Partneriaeth newydd ar gyfer myfyrwyr cynghori

Mae Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai a'r Gwasanaeth Cychwynnol Cynghori Iechyd Meddwl (PMHCS), sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yn ffurfio partneriaeth newydd gyffrous, gan weithio gyda'i gilydd i gefnogi myfyrwyr Cynghori MSc.

Fel rhan o'u gradd Meistr mewn Cynghori, mae'n rhaid i fyfyrwyr fynd ar brofiad gwaith yn cynnal gwasanaeth cynghori mewn amgylchedd wedi'i reoli a dan oruchwyliaeth gyda chorff cydnabyddedig. 

Hyd yn hyn, mae myfyrwyr wedi cael trafferth dod o hyd i'r nifer o oriau sy'n ofynnol ac i ddod o hyd i leoliadau addas. Mae'r PMHCS wedi bod yn recriwtio myfyrwyr Cynghori, eu hyfforddi a’u cefnogi ers dros 20 mlynedd ac wedi datblygu system gadarn ar gyfer hyfforddi myfyrwyr a’u mentora tra hefyd yn cynnig goruchwyliaeth hanfodol a gwasanaethau cefnogi. 

Dywedodd Dr Fay Short, Cyfarwyddwr o Brifysgol Bangor:

"Rydym yn falch iawn o'r cydweithio newydd, cyffrous ac arloesol yma gyda BIPBC, gan y bydd y bartneriaeth newydd hon yn rhoi profiad go iawn i’n myfyrwyr MSc newydd mewn Cynghori i gyd-fynd gyda theori seicolegol, ymchwil empeiraidd a hyfforddiant ymarferol ar y cwrs." 

Bydd y fenter newydd yn gweld myfyrwyr o'r Brifysgol yn cael eu rhoi'n uniongyrchol ar y rhaglen, yn gweithio mewn gofal cychwynnol, yn cynnig rhwng 8 a 15 sesiwn yr un i gleifion unigol, yn bennaf yn ymdrin â materion iechyd meddwl megis iselder, gorbryder a hunan-barch ynghyd â chaethiwed i feddyginiaeth ragnodedig.  Bydd rhaid i bob myfyriwr wneud gwerth 100 awr o waith gyda chleifion dros gyfnod y rhaglen sy’n para dwy flynedd.  

Bydd y bartneriaeth newydd hon yn galluogi'r Brifysgol i gynnig lleoliad gwarantedig ar gyfer eu myfyrwyr Meistr wrth ddarparu ffynhonnell warantedig o fyfyrwyr sydd eisoes gydag ychydig o wybodaeth mewn cynghori i'r PMHCS, gan leihau eu proses recriwtio’n fawr iawn. 

Dywedodd June Lovell, Rheolwr Gwasanaeth o fewn Iechyd Meddwl Oedolion a Gofal Cymdeithasol:

"Bydd y radd Meistr mewn Cynghori yn rhoi ffynhonnell bellach o gynghorwyr safonol i ni ynghyd â'n darparwyr presennol, gan leihau ein proses recriwtio wrth roi  lleoliadau i’r Brifysgol ar gyfer eu myfyrwyr. Rydym nawr yn edrych ymlaen at ddechrau'r proses yn hwyrach eleni." 

Bydd y myfyrwyr newydd yn cofrestru ar y rhaglen ym mis Medi 2017 (ar yr amod bod y cwrs yn cwblhau'r holl brosesau dilysiad yn llwyddiannus ym mis Awst). 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â June Lovell, Rheolwr Gwasanaeth Cychwynnol Cynghori Iechyd Meddwl - 01352 706725 neu Dr Fay Short, Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2017