Iechyd da i'r gwyliau

Mae gofyn i bobl beth maent yn ei yfed ar wyliau ac achlysuron arbennig eraill yn dangos bod oddeutu 12 miliwn yn fwy o boteli o win yr wythnos yn cael eu hyfed yn Lloegr nag y tybiwyd yn flaenorol. Nid yw'r arolygon blaenorol ar faint o alcohol a yfir wedi rhoi ystyriaeth i'r holl alcohol a werthir. Ymddengys bod ymchwil a ariannwyd gan Alcohol Research UK ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn mynediad agored BMC Medicine, wedi cael hyd i'r 'unedau coll' hyn.   

Mae yfed alcohol yn gysylltiedig â 200 o wahanol gyflyrau iechyd ac roedd yn gyfrifol am 3.3 miliwn o farwolaethau yn fyd-eang yn 2012. Mewn nifer o wledydd yn cynnwys Lloegr, caiff effaith alcohol ar iechyd y cyhoedd ei olrhain fel arfer trwy arolygon ar faint a yfir ar gyfartaledd. Weithiau ni chaiff y data hwn ei adlewyrchu mewn ffigurau gwerthiant, fel yn Lloegr lle mae data'r arolwg yn cyfeirio at ddim ond tua 60% o'r alcohol a werthir.

Meddai awdur arweiniol yr astudiaeth, Mark Bellis o Brifysgol  John Moores Lerpwl a Phrifysgol Bangor: "Yn Lloegr mae gwahaniaeth enfawr rhwng yr hyn a adroddir mewn arolygon am faint a yfir a faint o alcohol gaiff ei werthu. Bob wythnos, mae'r hyn sy'n cyfateb i dros dri chwarter botel o win fesul yfwr heb gyfrif amdanynt. Y broblem yw bod arolygon fel rheol yn gofyn am yr hyn a yfir yn arferol. Mae hyn yn golygu bod gwyliau'r haf, gwyliau banc, priodasau a llawr o achlysuron arbennig eraill pan fo faint a yfir yn cynyddu, yn cael eu hepgor. O ganlyniad, rydym yn tanamcangyfrif ar lefel genedlaethol faint yr ydym yn ei yfed ac fel unigolion gallwn anwybyddu ein cyfnodau yfed trymach wrth gyfrifo faint yr ydym yn ei yfed yn bersonol. Ond i lawer o bobl mae'r sesiynau hyn yn ychwanegu llawer iawn o alcohol at yr hyn maent yn ei yfed bob blwyddyn ac yn anorfod yn cynyddu eu risg o ddatblygu salwch cysylltiedig ag alcohol."

Aeth ymchwilwyr o Brifysgol John Moores Lerpwl ati i ymchwilio i batrymau yfed a sut maent yn wahanol yn ystod gwyliau ac achlysuron arbennig. Trwy greu darlun mwy cywir am ddata sydd ar goll o arolygon gobeithir cael gwell dealltwriaeth am yr effeithiau ar iechyd.

Cynhaliwyd cyfweliad dros y ffôn gyda 6,085 o bobl yn Lloegr a ddewiswyd ar hap. Nodwyd 4,604 o yfwyr presennol yn y cyfweliadau hyn. Gofynnwyd cwestiynau i'r cyfranogwyr am eu patrymau yfed arferol a'r patrymau mewn amgylchiadau nad oedd yn arferol fel gwyliau neu achlysuron arbennig.

Roedd y categorïau o yfwyr yn seiliedig ar grwpiau oedran a faint a yfir gan amlaf, ac yn y rhan fwyaf o achosion gwelwyd cynnydd mewn faint a yfir yn ystod gwyliau neu achlysuron arbennig. Gwelwyd bod y cynnydd mwyaf yn yr alcohol a yfir yn y grŵp rhwng 25 a 34 oed, a nhw oedd â'r lefel uchaf o ran faint a yfir yn arferol. Ar gyfartaledd, roedd yfwyr yn y categori hwn yn ychwanegu 18 uned (144g) o alcohol ychwanegol yr wythnos o ganlyniad i yfed ar achlysuron arbennig.

Mae'r astudiaeth hon wedi'i chyfyngu gan y ffaith ei bod yn seiliedig ar ddata hunan-adrodd. I ddeall sut mae'r data hwn am yfed annodweddiadol nad oedd cyfrif amdano yn effeithio ar iechyd y cyhoedd, bydd angen gwneud astudiaethau pellach i adeiladu ar yr astudiaeth prawf cysyniad hon. Byddai astudiaeth fwy sy'n gynrychiadol ar lefel genedlaethol yn profi a ellir defnyddio'r dull hwn o wneud arolwg yn rheolaidd i fesur patrymau yfed yn fwy cywir.

Meddai James Nicholls o Alcohol Research UK: "Mae patrymau yfed yn cael dylanwad sylweddol ar effeithiau alcohol ar iechyd. Er enghraifft, cydnabyddir yn eang bod unrhyw effeithiau amddiffynnol ar y galon trwy yfed yn gymedrol yn cael eu canslo gan gyfnodau o yfed trwm.  

"Wrth edrych ar lefelau yfed cyfartalog yn unig, dim ond argraff fras iawn a gawn o ymddygiadau yfed ac unrhyw risgiau cysylltiedig. Os gallwn fesur yn well lle mae'r cyfnodau yfed ar eu huchaf, ymysg pa grwpiau o yfwyr, ac ar ba raddfa, byddwn mewn sefyllfa llawer gwell i dargedu ymyriadau wedi'u hanelu at leihau niwed." 

Hefyd, mae erthygl yn y Saesneg, "England's missing booze: 12 million more bottles drunk per week than previously thought" wedi ei gyhoeddi ar The Conversation heddiw gan Mark Bellis, Prifysgol Bangor a Christine Griffith, University of Bath. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2015