, arsylwi arnynt a gwrando arnynt. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod cyflwr niwrolegol yn effeithio ar fwy na 500,000 o bobl yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gwthio am ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar deuluoedd, lle ystyrir anghenion pawb yn y teuluoedd hyn. 

Gan ddisgrifio pwysigrwydd y cyllid, dywedodd Patricia "Rydw i'n hapus iawn ynghylch cael y gymrodoriaeth oherwydd mi fydd yn ffordd wych i barhau gyda fy ngyrfa fel ymchwilydd adsefydlu, a gallu datblygu gwaith newydd yn Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor, yn edrych ar gefnogaeth i gyfoedion o safbwynt therapi galwedigaethol. Rydw i'n bwriadu defnyddio'r ymchwil hon i gynhyrchu argymhellion wedi eu seilio ar dystiolaeth a fydd yn gwella'r modd y caiff rhaglenni PSP eu cynllunio a'u cyflwyno.”

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2017