Staff academaidd yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae pedwar aelod staff academaidd o Brifysgol Bangor wedi cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Yr wythnos yma cyhoeddodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ganlyniadau Etholiad 2015 am Gymrodyr newydd. O’r deugain o Gymrodyr newydd eleni, roedd pedwar o Brifysgol Bangor – Yr Athro Ludmila Kuncheva FIAPR FLSW, Ysgol Gwyddor Cyfrifiadureg; Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards FLSW, Athro Economeg Iechyd a Chyd-gyfarwyddwr Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau; Yr Athro Helen Wilcox FEA FRSA FRSL FLSW, Ysgol Llenyddiaeth Saesneg a’r  Athro Angharad Price FLSW, Ysgol y Gymraeg.

Hefyd, etholwyd Yr Athro Bridget Emmett FSB FLSW, Arweinydd Maes Gwyddonol Pridd, Pennaeth Adran a Phennaeth Safle, Canolfan Ecoleg a Hydroleg sydd mewn partneriaeth ag Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth y Brifysgol fel rhan o Ganolfan Amgylchedd Cymru .

Meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor: "Rwyf wrth fy modd bod pedwar aelod ychwanegol o’n staff academaidd wedi cael eu cydnabod a'u hanrhydeddu gyda Chymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hyn yn adlewyrchiad pellach o amlygrwydd yr unigolyn o fewn eu disgyblaethau academaidd priodol."

Mae cael eich ethol yn Gymrawd yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd, a cheir cystadleuaeth frwd i ymuno â Chymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Gymdeithas yn harneisio arbenigrwydd y Gymrodoriaeth i hybu ymwybyddiaeth o’r modd y mae’r gwyddorau a’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol yn dod â budd i gymdeithas. Gall y Cymrodyr gynorthwyo gwaith y Gymdeithas drwy wasanaethu ar ei hamrywiol bwyllgorau a gweithgorau a thrwy ein cynrychioli ni’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Meddai Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas:     

“Rwyf i’n falch iawn i groesawu amrywiaeth mor eang o unigolion rhagorol i’r Gymrodoriaeth eleni. Caiff pob Cymrawd newydd ei ethol ar deilyngdod nodedig ei waith. Bydd y Cymrodyr newydd hyn yn helpu i gryfhau ein gallu i gefnogi rhagoriaeth ar draws pob maes o fewn bywyd academaidd a chyhoeddus Cymru a thramor.

"Mae’n galonogol hefyd mai’r gyfran o Gymrodyr benywaidd sydd wedi’u hethol eleni (35%) yw’r uchaf yn hanes y Gymdeithas. Mae nifer cynyddol o fenywod yn cyrraedd lefelau uchaf eu disgyblaeth, ac yn ddigon priodol caiff hyn ei adlewyrchu yn y nifer a gaiff eu hethol i Gymrodoriaeth y Gymdeithas.”

Ceir proses enwebu drylwyr ag iddi bum cam ar gyfer ethol i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Gymrodoriaeth ar agor i ddynion a menywod o bob oed ac o bob grŵp ethnig sydd â hanes clir o ragoriaeth a chyflawniad mewn unrhyw un o'r disgyblaethau academaidd, neu, a hwythau'n aelodau o'r proffesiynau, y celfyddydau, diwydiant, masnach neu wasanaethau cyhoeddus, sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd dysg; ac sydd yn preswylio yng Nghymru, neu sydd yn unigolion sydd wedi'u geni yng Nghymru ond sy'n preswylio mewn man arall, neu sydd fel arall â chyswllt penodol â Chymru.

Meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor: "Rwyf wrth fy modd bod pedwar aelod ychwanegol o’n staff academaidd wedi cael eu cydnabod a'u hanrhydeddu gyda Chymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hyn yn adlewyrchiad pellach o amlygrwydd yr unigolion o fewn eu disgyblaethau academaidd priodol."

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2015