Yr holl fyfyrwyr radiograffeg sy’n graddio eleni wedi cael swyddi

Rhai o'r myfyrwyr yn ystod diwrnod graddioRhai o'r myfyrwyr yn ystod diwrnod graddioMae myfyrwyr Radiograffeg blwyddyn olaf sy'n graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon i gyd wedi cael swyddi mewn byrddau iechyd amrywiol yng Nghymru a Lloegr.

Roedd pob un o'r 17 o fyfyrwyr wedi cael swyddi cyn sefyll eu harholiadau terfynol, a hynny hyd at dri mis cyn graddio.

Dywedodd yr Athro Jo Rycroft-Malone, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, a oedd yn naturiol wrth ei bodd efo’r canlyniad: "Mae hyn yn gamp wych gan ein myfyrwyr, ac mae’n tystio i   ansawdd arbennig y rhaglenni gofal iechyd a ddarparwn yn yr Ysgol, a rhagoriaeth ein darlithwyr. Mae'n dda gwybod ein bod yn cyfrannu’n ystyrlon at ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel yn rhanbarthol ac yn genedlaethol."

Dywedodd Elizabeth Carver, prif ddarlithydd a chydlynydd addysg glinigol, bod y myfyrwyr hyn wedi bod yn grŵp blwyddyn rhagorol ac:  "mae'n ymddangos bod darpar gyflogwyr yn sylweddoli y byddant yn gwneud gweithwyr iechyd proffesiynol ardderchog hefyd.  Fe wnaeth un myfyriwr hyd yn oed lwyddo i gael swydd bur ddeniadol y cafodd nifer o radiograffwyr cymwysedig (a phrofiadol) gyfweliad amdani."

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2015