Myfyriwr yn paratoi i gystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd

Mae myfyriwr o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn edrych ymlaen at gynrychioli Ynys Môn mewn cystadleuaeth rhwng ynysoedd y byd. 

Mae Ryan Booth ar ei drydedd flwyddyn yn astudio Radiograffeg a Delweddu Diagnostig yng Nghanolfan Archimedes yn Wrecsam.  Bydd yn cystadlu yng Ngemau’r Ynysoedd NatWest sydd yn cael ei gynnal yn Jersey rhwng Mehefin 27 a Gorffennaf 3ydd.

Bydd oddeutu 2,400 o athletwyr yn rhan o’r digwyddiad, gyda 24 o ynysoedd yn cystadlu. Bydd Ryan, sydd o Fae Trearddur, yn rhan o sgwad pêl-droed Ynys Môn sydd yn chwarae yn erbyn Guernsey, Gibraltar a Gotland i gychwyn.

Mae’n deg i ddweud fod Ryan, sy’n 21oed, yn brofiadol iawn mewn chwaraeon cystadleuol. Mae wedi bod yn chwarae pêl-droed i dimau yn Ynys Môn ers ei fod yn ifanc. Aeth ymlaen i gystadlu yng Nghwpan Rhanbarthau Gogledd Cymru, ac ar ôl ennill y gynghrair, bu Ryan yn cynrychioli ei wlad yng Nghwpan Rhanbarthau UEFA yn Estonia’r llynedd. 

Dywedodd Ryan am y profiad:

“Fel tîm mi fuon yn hyfforddi’n galed gyda’n gilydd. Roedden ni’n ffodus iawn i guro Estonia 3-1 yng nghystadleuaeth Cwpan Rhanbarthau UEFA. Credaf y byddai’r holl chwaraewyr a’r hyfforddwyr yn cytuno fod y profiad wedi bod yn wych ac yn gamp y byddwn yn falch ohono am flynyddoedd i ddod.”

Mae Ryan ar hyn o bryd yn hyfforddi i baratoi ar gyfer Gemau'r Ynysoedd NatWest fydd yn cychwyn ar 27 Mehefin ac yn parhau am wythnos.

Dywedodd:

“Rwy’n hynod o falch o fod yn cynrychioli Ynys Môn yn y Gemau eleni. Hon yw’r flwyddyn gyntaf i mi gael fy newis ac rwy’n gobeithio y bydd yn brofiad gwerthfawr i mi fel chwaraewr.  Rwyf hefyd yn gobeithio rhoi ystyriaeth dda i’r ynys yn ogystal â’n hunain yn y gystadleuaeth, ac i wneud i bawb sydd wedi ein noddi a’n cefnogi fod yn falch ohonom.”

Mwy o fanylion am Gemau’r Ynysoedd NatWest.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2015