Astudiaeth ASPIRE: Gweithredu rhaglen effeithiol therapi wybyddol seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar (MBCT) mewn gwasanaethau GIG yn y Deyrnas Unedig
Astudiaeth ASPIRE: Gweithredu rhaglen effeithiol mewn gwasanaethau GIG yn y Deyrnas Unedig i atal ail bwl o iselder: dysgu oddi wrth therapi wybyddol seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar drwy astudiaeth dulliau cymysg
Roedd ASPIRE yn astudiaeth ansoddol, archwiliadol ac eglurhaol mewn dau gam a gynhaliwyd i ddisgrifio darpariaeth bresennol MBCT yn y GIG yn y DU, datblygu dealltwriaeth o gostau a manteision tybiedig gweithredu MBCT, ac archwilio ffactorau rhwystrau a llwyddiant o ran gwell hygyrchedd. Casglwyd y dystiolaeth o nifer o ffynonellau data er mwyn creu fframwaith eglurhaol ar sut a pham y dylid gweithredu, ac i gyd-ddatblygu adnodd gweithredu gyda budd-ddeiliaid allweddol.
Daeth yr astudiaeth i'r casgliad er bod mynediad at MBCT ar draws y DU yn gwella ei fod yn parhau'n fylchog iawn. Mae'r astudiaeth hon yn rhoi fframwaith eglurhaol sy'n ein helpu i ddeall beth sy'n hwyluso a chefnogi gweithredu MBCT cynaliadwy.
Dilynwch y linc i gael yr adroddiad llawn:
https://www.journalslibrary.nihr.ac.uk/hsdr/hsdr05140/#/abstract
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2017