Dosbarth meistr ar gyfer myfyrwyr nyrsio anableddau dysgu

Croesawyd Mark Gray, sy’n nyrs anabledd dysgu ac yn ymgynghorydd ym maes anabledd a golwg i ddiwrnod ‘Cymuned Ymarfer Anabledd Dysgu’ yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd.  Mae diwrnodau ‘Cymuned Ymarfer’ yn galluogi myfyrwyr israddedig nyrsio anabledd dysgu o flwyddyn 1, 2 a 3 i ddysgu gyda'i gilydd. Nododd Mark Gray rai ffeithiau sylfaenol, megis, mae gan tua 50,000 o bobl ag anabledd dysgu sy'n hysbys i wasanaethau yn y DU nam ar eu golwg ac yn ychwanegol mae 15,000 yn ddall (Emerson a Robertson,2012). 

 Mynegwyd yn glir rôl y nyrs anabledd dysgu sydd yn gweithio gydag unigolion sy'n colli eu golwg.  Dysgodd y myfyrwyr nyrsio am gyflyrau llygaid sy’n gyffredin mewn pobl ag anabledd dysgu: cataract cydenedigol a dirywiad oedran-gysylltiedig; dirywiad macwlaidd oedran-gysylltiedig; glawcoma, kerataconous; nam golwg cortigol a retinopathi diabetig.  Creodd hyn drafodaeth ar sut mae unigolion ag anabledd dysgu yn byw gyda'r cyflyrau hyn (sydd weithiau ddim yn cael eu hadnabod).  Er enghraifft, dim ond gwrthrychau llonydd mae unigolion sydd â phroblemau canfyddiad symudiadau yn weld, felly gall dysgu iaith arwyddo fod yn anodd iawn. 

 Roedd Mark yn gallu cysylltu'r holl faterion hyn ag enghreifftiau o ymarfer nyrsio anabledd dysgu a rhannu ei wybodaeth a'i sgiliau ynglŷn â sut i weithredu addasiadau rhesymol i ddiwallu anghenion unigolion mewn dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.  Yna, bu'r myfyrwyr yn ystyried rôl y nyrs anabledd dysgu wrth alluogi mynediad cyfartal i ofal llygaid ar gyfer unigolion.  Hefyd cafwyd y cyfle i ystyried ac ymarfer asesiadau cychwynnol a rhaglenni dadsensiteiddio gan ddefnyddio gwrthrychau cyfeirio. I gloi, awgrymodd Mark y dylai pob nyrs, yn ystod asesiad nyrsio, chwilio am unrhyw symudiadau anarferol o'r pen, gofyn y cwestiynau cywir i'r bobl gywir, meddwl am yr addasiadau sydd eu hangen i gyfathrebu'n effeithiol.  Diolchwyd i Mark Gray am roi ei amser i'r myfyrwyr ac fel y nododd Marissa (myfyrwyr ail flwyddyn nyrsio anabledd dysgu) ar ddiwedd y diwrnod "Dwi’n bendant am gadw fy llygaid ar agor ac edrych ar bobl mewn ffordd wahanol".

 

Dogfennau cysylltiedig:

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2018