Dathlu cyfraniadau eithriadol i addysgu a dysgu

Mae naw aelod o staff wedi derbyn gwobr arobryn Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Bangor. Mae'r Cymrodoriaethau Addysgu yn cydnabod pwysigrwydd addysgu a dysgu eithriadol o fewn y Brifysgol, ac yn cael eu gwobrwyo ar sail tystiolaeth o fewn pum categori: Ymestyn, Arloesi, Effaith ac Arweinyddiaeth.

Cafodd yr enwebiadau ar gyfer y Cymrodoriaethau eu gwneud gan y Penaethiaid Ysgol, ac roedd eu tystiolaeth yn cael ei adolygu gan Banel y Cymrodoriaethau Addysgu, wedi ei gadeirio gan Yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Dysgu ac Addysgu. Mae aelodaeth y Panel yn cynnwys Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu y Colegau, aelodau o CELT, y Ganolfan Gwella Addysgu a Dysgu, a chynrychiolwyr o Undeb y Myfyrwyr.

Meddai'r Athro Nicky Callow, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Dysgu ac Addysgu,

"Mae'r rhai sy'n derbyn Cymrydoriaethau eleni yn ymgorffori rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu o fewn Prifysgol Bangor. Heb os mae'r rhain wedi trawsnewid profiadau dysgu ar gyfer myfyrwyr unigol, grwpiau o fyfyrwyr, modiwlau a rhaglenni. Mwy na hynny, mae'r rhai sy'n derbyn y wobr yma wedi gwella ymarfer da i fewn, ac mewn sawl achos, tu hwnt i'n Prifysgol ni. Tra bod derbyn Cymrodoriaeth Addysgu gan Brifysgol Bangor wastad yn gydnabyddiaeth arbennig o ragoriaeth, mae derbyn y wobr o dan amgylchiadau heriol y flwyddyn hon wir yn eithriadol."

Cyflwynir Gymrodoriaethau Addysgu yn y Coleg Gwyddorau Dynol eleni i:

Dr Gemma Griffith - Uwch Ddarlithydd Seicoleg

Mae Dr Gemma Griffith yn aelod rhagorol o staff o fewn yr Ysgol Seicoleg. Mae Gemma yn Gyfarwyddwr Cwrs ar gyfer ein rhaglenni meistr mewn Ymwybyddiaeth Ofalgar, ac yn y rôl yma, mae hi wedi ehangu mynediad i nawdd, gan godi nifer y ceisiadau'n sylweddol. Mae ymchwil addysgegol Gemma ar hyfforddiant athrawon hefyd yn hybu ymarfer da ar draws y DU ac yn rhyngwladol, sydd wedi ei dystiolaethu gan ei chyhoeddiadau diweddar, gan gynnwys y gyfrol  Essential Resources for Mindfulness Teachers (2021).

Mae gan Gemma brofiad gwych o ran arolygu traethodau hir, sy'n galluogi nifer o'i myfyrwyr gradd meistr i gyhoeddi; mae hyn wedi ei glodfori fel ymarfer eithriadol gan arholwyr allanol. I grynhoi, mae mentora ac arweinyddiaeth gofalus a thosturiol Gemma, yn ogystal a'i rhagoriaeth o ran addysgu ac addysgeg, yn golygu ei bod hi'n haeddu'r wobr arbennig hon.

Dr Caroline Bowman, Pennaeth dros dro, Ysgol Seicoleg

Meddai Gemma, "Mae'n bleser derbyn y gymrydoriaeth addysgu am ddysgu ar y rhaglenni meistr mewn Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor. Mae addysgu ar y cwrs meistr wedi golygufy mod i a'r tîm wedi datblygu addysgeg o gwmpas ymarfer da wrth hyfforddi athrawon ymwybyddiaeth ofalgar, mae hyn yn cynnwys yr inside out group model

teclyn ymarfer adlewyrchiol o'r enw MBI:TLC a llyfr diweddar o'r enw ‘Essential Resources for Mindfulness Teachers’. Astudiais Seicoleg yn wreiddiol nôl yn 2004 yn y gobaith y byddwn rhyw ddydd yn medru cael effaith bositif ar bobl, ac wrth i ni hyfforddi myfyrwyr i fod yn athrawon ymwybyddiaeth ofalgar eu hunain, mae yna deimlad bod ein addysgu ar y cwrs meistr yn cael effaith tu hwnt i Fangor, pryd mae'n myfyrwyr ni yn dysgu eu myfyrwyr am sut i ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar i helpu lleihau straen a gwella lles. Mae'r synnwyr hwnnw o 'berthyn' i gymuned o ymarferwyr ac ymchwilwyr ymwybyddiaeth ofalgar - sy'n tynnu ar ddoethineb y rhai a'm dysgodd i, a phasio'r wybodaeth yna ymlaen i eraill, yn ysbrydoliaeth ddyddiol i mi."

