Penodi Llysgenhadon newydd i’r Coleg Cymraeg

Tegwen Bruce-DeansTegwen Bruce-Deans

Mae’r Coleg Cymraeg wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2020 er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Mae’r 23 llysgennad wedi’u lleoli mewn chwe prifysgol ledled Cymru gan gynnwys pum ohonynt ym Mhrifysgol Bangor. Bydd Tegwen Bruce-Deans and Aled Siôn Storey Pritchard, o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a Katy Williams a Briall Gwilym o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn dechrau ar eu gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy’r flwyddyn a bydd Elan Duggan yn parhau am flwyddyn arall.

Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd perswadio mwy o ddisgyblion ysgol a cholegau addysg bellach i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno’r manteision o hynny.

Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn amryw o ddigwyddiadau megis ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau yn ogystal â chofnodi eu profiadau ar flog ac ar sianelau cyfryngau cymdeithasol y Coleg.

Am y tro cyntaf eleni, cafodd y llysgenhadon eu dewis drwy greu fideo hyd at funud o hyd a ffurflen gais.

“Rydym yn hynod gyffrous i allu cyhoeddi ein bod wedi penodi 23 o lysgenhadon newydd o’r sector addysg uwch ar gyfer 2020. Mae cael criw o bobl ifanc a brwdfrydig yn cydweithio gyda ni i hyrwyddo cyfleoedd astudio yn Gymraeg yn gymorth mawr o ran rhoi darlun positif o bwysigrwydd astudio’n Gymraeg.

Aled Siôn Storey PritchardAled Siôn Storey PritchardMae ystod eang o bynciau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein prifysgolion ar draws Cymru bellach a rôl y llysgenhadon fydd egluro’r manteision o astudio’n Gymraeg.”

Meddai Dr Llion Jones o Ganolfan Bedwyr Prifysgol Bangor:

“Yn ogystal â sicrhau profiad prifysgol rhagorol i’n myfyrwyr, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn darparu mwy o gyfleoedd i astudio drwy’r Gymraeg nag unrhyw sefydliad arall. Mae’r pump llysgennad newydd yn rhan o gymuned Gymraeg gref a bywiog ym mhrifysgol Bangor, ac mae hynny yn rhoi sail gadarn ar gyfer astudio yn Gymraeg.”

Gellir dilyn anturiaethau ein llysgenhadon â gweld lluniau’r unigolion ar wefan y Coleg Cymraeg ac ar dudalen Instagram a Twitter ‘Dy Ddyfodol Di’ a Facebook, You Tube a Snapchat ‘Coleg Cymraeg’.





Katy WilliamsKaty Williams
BriallGwilymBriallGwilym

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2020