Mae Jade Parsons, myfyriwr bydwreigiaeth, wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer am wobr myfyriwr bydwreigiaeth y flwyddyn y British Journal of Midwifery Practice Awards 2019.
Mae Jade Parsons, myfyriwr bydwreigiaeth, wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer am wobr myfyriwr bydwreigiaeth y flwyddyn y British Journal of Midwifery Practice Awards 2019.
Enwebwyd Jade am y wobr gan gyd-fyfyriwr a welodd ei hymroddiad i ymarfer a'i hangerdd am fydwreigiaeth.
Hoffai myfyrwyr a staff yr Ysgol Gwyddorau Iechyd longyfarch Jade yn fawr am ei chyflawniad anhygoel.
Meddai'r Fydwraig â Phrif Gyfrifoldeb dros Addysg, Sheila Brown ym Mhrifysgol Bangor; "Mae'n bleser llwyr cael Jade fel myfyriwr ar y rhaglen bydwreigiaeth. Mae hi'n gweithio'n galed, yn frwdfrydig iawn am ofal bydwreigiaeth sy'n canolbwyntio ar ferched, bob amser yn fodlon cynnig helpu i gefnogi diwrnodau agored neu weithgareddau eraill y Brifysgol, ac mae hi mor gefnogol i'w chyd-fyfyrwyr.
"Cyd-fyfyriwr a enwebodd Jade, sy'n dangos sut mae ei chyfoedion yn ei gweld. Mae'r tîm darlithwyr bydwreigiaeth a minnau wrth fy modd bod Jade wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer am y wobr hon. Mae hyn mor haeddiannol! Da iawn Jade!"
Mewn ymateb i gael ei rhoi ar y rhestr fer, dywedodd Jade "Rydw i wedi gwirioni i gael bod ar y rhestr fer am wobr Myfyriwr Bydwreigiaeth y flwyddyn 2019 y BJM. Diolch i'r myfyriwr a enwebodd fi ac a welodd y cariad sydd gennyf at fydwreigiaeth a sut mae'n rhan mor fawr o'm bywyd! Rydw i wrth fy modd efo bydwreigiaeth.
"Alla'i ddim aros nes fy mod yn gymwys a chael mynd allan yno! Diolch i'r holl ddarlithwyr a staff ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi fy helpu ar fy ffordd! Yn bwysicach fyth, i'm mentoriaid sydd wedi credu ynof fi ers y diwrnod cyntaf."
Bydd Jade yn cael gwybod y canlyniadau yn seremoni Wobrwyo'r BJM ar 13 Chwefror.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ionawr 2019