Mae ymyriadau yn y gweithle yn gwella iechyd a boddhad yn y gwaith yn gyffredinol yn ôl adroddiadau'r staff eu hunain

Mae adroddiad gan Brifysgol Bangor yn tynnu sylw at y ffaith bod rhoi amser â thâl i'r staff gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn effeithiol,  mae'r staff yn ei weld yn beth cadarnhaol, ac mae'n arwain at newidiadau cadarnhaol yn iechyd pobl.

Hefyd, pe bai mwy o gefnogaeth i'r fenter, gallai arwain at fuddion ehangach a newid ymddygiad cynaliadwy i fwy o staff.

Mae oedolion yn treulio cyfran sylweddol o'u bywydau yn eistedd wrth eu gwaith, boed hynny yn y swyddfa neu gartref. Os na fydd rhywun yn gwneud dim byd corfforol gall hynny effeithio'n negyddol iawn ar eu hiechyd, yn y tymor byr a'r tymor hir. Felly, mae'n bwysig nodi ffyrdd o hyrwyddo ymarfer corff a chynyddu lefelau gweithgareddau'r gweithwyr. Mae modd gwneud hynny trwy gyflwyno mentrau yn y gwaith sy'n cynnig cyfleoedd a chyfleusterau i fod yn fwy egnïol.

Dewisodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru, arwain trwy esiampl a chyflwyno menter gweithgarwch corfforol newydd o'r enw Amser Symud (TTM), a nod y fenter honno yw gwella iechyd a lles y gweithwyr. Roedd y fenter 12 mis yn gyfle i'r holl weithwyr gael awr yr wythnos (pro-rata) o amser o'r gwaith â thâl i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol o'u dewis (e.e. cerdded, rhedeg, ioga).

Cafodd y fenter ei gwerthuso dros gyfnod o 12 mis gan Uned Cydweithredu Iechyd y Cyhoedd, Ysgol y Gwyddorau Iechyd, trwy holiaduron, casglu mesurau corfforol fel taldra, pwysau, pwysedd gwaed a grwpiau ffocws.

Dengys  yr adroddiad newydd 'Gwerthuso menter beilot gweithgarwch corfforol yn y gweithle: Amser Symud' i gyfranogwyr Amser Symud wella eu hiechyd a'u lles cyffredinol, a'u boddhad yn y gwaith ar ôl 12 mis o'r fenter. Y cyfranogwyr a oedd yn y categori gweithgaredd corfforol isel, iechyd hunan-gofnodedig isel, lles meddyliol isel ac a oedd â boddhad isel yn y gwaith ar y llinell sylfaen a welodd y cynnydd mwyaf yn sgil y fenter (12 mis). Golyga hynny iddynt gymryd rhan mewn mwy o weithgareddau corfforol, eu bod yn teimlo'n iachach ac yn hapusach, ac yn fwy bodlon yn eu gwaith. Doedd dim tystiolaeth o welliannau ym mynegai màs y corff, canran braster y corff na phwysedd gwaed dros y 12 mis.

Meddai Catherine Sharp a oedd yn arwain y gwaith ymchwil o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor:

“Disgrifiwyd Amser Symud gan gyfranogwyr y grŵp ffocws fel “syniad gwych” a ddarparodd “fanteision mawr i'r staff ac i'w lles”. Y canlyniad amlycaf a briodolwyd i gymryd rhan yn yr Amser Symud oedd gwella eu hiechyd meddwl a'u lles gan fod Amser Symud yn gyfle i gael gwared ar straen. Y prif rwystrau oedd diffyg cyfleusterau ac mewn rhai gwasanaethau a rolau, roedd yn anodd cymryd yr amser a ganiateid. Dywedodd rhai o gyfranogwyr y grwpiau ffocws i'r fenter gynyddu sgyrsiau yn y gweithle ynglŷn â lles meddyliol a bu hynny'n fuddiol i amgylchedd y gwaith.”

(Dolen at yr adroddiad yn y stori ar ein prif gwefan newyddion)

 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2020