‘Safety=Design’: Achub miloedd o fywydau ac arbed miliynau o bunnoedd

Mae gobaith y bydd prosiect a lansiwyd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor yn achub miloedd o fywydau drwy symleiddio sut mae staff gofal iechyd a chleifion yn adnabod symptomau.

Cafodd y prosiect 'Safety=Design' ei gadarnhau ym mis Medi 2015 a chaiff ei arwain gan Dr Chris Subbe sydd yn Uwch Ddarlithydd Clinigol yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ac yn ymgynghorydd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor. Mae'r prosiect o gymorth wrth gyfeirio risgiau trwy fabwysiadu system goleuadau traffig er mwyn llywio ymddygiad gofalwyr a chleifion wrth erchwyn y gwely. Y nod oedd datblygu cyfres o eiconau sy'n cywasgu gwybodaeth gymhleth yn awgrymiadau gweledol syml.

Anafiadau Arennol Llym yw un o achosion pennaf niwed osgoadwy y mae pobl yn dioddef ohono wrth ddod i’r ysbyty, ac mae un o bob pedwar yn marw o ganlyniad i'r cyflwr. Mae hyn yn aml oherwydd bod gwybodaeth a allai achub bywyd wedi ei gladdu ymysg cofnodion swmpus ac annigonnol, ond mae Dr Subbe yn hyderus y bydd y prosiect o gymorth i ddatrys y broblem hon. Dywedodd:Ffigwr 1 Dr Subbe yn gweithio ar y prosiectFfigwr 1 Dr Subbe yn gweithio ar y prosiect

"Ar hyn o bryd mae 5-10% o gleifion yn dioddef oherwydd camfarn, ac mae hynny'n digwydd yn bennaf o ganlyniad i'r ffaith fod staff clinigol yn gorfod gweithio trwy fynydd o waith papur. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio ar wybodaeth weledol ac yn gwneud symptomau’n fwy amlwg i bobl, a dyna beth mae'r prosiect hwn yn ei wneud. Mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn cynnwys cleifion a'u teuluoedd."

Daeth y prosiect ag ymarferwyr clinigol, cynrychiolwyr ar ran cleifion a dylunwyr o'r Coleg Celf Brenhinol at ei gilydd. Cafodd pedwar dull gwahanol eu treialu mewn wardiau cyffredinol ar safleoedd chwe ysbyty yn Llundain ac yng Nghymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bangor oedd yn arwain. Roedd y dulliau'n cynnwys:

  • 'Dyddiaduron cleifion', a oedd yn galluogi'r cleifion i ddod yn bartneriaid gweithredol yn eu gofal eu hunain drwy gofnodi faint o hylif yr oeddynt yn ei yfed a chofnodi all-lif yr wrin mewn perthynas â'r risg o gael trafferthion arennol.
  • Breichled 'KidneySafe', sydd o'i gwisgo'n gwella sut y caiff all-lif wrin ei gofnodi. Caiff ei rhoi i'r cleifion hynny yr ystyrir bod mwy o risg iddynt.
  • Y 'WeeWheel', sy'n galluogi nyrsys i gael gafael ar wybodaeth yn syth am leiafswm diogel cyfaint wrin cleifion unigol. Mae'r nodi beth yw all-lif rhywun sydd 'mewn perygl' fesul awr.
  • 'SepsisPanel', sef set o eiconau ar gyfer heintiau a’r Syndrom Ymateb Llidiol Systematig. O gael eu gosod ger gwely'r claf, mae'r marcwyr madredd yn newid o las i goch yn dibynnu ar y difrifoldeb.

Mae 'Safety=Design' yn gysylltiedig ag University College London Partners, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Helen Hamlyn Centre for Design, 1000 o Fywydau a Mwy, a Phrifysgol Bangor. Y gred yw y gallai'r prosiect fod yn gost effeithiol iawn i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Er enghraifft, mae Anafiadau Arennol Llym yn costio tua £434-620 miliwn y flwyddyn, ond credir y byddai modd atal o leiaf 20-30% o'r achosion yn rhannol. Golyga hyn y gellid cael arbedion costau o hyd at £100 miliwn y flwyddyn.

Mae'r prosiect erbyn hyn ar waith yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac mae hefyd yn cael ei dreialu yn Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty'r Rhyl, Ysbyty Maelor Wrecsam ac yn Ysbyty Frenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Mae'r Athro John Parkinson, Pennaeth Seicoleg ac un o ymchwilwyr 'Safety=Design' o'r farn y bydd y canfyddiadau’n cael effaith gadarnhaol ar ofal iechyd. Dywedodd: "Dw i'n credu y bydd 'Safety=Design' yn gwella’n sylweddol y ffordd yr ydym yn adnabod symptomau ac yn rhoi triniaeth. Bydd y gwaith ymchwil blaengar ac amlddisgyblaethol yma'n cael effaith ar ogledd Cymru, ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ehangach, a gobeithio ledled y byd."

 

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2016