Myfyriwr iechyd yn gwella bywydau pobl fregus drwy Therapi Celf

Credir mai project a wneir gan fyfyriwr nyrsio ym Mhrifysgol Bangor yw'r cyntaf ym maes therapi celf. 

Mae Stephanie Morris, myfyriwr trydedd flwyddyn ar gampws Bangor yn Wrecsam, wedi derbyn £5000 gan gystadleuaeth 'Dragons' Den' Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, er mwyn datblygu ei phroject arloesol.  Mae Stephanie'n defnyddio Therapi Celf yng nghanolfan Tŷ Croeso i'r digartref yn Wrecsam er mwyn casglu data.  Gobeithir y bydd y wybodaeth a'r ddealltwriaeth a gesglir o'i sesiynau wythnosol yn helpu i roi cynlluniau ar waith i wella ansawdd yn y gwasanaeth gofal iechyd yn Wrecsam, ac yn arbennig datblygu'r gwasanaeth a ddarperir i bobl ddigartref.Mae project Stephanie’n ailddyfeisio’r ffyrdd y gellir helpu pobl ddigartref.Mae project Stephanie’n ailddyfeisio’r ffyrdd y gellir helpu pobl ddigartref.

Mae'r therapi'n galluogi pobl i fynegi eu hemosiynau drwy brosesau artistig a chreadigol.  Fe'i defnyddiwyd yn llwyddiannus yn barod i gynorthwyo pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, megis dementia, ond credir mai project Stephanie yw'r cyntaf i ddefnyddio'r therapi'n arbforol gyda phobl ddigartref.  Mae'r project, o'r enw Health4Homeless, yn helpu pobl yn arbennig drwy'r broses rhyddhau o ysbyty i'r gymuned drwy adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng gwasanaethau.  Mae'n galluogi pobl fregus i rannu eu storiau gyda nyrsys, a thrwy hynny leihau stigma a chynorthwyo gweithwyr proffesiynol i gael gwell dealltwriaeth o sut i helpu.

IMAGE

Mae project Stephanie’n ailddyfeisio’r ffyrdd y gellir helpu pobl ddigartref.

Mae Stephanie'n bendant y bydd ei gwaith yn arwain at newid ymarferol.  Dywedodd: "Dwi'n gobeithio y bydd y project yn darparu gwasanaeth i bobl fregus yn ein cymdeithas.  Mae'r sylwadau rydw i wedi eu cael hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn - mae'r rhan fwyaf o bobl wedi bod yn fwy na pharod i gymryd rhan.  Mae'n cael pobl oddi ar y strydoedd.  Yn drist, mae llawer o bobl yn gorffen ar y strydoedd ar ôl cael eu rhyddhau o ysbyty ac mae hyn yn rhywbeth sydd wir angen sylw.  Bydd y project gobeithio'n arwain at gydweithio rhwng gwasanaethau a thrwy hynny leihau gwahaniaethu.  Mae'n rhoi ymdeimlad mawr o gyflawni i mi'n bersonol." 

Bydd yr arian a gafodd Stephanie drwy ennill y gystadleuaeth yn helpu i ddarparu prydau bwyd poeth i bobl, a'i galluogi i hysbysebu ei phroject.  Mae Tŷ Croeso hefyd wedi rhoi sêl eu bendith ar broject Stephanie a chredant ei fod yn ddarn o ymchwil gwerthfawr a fydd o fudd i grwpiau bregus.  Meddai Tanya Jones, Uwch Weithiwr Cefnogi yn y Ganolfan: "Mae Stephanie'n gwneud project gwerthfawr wedi'i seilio ar ymchwil sy'n ddifyr a chefnogol i ddefnyddwyr y gwasanaeth.  Rydym yn gwerthfawrogi ei gwaith creadigol."

Y gystadleuaeth oedd y gyntaf o'i bath i'w chynnal gan Fwrdd Betsi Cadwaladr.  Gwahoddwyd pobl i gyflwyno eu syniadau arloesol, gyda'r beirniaid yn chwilio am fudd y cynlluniau i gleifion a'r tebygolrwydd i'r projectau fod yn llwyddiannus.  Cafodd brwdfrydedd Stephanie ynghylch ei gwaith ganmoliaeth neilltuol gan y beirniaid.  Meddai Dr Lynne Grundy, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol yn BIPBC a mentor Stephanie:  "Roedd yn amlwg o gyflwyniad Stephanie ei bod wirioneddol eisiau i'w phroject fod yn llwyddiannus, ac ansawdd ei chyflwyniad enillodd y cyllid iddi.  Daeth yn amlwg o'i cyflwyniad ei bod yn hynod frwdfrydig ac ymroddedig."

Gan Mark Barrow - Myfyriwr ar Interniaeth yn CoHaBS  

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2016