Penodi Llysgenhadon Addysg Uwch newydd i’r Coleg Cymraeg o Brifysgol Bangor

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi pump llysgennad newydd ar gyfer 2021 o Brifysgol Bangor i rannu ‘Sŵn y Stiwdants’ ac annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Mae 26 o lysgenhadon i gyd eleni sydd wedi eu lleoli mewn saith prifysgol ledled Cymru.

Bydd Mari Lois Evans, sy’n astudio Addysg Gynradd, Lowri Wyn Davies sy’n astudio Addysg Cynradd gyda SAC, Elin Llywelyn Wiliams a Sioned Mair Williams, y ddwy ar gwrs Bydwreigiaeth a Lleu Arthur Pryce sy’n astuio Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau yn dechrau ar eu gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy’r flwyddyn.

Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd perswadio mwy o ddysgwyr o ysgolion a cholegau addysg bellach i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno’r manteision o hynny.

Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn amryw o ffyrdd ar-lein, fydd yn cynnwys rhoi cyflwyniadau, creu a chyfrannu at gynnwys gwefannau cymdeithasol y Coleg, ysgrifennu blogiau a chreu podlediadau ‘Sŵn y Stiwdants’.

Meddai Rheolwr Marchnata’r Coleg Cymraeg, Elin Williams:

“Mae cyfraniad ein llysgenhadon i ledaenu’r neges am fywyd myfyrwyr Cymraeg yn ein prifysgolion a manteision addysg cyfrwng Cymraeg yn hynod bwysig. Yn sgil y pandemig COVID-19, mae hyrwyddo ar wefannau cymdeithasol a thrwy bodlediadau wedi dod yn fwyfwy pwysig. Edrychwn ymlaen i gydweithio gyda chriw brwdfrydig o fyfyrwyr o brifysgolion Cymru unwaith eto eleni.”

Meddai Dr Llion Jones o Ganolfan Bedwyr Prifysgol Bangor:

“Mae’r pump llysgennad newydd yn rhan o gymuned Gymraeg gref a bywiog ym Mhrifysgol Bangor sy’n rhoi sail gadarn ar gyfer astudio drwy’r Gymraeg. Fel prifysgol, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod gennym dros 1,350 o fyfyrwyr bellach sy’n dewis astudio drwy’r Gymraeg.” 

Gellir gwrando ar bodlediadau ‘Sŵn y Stiwdants’ ar Spotify, ble mae myfyrwyr Cymraeg yn rhannu eu profiadau, boed am fywyd Prifysgol yng nghanol pandemig, cyrsiau neu sgyrsiau ysgafn a rhoi’r byd yn ei le!  Yn ogystal mae modd dilyn eu hanturiaethau a gweld lluniau’r unigolion ar wefan y Coleg Cymraeg ac ar dudalen Instagram a Twitter ‘Dy Ddyfodol Di’ a Facebook a YouTube ‘Coleg Cymraeg’.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2021