Hwb i Brifysgol Bangor ar ddechrau tymor newydd

Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor wedi derbyn hwb sylweddol yn sgil buddsoddiad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Y darlithwyr newydd, ch-dd: Llyr ap Cenydd, Sara Closs-Stacey, Hayley Roberts a Dr Nia Griffith,  nid yw Beryl Cooledge yn y llun.Y darlithwyr newydd, ch-dd: Llyr ap Cenydd, Sara Closs-Stacey, Hayley Roberts a Dr Nia Griffith, nid yw Beryl Cooledge yn y llun.Mae’r brifysgol wedi penodi pum darlithydd trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg i weithio ym meysydd Seicoleg, y Gyfraith, Cyfrifiadureg, Nyrsio a Gofal Iechyd a Chyfrifeg.

Mae Dr Nia Griffith yn hen gyfarwydd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi iddi dderbyn ysgoloriaeth i gwblhau gradd meistr a doethuriaeth mewn Seicoleg o dan nawdd y Coleg yn 2006. Wedi hynny, bu’n Gymrawd Dysgu yn yr adran cyn cael ei phenodi’n ddarlithydd cyfrwng Cymraeg.

Bydd Hayley Roberts yn ymuno ag Adran y Gyfraith wedi cyfnod yn fyfyrwraig yn yr adran. Yn ystod ei doethuriaeth, bu’n dysgu modiwlau cyfraith contract a masnach trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyfraith y môr yw ei harbenigedd ac mae ganddi ddiddordeb mawr yn llongddrylliad yr RMS Titanic.

Llyr ap Cenydd oedd un o’r rhai cyntaf i astudio gradd mewn Cyfrifiadureg ym Mangor. Aeth yn ei flaen i gwblhau doethuriaeth yn y maes cyn derbyn swydd fel ymchwilydd yn yr adran. Mae eisoes wedi ennyn profiad o ddysgu a thiwtora myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol.

Treuliodd Beryl Cooledge flynyddoedd yn nyrsio mewn uned gofal dwys cyn mentro i’r byd addysg a dysgu yng Ngholeg Llandrillo. Fel darlithydd Nyrsio a Gofal Iechyd gyda Phrifysgol Bangor, gobaith Beryl fydd ceisio annog myfyrwyr i gyfathrebu gyda chleifion yn eu mamiaith.

Bydd Sara Closs-Stacey yn ymuno ag Adran Gyfrifeg Prifysgol Bangor fel darlithydd ac yn parhau gyda’i doethuriaeth o dan nawdd y Coleg Cymraeg. Gobaith Sara yw cyflwyno ei doethuriaeth, sy’n canolbwyntio ar y system dreth ym Mhrydain yn ystod 2015.

Yn ôl Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

‘‘Rydym yn falch iawn bod Prifysgol Bangor wedi llwyddo i benodi’r academyddion blaengar hyn o dan Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn dymuno’r gorau iddynt wrth ymgartrefu ar gampws y Brifysgol. Rwy’n edrych ymlaen at weld cynnydd yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg y brifysgol dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i fuddsoddiad y Coleg yn y swyddi hyn.”

Meddai Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: “Fel y Brifysgol sy’n cynnig y nifer mwyaf o gyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg rydym yn eithriadol o falch i groesawu’r aelodau staff newydd hyn a fydd yn ychwanegu at y ddarpariaeth honno, ac a fydd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r gymuned a’r bywyd Cymraeg a Chymreig ym Mhrifysgol Bangor."

Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2013