Mae awr o gymdeithasu pob wythnos mewn gofal dementia yn gwella bywydau ac yn arbed arian

Gall cyfuniad o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a dim ond awr yr wythnos o ryngweithio cymdeithasol wella ansawdd bywyd a lleihau aniddigrwydd pobl â dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal, ac arbed arian hefyd.

Cyflwynwyd canfyddiadau treial ar raddfa fawr yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Alzheimer (AAIC) 2017 yn ddiweddar. Cafodd yr ymchwil ei arwain gan Brifysgol Caerwysg, King’s College, Llundain a'r Oxford Health NHS Foundation Trust, gyda chyfranogiad Prifysgol Bangor, ac ariannwyd yr ymchwil gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR).

Roedd y treial yn cynnwys dros 800 o bobl â dementia mewn 69 o gartrefi gofal yn ne Llundain, gogledd Llundain a Swydd Buckingham . Hyfforddwyd dau "hyrwyddwr staff gofal" ym mhob cartref yn ystod pedair sesiwn undydd i weithredu mesurau syml sy'n cynnwys siarad â thrigolion am eu diddordebau a phenderfyniadau ynglŷn â'u gofal eu hunain. Wrth gyfuno hyn ag awr yr wythnos o ryngweithio cymdeithasol, roedd ansawdd bywyd y trigolion yn gwella ac roeddent yn teimlo llai o aniddigrwydd. .

Mae'r dull hwn hefyd yn arbed arian o gymharu â gofal safonol, sy'n bwysig iawn. Mae'r ymchwilwyr yn dweud mai'r her fawr nesaf yw cyflwyno'r rhaglen i'r 28,000 cartref gofal yn y DU er lles bywydau'r 300,000 o bobl â dementia sy'n byw yn y cartrefi hynny.

Meddai'r Athro Clive Ballard, o Ysgol Feddygol Prifysgol Caerwysg, a arweiniodd yr ymchwil: "Mae pobl â dementia sy’n byw mewn cartrefi gofal ymysg y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae'n anhygoel meddwl mai dim ond pedwar o'r 170 llawlyfr hyfforddi gofalwyr sydd ar gael ar y farchnad sy'n seiliedig ar dystiolaeth eu bod yn gweithio. Mae ein canlyniadau yn dangos bod hyfforddiant staff da a dim ond awr yr wythnos o ryngweithio cymdeithasol yn gwella'n sylweddol ansawdd bywyd grŵp o bobl a gaiff eu hanghofio gan gymdeithas yn aml."

Meddai Jane Fossey, o'r Oxford Health NHS Foundation Trust: "Mae defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn golygu dod i  adnabod y preswylwyr fel unigolion - dod i wybod am eu diddordebau a siarad â hwy wrth ddarparu pob agwedd ar eu gofal. Gall wneud gwahaniaeth mawr i'r unigolion eu hunain ac i'w gofalwyr. Rydym wedi dangos bod y dull hwn yn gwella bywydau'n sylweddol, yn lleihau aniddigrwydd ac yn arbed arian hefyd. Rhaid cyflwyno'r hyfforddiant yn genedlaethol yn awr fel bod pobl eraill yn elwa arno."

Meddai'r Athro Bob Woods, o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor, un o ymchwilwyr yr astudiaeth: 

"Mae'r astudiaeth bwysig hon yn dangos bod y ffordd y caiff gofal ei ddarparu mewn cartrefi gofal yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl â dementia. Gyda'r hyfforddiant cywir a'r gefnogaeth gywir, gall staff mewn cartrefi gofal wella ansawdd bywyd a lleihau gofid pobl â dementia."

Y canlyniadau yw canfyddiadau'r treial "Improving Wellbeing and Health for People with Dementia" (WHELD), yr hap-dreial rheoledig mwyaf hyd yn hyn y tu allan i'r diwydiant ffarmacolegol ar bobl â dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal.

Roedd y project yn cynnwys cydweithio ag uned dreialon clinigol Prifysgol Bangor, NWORTH, yn ogystal â Choleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Hull a'r Gymdeithas Alzheimer. 

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017