Dau fyfyriwr o Fangor ar restr fer Gwobrau'r Student Nursing Times

Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor yn hynod falch bod dwy fyfyrwraig, Abigail Sinnett a Francesca Elner, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau'r Student Nursing Times 2016. Mae Abigail yn un o naw myfyriwr bydwreigiaeth o'r Deyrnas Unedig sydd yng nghategori Myfyriwr Bydwreigiaeth y Flwyddyn. Mae Francesca yn un o ddeg myfyriwr nyrsio o'r Deyrnas Unedig sydd yng nghategori Myfyriwr Nyrsio'r Flwyddyn: Oedolion.

Gwobrau'r Student Nursing Times yw'r unig ddigwyddiad yn y wlad sy'n cydnabod myfyrwyr eithriadol a'u hathrawon. Bellach yn ei phumed blwyddyn, mae'r digwyddiad wedi dyblu mewn maint blwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae'n parhau i wobrwyo myfyrwyr sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau ynghyd â mentoriaid, darlithwyr a darparwyr addysg sydd wedi llywio ac ysbrydoli nyrsys y dyfodol.

Eleni bydd Gwobrau'r Student Nursing Times yn talu teyrnged i fyfyrwyr nyrsio sydd wedi dangos y rhagoriaeth academaidd, y gallu clinigol a'r nodweddion personol a fydd yn eu gwneud yn nyrsys gwych. Yn ogystal â chydnabod a gwobrwyo sefydliadau addysgu nyrsys a phrifysgolion rhagorol mae'n anrhydeddu'r rheiny sy'n ymroddedig i ddatblygu talent nyrsio newydd megis mentoriaid, darlithwyr a darparwyr lleoliadau. 

Abigail SinnettAbigail SinnettRoedd Abigail, 22, o Warrington, myfyriwr bydwreigiaeth trydedd flwyddyn, wrth ei bodd yn clywed am yr enwebiad gan ei ffrind gorau a chyd fydwraig. Dywedodd: "Doeddwn i ddim yn gwybod sut i adweithio yn y lle cyntaf am nad oeddwn yn teimlo ei fod yn real, ac wedyn dechreuais grio â llawenydd. Roeddwn mewn sioc, yn hynod o falch ac yn ofnadwy o hapus."

Am ei rhesymau dros hyfforddi i fod yn fydwraig, dywedodd: "Gweithio gyda merched ar adegau o newid enfawr, grymuso merched i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â'u gofal nhw eu hunain a gofal eu babanod. Mae gwaith y fydwraig o fewn iechyd cyhoeddus yn rhoi'r cyfle iddi wneud gwahaniaeth i ferched ond hefyd i'r holl deulu ehangach. Mae'n fraint gen i fod yn y sefyllfa hon. Mae bydwragedd yn helpu merched nid yn unig i wneud cynlluniau ond hefyd i wneud penderfyniadau pan fo'r annisgwyl yn codi. Bod yn eiriolwr dros ferched mewn maes amlddisgyblaeth yw'r rhan o'r gwaith rydw i'n cael y pleser mwyaf ohoni. Prin y gallaf gredu mai hon yw'r swydd y byddaf yn ei gwneud am weddill fy mywyd, rydw i mor lwcus.”

Francesca ElnerFrancesca ElnerEsbonia Francesca, 37, o Lannerch Banna, Wrexham, myfyriwr bydwreigiaeth trydedd flwyddyn, iddi deimlo'n wylaidd a balch o dderbyn yr enwebiad: "Teimlwn yn hynod o wylaidd i gael fy enwebu gan staff y Brifysgol, cyd fyfyrwyr a chyn fentoriaid.  Rwy'n ofnadwy o falch o gael fy rhoi ar y rhestr fer ar gyfer rownd derfynol Gwobr y Student Nursing Times. Rwy'n gobeithio y bydd fy esiampl yn dangos i bob myfyriwr nyrsio, hyd yn oed y rheiny sydd â phlant, y gallwch nid yn unig lwyddo fel myfyriwr nyrsio ond ffynnu hefyd. Rwy'n ddiolchgar i'r Brifysgol, yr RCN, Undeb y Myfyrwyr, Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru a 1000 Lives Quality Improvement am y cyfleoedd sydd wedi fy ngalluogi i wneud gwahaniaeth.

"Rydw i bob amser wedi gwybod yn fy nghalon mai nyrsio oedd yr yrfa i mi. Wedi gadael y sector fel oedolyn ifanc i ddechrau teulu rydw i wedi dilyn amryw o lwybrau gyrfa gwahanol yn chwilio am y teimlad o foddhad, cyrhaeddiad personol a hapusrwydd a gefais fel nyrs. Ar ôl bwrw gwreiddiau a chael plant dewisais ddilyn gyrfa mewn nyrsio unwaith eto ac rwy'n fwy sicr nac erioed mai dyma'r yrfa i mi.

Cyhoeddir enillwyr gwobrau'r Student Nursing Times 2016 ar 28 Ebrill yng ngwesty'r Hilton Llundain ar Park Lane.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2016