OPSWISE – Gwella gofal i bobl hŷn

Mae astudiaeth gan Brifysgol Bangor wedi rhoi golwg newydd ar sut mae gwasanaethau iechyd ar gyfer pobl hŷn yn cael eu cynnal.

Mae OPWISE, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2013 dan arweiniad yr Athro Jo Rycroft-Malone, Dirprwy Is-Ganghellor, yn ymchwilio i swyddogaethau gweithwyr cynnal i sicrhau fod ganddynt y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen wrth ofalu am bobl hŷn. Wrth ddefnyddio 'synthesis realaidd', damcaniaeth sy'n seiliedig ar syntheseiddio tystiolaeth, mae'r astudiaeth wedi rhoi goleuni newydd ar ymarfer a pholisi sy'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol. Cafodd y gwaith ei lywio trwy ymgynghori â chleifion a chynrychiolwyr cyhoeddus.

Mae gan y Deyrnas Unedig boblogaeth sy'n heneiddio, a rhagwelir y bydd un o bob pump o bobl dros 65 oed erbyn 2033. Mae'r Athro Rycroft-Malone yn hyderus y bydd yr astudiaeth yn arwain at effaith wirioneddol ar ansawdd y gofal iechyd y bydd y boblogaeth hon sy'n heneiddio yn ei gael. Dywedodd "Mae her enfawr yn ein gwasanaethau i ddarparu gofal cymdeithasol o safon uchel ar gyfer pobl hŷn,  felly mae'n hanfodol ceisio datblygu ein rhaglenni hyfforddi cyfredol, yn enwedig ar gyfer gweithwyr gofal cynorthwyol gan mai dyna'r elfen fwyaf yn y gweithlu. “

Mae'r astudiaeth wedi dynodi sawl maes allweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw. Er enghraifft, mae angen i bob gweithiwr cynnal gael eu cydnabod a'u gwobrwyo am eu syniadau, ac i'r systemau y maen nhw'n gweithredu o'u mewn i ddysgu oddi wrthynt ac i anghenion hyfforddi fod wedi eu seilio ar realiti'r gwaith a thynnu oddi ar enghreifftiau a phrofiadau go iawn.

Mae'r prosiect yn gysylltiedig â Phrifysgol St Andrews a Phrifysgol Queen Mary. Mae'n digwydd wrth i Brifysgol Bangor ddathlu lansio'r Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol, rhaglen arloesol a fydd hefyd yn cyfrannu at wella gofal i gleifion ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Mae'r Athro Chris Burton, Pennaeth Gwyddorau Gofal Iechyd ac un o ymchwilwyr OPWISE, yn credu y bydd y canfyddiadau yn cadarnhau ymhellach pa mor rhagorol yw'r ymchwil ym Mangor. Dywedodd: "Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o ymchwil blaenllaw Bangor ym maes gofal clinigol. Mae'n bwysig ein bod yn datblygu strategaeth sy'n ystyriol o anghenion pobl hŷn, gweithwyr cynnal, rheolwyr gofal iechyd a sefydliadau, a dyna y bydd ein hastudiaeth yn helpu i'w wneud."

Mae’r astudiaeth wedi bod trwy bedwar cam a bellach mae bron ar ben, a chaiff ei chyhoeddi ym mis Mai 2016. Yn bennaf bydd yn gwneud argymhellion ymarferol i wella hyfforddiant presennol ac arferion datblygu ac er y bydd yn cyfeirio'n bennaf at y GIG efallai y bydd sectorau eraill sy'n defnyddio gweithwyr cynorthwyol, megis addysgu, hefyd yn gweld y canfyddiadau'n ddefnyddiol.

Roedd Dr Diane Seddon o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas hefyd yn aelod o'r tîm.

Cewch ragor o wybodaeth am OPWISE yn http://www.nets.nihr.ac.uk/projects/hsdr/1212932.

 Gan Mark Barrow

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016