The Toddlers who took on Dementia

Rhaglen ddogfen gan BBC Cymru yw “The Toddlers who Took on Dementia”. Mae'n dilyn tri diwrnod o weithgareddau a drefnwyd i geisio archwilio'r hyn sy'n digwydd pan fydd plant meithrin a phobl sy'n byw gyda Dementia'n dod ynghyd.

Bu Seicolegwyr o Brifysgol Bangor yn gweithio gyda Chwmni Teledu Darlun i greu gweithgareddau sy'n rhoi diddordebau’r unigolion yn ganolog ac sy'n addas ar gyfer pob oedran. Roedd y tîm yn cynnwys yr Athro Emeritws Bob Woods, arbenigwr rhyngwladol mewn Therapi Ysgogi Gwybyddol a'r Dr Catrin Hedd Jones, ill dau o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a'r Dr Nia Williams, Seicolegydd Pant o'r Ysgol Addysg.

Roedd Rebecca Nicholson, Rheolwraig y Feithrinfa fu yn rhan o’r gwaith yn disgrifio fod y plant wedi wirioneddol fwynhau y profiad “anhygoel ac wedi elwa wrth fod yn rhan o brofiadau bywyd sydd yn allweddol i’w datlblygiad a’u addysg”.

Dywedodd Rheolwr y Ganolfan gofal dydd i’r Oedolion, Christine Williams, ynglŷn â'r profiad

"Rydym i gyd yn falch iawn o fod yn rhan o arbrawf mor gyffrous, roedd yn naturiol iawn ac roedd y canlyniadau a gawsom yn anhygoel. Yn awr rhaid i ni ail-feddwl yn genedlaethol ac yn rhyngwladol oherwydd fe aildaniodd y rhaglen hon deimladau a ddaeth â hapusrwydd i'r unigolion yr ydyn ni'n eu cefnogi, sy'n byw gyda Dementia."

Fe wnaeth cwmni teledu Darlun hefyd ran ariannu Myfyriwr Gradd Meistr i gloriannu'r arbrawf o dan cynllun Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2), a bu'n casglu data gan y plant a'r oedolion a fu'n cymryd rhan. Ar hyn o bryd mae Lynwen Hamer wrthi’n dadansoddi'r canfyddiadau fel rhan o'i gradd Meistr.

Ar sail llwyddiant eu gwaith hyd yn hyn mae Dr Jones hefyd yn arwain ymchwil newydd KESS2 mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Bydd yr ymchwil newydd yma'n dadansoddi’r elfennau sy'n sicrhau bod rhaglen sy'n Pontio'r Cenedlaethau rhwng plant ysgol gynradd ac oedolion hŷn yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy. Ar hyn o bryd mae'r tîm wrthi'n recriwtio ymchwilydd dwyieithog i ymuno â'r astudiaeth (http://kess2.ac.uk/buk2159/).

Mae’r rhaglen nos Fercher yn adeiladu ar y cyfres Hen Blant bach a ddaeth i S4C dros Rhagfyr 2016 a 2017 a sydd wedi ennill gworau rhyngwladol yn ddiweddar. Daeth i’r brig yn y Gwŷl Filmiau Geltaidd am Gyfres Ffeithiol Orau a cafwyd Medal Arian Rhyngwladol yng Ngwŷl Ffilm a Theledu Efrog Newydd yn 2018.

Caiff ‘The Toddlers who took on Dementia’ ei darlledu ddydd Mercher 23 Mai, BBC1 Cymru am 9pm, fel rhan o Wythnos Gweithredu Dementia.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ymchwil ar Ddementia sy'n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor dilynwch y ddoleni isod.

Nodyn pwysig i unrhyw un sy'n ystyried cyhoeddi'r datganiad hwn i'r wasg - mae pobl sydd â dementia yn meddwl bod geiriau fel 'dioddefwr' neu 'ddioddef' yn sarhaus o'u gweld nhw yn y cyfryngau ac mewn penawdau. Er mwyn peidio â defnyddio termau tramgwyddus wrth drafod dementia darllenwch y canllawiau a baratowyd gan bobl sy'n byw gyda dementia ar y ddolen gyswllt hon http://dementiavoices.org.uk/wp-content/uploads/2015/03/Deep-Guide-language.pdf

Links

• Cipolwg ar y rhaglen fydd ar BBC Wales https://twitter.com/twitter/statuses/998106710999994368

• Ysgoloriaeth newydd ar gyfer ymuno a tîm ymchwil Pontio’r Cenedlaethau

http://kess2.ac.uk/buk2159/

• Gwybodaeth am KESS2 http://kess2.ac.uk/cy/about/

• Safle wê ymchwil Dementia ym Mangor: http://dsdc.bangor.ac.uk/research.php.cy

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2018