Dr Jaci Huws - Uwch Ddarlithydd Gwyddorau Gofal Iechyd

Mae'n bleser gweld Jaci yn derbyn y wobr yma eleni, sy'n destament i cyfraniad rhagorol a chyson Jaci o ran addysgu, dysgu a chefnogi myfyrwyr Bangor.

Mewn sawl rôl, mae Jaci yn arddangos safonau arbennig o uchel o ran addysgu, ac awydd gref i gynnig y profiad gorau i fyfyrwyr fedru ffynnu. Mae’r wobr hon yn adlewyrchu cydnabyddiaeth gan fyfyrwyr a chydweithwyr o ymrwymiad di-flino Jaci i’w rôl ym Mangor.

Mae Jaci yn esiampl wych i eraill a hoffwn ei llongyfarch yn wresog ar y Gymrodoriaeth Addysgu.

Dr Lynne Williams, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd

Meddai Jaci, "Mae myfyrwyr sy'n astudio ar y cyrsiau rwy'n eu dysgu yn dod o bedwar ban byd - mae rhai yn byw tafliad carreg o'r Brifysgol, tra bod llawer yn teithio miloedd o filltiroedd i astudio ym Mangor. Maent i gyd yn rhannu angerdd am iechyd, y cyhoedd iechyd, a hybu iechyd, a'r hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf am fy ngwaith yw bod ymhlith cymaint o fyfyrwyr sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Bonws ychwanegol yw gwneud fy ngwaith fel rhan o dîm o staff sydd hefyd yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaethau cadarnhaol i fywydau pobl; does ryfedd fy mod i'n caru fy swydd gymaint! "

Kevin Williams

Prif Dechnegydd – Ymchwil Ffisioleg ac Addysgu

Mae Kevin Williams wedi cael dylanwad eang ar addysgu a chefnogaeth myfyrwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae ei waith yn rhagorol ac yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir ar gyfer aelod technegol o staff. Fel pwnc ymarferol a chymhwysol, sy'n cael ei ddysgu drwy gwricwlwm a arweinir gan ymchwil, mae gwyddoniaeth chwaraeon ac ymarfer corff ym Mangor yn ddibynnol iawn ar gymorth labordy a thechnegol. Mae Kevin wedi darparu hyn heb fai yn ystod ei yrfa, ond mae hefyd wedi mynd y tu hwnt i hynny i sicrhau bod elfen ymarferol i’n graddau israddedig ac ôl-raddedig wedi parhau’n bosibl yn ystod y pandemig.

Y tu hwnt i'w rôl fel technegydd, mae Kevin yn arweinydd modiwl a thiwtor personol, a'i waith yn cael ei ystyried yn rhagorol gan ei fyfyrwyr a'i gydweithwyr. Mae'n defnyddio ei sgiliau iaith Saesneg a Chymraeg, ac mae bob amser yn barod i ollwng ei dasg gyfredol i helpu myfyrwyr a staff unigol pan fyddant yn anochel yn curo ar ei ddrws ar adegau o angen, p'un ai yn y labordy neu'n fugeiliol. Mae gweithgareddau Kevin yn cael effaith gadarnhaol ar yr Ysgol gyfan, ac rydym i gyd yn falch iawn bod ei ymroddiad a'i ragoriaeth yn cael ei gydnabod gyda Chymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Bangor.

Dr Jamie Macdonald, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

Ychwanegodd Kevin, "Mae cael y cyfle i ddysgu ein myfyrwyr fel technegydd yn anrhydedd fawr i mi a dyma'r agwedd ar fy rôl sy'n rhoi'r mwyaf o foddhad a theimlad o gyflawniad i mi. Mae eleni wedi bod yn arbennig o heriol i'r holl staff addysgu ac wedi gofyn am gyflwyno sesiynau addysgu yn hyblyg ac yn arloesol.

Yn y labordy defnyddwyd cymysgedd o adnoddau ar-lein ac addysgu ‘yn bersonol’, gyda gweithdrefnau ac offer wedi’u haddasu’n sylweddol i sicrhau diogelwch myfyrwyr a staff. Roedd y gwaith ychwanegol dan sylw yn anodd iawn ei reoli ar brydiau, ond roedd yr adborth a gawsom gan ein myfyrwyr a'n staff yn wych ac yn gwneud yr holl ymdrech ychwanegol yn werth chweil. Mae'n anrhydedd wirioneddol i mi dderbyn y wobr hon a diolch i'r holl staff sy'n cymryd rhan.

Llongyfarchiadau i chi oll!

Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2021