Ffilm Nyrsio Anabledd Dysgu wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru

Mae ffilm i hyrwyddo nyrsio anabledd dysgu a gomisiynwyd gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru ac a gynhyrchwyd gan Hijinx wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru yn y categori Celfyddydau, Busnes ac Iechyd.  

Ym mis Ionawr 2019, mewn ymateb i'r prinder cenedlaethol o nyrsys Anabledd Dysgu (AD), cyd weithiodd Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Bangor i gomisiynu Hijinx i greu ffilm ar gyfer hyrwyddo eu cyrsiau Baglor Nyrsio (Anrh) Anabledd Dysgu.  Prif nod y prosiect oedd denu ystod eang o ymgeiswyr i'r cyrsiau, a thynnu sylw at fanteision dewis hyfforddi fel nyrs anabledd dysgu.  

Yn cynnwys 9 actor Hijinx, mae'r ffilm yn dangos i ddarpar fyfyrwyr yr amrywiaeth o leoliadau y mae Nyrsys Anabledd Dysgu yn gweithio ynddynt, ac yn rhoi llais i'r effaith gadarnhaol y mae eu rolau yn ei chael ar fywydau pobl ag anabledd dysgu a / neu awtistiaeth y maent yn gweithio gyda nhw.  

Mae'r ffilm yn gweld actorion Hijinx yn adrodd geiriau aelodau TRAC - Pwyllgor Addysgu, Ymchwil a Chynghori Prifysgol De Cymru sydd i gyd yn gleientiaid sy'n derbyn cefnogaeth gan Nyrsys Anabledd Dysgu, gan fyfyrio ar y cyswllt arbennig sy'n bodoli rhyngddynt.   

“Roedd y dull hwn yn caniatáu i ni bortreadu rôl nyrsio anabledd dysgu o safbwynt yr unigolion sy'n ymgysylltu â'r gwasanaeth gan osod yr actorion Hijinx yng nghanol y broses.” meddai Dr Ruth Wyn Williams, Prifysgol Bangor “ychwanegodd pob un ohonynt at rinweddau unigryw a chynhwysol y prosiect.”  

Mae dau ar hugain o fusnesau a’u partneriaid celfyddydol wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau C&B Cymru 2020. Mae’r seremoni, sydd bellach yn ei 27ain blwyddyn, yn cydnabod creadigrwydd a rhagoriaeth mewn partneriaethau rhwng busnes a’r celfyddydau.   

Mae cwmnïau o bob maint sydd wedi’u lleoli ar draws Cymru gyfan yn cystadlu i ennill y gwobrau mawreddog.   

Mae’r rhestr fer lawn ar gael yma

Mae'r seremoni wobrwyo rithiol ar Ddydd Gwener, 9 Hydref 2020, 19:30 - 21:30 ac os hoffech chi ymuno, gallwch gofrestru i wylio ffrydio byw'r seremoni yma.   

Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2020