Bangor i ffocysu ar iechyd a lles yn rhan dau o CALIN, cynllun i gefnogi arloesedd mewn gwyddoniaeth dros Gymru ac Iwerddon

Mae arbenigwyr gwyddorau bywyd o Goleg Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor am chwarae rôl allweddol mewn cynlluniau i feithrin cysylltiadau agosach byth rhwng Cymru ac Iwerddon drwy broject CALIN, y Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch.

Mae CALIN yn weithrediad Interreg rhwng Cymru ac Iwerddon a sefydlwyd i gefnogi gwaith ymchwil a datblygu ym maes busnesau gwyddorau bywyd bach a chanolig yng Ngorllewin Cymru a Dwyrain a De Iwerddon. Mae'r fenter traws-ffiniau hon dod â phrifysgol o Gymru a phrifysgol o'r Iwerddon ynghyd â busnes bach i ganolig er mwyn creu datblygiadau ym maes y gwyddorau bywyd.

Ers i CALIN gael ei sefydlu yn 2016, mae'r chwe prifysgol arall sy'n bartneriaid ynddo – Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Coleg Prifysgol Dulyn, Sefydliad Tyndall, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon (Galway) a Phrifysgol Caerdydd – wedi helpu mwy na 150 o gwmnïau ac wedi sefydlu 40 o brosiectau cydweithredol byrdymor a thymor canolig.

Mae Bangor yn arwain ar y thema newydd iechyd a lles ar gyfer rhan dau o'r project. Y prif ymchwilwyr yn y Brifysgol yw John Parkinson, Deon Coleg y Gwyddorau Dynol, Lynne Williams, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Iechyd, Jamie Macdonald, Pennaeth yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd a Gwyddorau Ymarfer Corff a Caroline Bowman, Pennaeth yr Ysgol Seicoleg. Byddent yn gweithio gyda chwmnïau bach a chanolig ar projectau megis lles o fewn y sefydliad, hyrwyddo iechyd a dylunio ac arloesi gwasanaethau.

Meddai John Parkinson, Deon Coleg y Gwyddorau Dynol ym Mhrifysgol Bangor: "Mae gan Brifysgol Bangor rôl bwysig i'w chwarae o ran cefnogi cydweithio ar draws y wlad, a rhwng Cymru ac Iwerddon. Mae cyfraniad Bangor o ran y bartneriaeth wedi esblygu i ddarparu arbenigedd o gwmpas iechyd a lles, felly trwy CALIN mae gennym hefyd gyfle euraidd i genfogi sefydliadau sy'n dod dros yr heriau yn sgîl Covid-19."

Tynnwyd sylw at CALIN  mewn datganiad cyffredin ffurfiol a luniwyd i gynyddu cydweithrediad rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon a'u partneriaid yn y sectorau busnes, chwaraeon a chymunedau, ynghyd â'r celfyddydau.

Meddai Cyfarwyddwr Strategol CALIN, yr Athro Steve Conlan, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Ymysg ei nodau cyffrous niferus, mae'r cynllun gweithredu hwn yn ceisio hyrwyddo cydweithrediad diwydiannol yn niwydiannau gwyddorau bywyd Cymru ac Iwerddon.

“Rydym yn falch bod CALIN wedi cael ei gydnabod fel cyfrwng i wneud hynny. Rydym wedi profi y gallwn sefydlu a chefnogi mentrau a datblygiadau newydd.

“Bydd sêl bendith y ddwy lywodraeth yn ein helpu i barhau i wneud hyn ac i fynd o nerth i nerth yn y maes hwn.”

A ydych chi'n gyfrifol am fusnes bach neu ganolig yn y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru neu Iwerddon? Os hoffech fod yn un o'r nifer cynyddol o fusnesau sy'n elwa o arbenigedd CALIN, yna cysylltwch â Carol Thomas  carol.thomas@bangor.ac.uk

Mwy o wybodaeth am brosiect CALIN

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2021