Archwilio economeg technoleg arbed golwg

Bydd yr astudiaeth yn asesuw datblygu ac archwilio datblygiad clinigol dyfais Ultra-Sensitive OCT (US-OCT) sydd yn crey delweddau fel hyn.  Bydd yr astudiaeth yn asesuw datblygu ac archwilio datblygiad clinigol dyfais Ultra-Sensitive OCT (US-OCT) sydd yn crey delweddau fel hyn. Mae dros ddwy filiwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn colli eu golwg.  Bydd hyn yn dyblu i bron bedair miliwn erbyn 2050 wrth i'r boblogaeth heneiddio ac i achosion sylfaenol megis gordewdra a diabetes gynyddu.  Mae hyn yn rhoi pwysau enfawr ar wasanaethau gofal llygad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. 

Fe wnaeth adroddiad yn 2016 gan The Royal National Institute for the Blind (RNIB) dynnu sylw at y ffaith yr amcangyfrifir bod colli golwg yn costio dros £28 biliwn i economi'r Deyrnas Unedig.

Gall ymchwil i dechnoleg newydd i arbed golwg wella bywydau pobl sydd mewn perygl o golli eu golwg a hefyd arbed arian i'r GIG a'r economi'n ehangach.

Mae'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Moddion (CHEME), sy'n rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor, yn ymwneud ag ystod eang o ymchwil ym maes economeg iechyd, yn cynnwys astudiaethau i golli golwg.  Mae gan CHEME record dda o gyhoeddi astudiaethau economaidd ar ymyriad i atal a rheoli colli golwg, gan weithio'n ddiweddar gydag ysbyty llygad Moorfields ar yr astudiaeth CLARITY a gyhoeddwyd yn The Lancet  (http://www.thelancet.com/pdfs/journals/lancet/PIIS0140-6736(17)31193-5.pdf 

Mae dau ymchwilydd o CHEME, Seow Tien Yeo a'r Athro Rhiannon Tudor Edwards, yn gyd-ymchwilwyr ar yr astudiaeth tomograffeg cydlynedd optegol a gyllidir gan raglen Dyfeisio ar gyfer Arloesi NIHR-i4i (£1.3 miliwn).  Nod yr astudiaeth hon yw datblygu ac archwilio datblygiad clinigol dyfais Ultra-Sensitive OCT (US-OCT) i wella a rheoli afiechydon y llygaid. 

Meddai'r Athro Edwards: "Fel rhywun sydd â phrofiad personol o golli golwg, rwy'n falch bob amser i roi ein harbenigedd ym maes economeg iechyd a gwerthuso economaidd ar waith.  Gall diogelu golwg ac atal colli golwg gydol oes ddod â manteision enfawr i fywydau unigolion, i'r GIG ac i'r economi ehangach."

delweddau OCT  gan offer sydd eisoes ar  gael.delweddau OCT gan offer sydd eisoes ar gael.Meddai Mrs Yeo: "Byddwn yn asesu gwerth US-OCT, o'i gymharu ag OCT arferol, mewn rheoli afiechydon y llygaid.  Edrychir ar gost sgan llygad bob ymweliad ac ansawdd delweddau o'r llygaid a gynhyrchir gan yr US-OCT ac OCT arferol." 

Mae OCT yn offer delweddu anhepgor ar gyfer canfod afiechydon y retina a glawcoma a'u rheoli, tra bwriedir i US-OCT chwyldroi'r ffordd y caiff cyflyrau cornbilennol y llygaid eu canfod a'u rheoli.  

Mae hyn yn golygu y caiff meddygon sy'n defnyddio'r US-OCT olwg drawstoriadol, diogel ac anymwthiol o'r cornbilen - biopsi rhithwir - tra bydd cleifion yn elwa oddi wrth ganfod afiechydon yn gynharach, monitro eu llygaid yn fwy cywir a rheoli eu cyflyrau mewn ffordd fwy personol. 

Meddai Dr Yalin Zheng, Prif Ymchwilydd yr astudiaeth o Adran Gwyddor Llygaid a Golwg Prifysgol Lerpwl:  "Mae OCTs eisoes wedi trawsnewid y ffordd rydym yn canfod a thrin cyflyrau llygaid, ond ein nod yw datblygu system a fydd yn mynd â hynny i'r lefel nesaf.  Trwy ymdrin mewn dull gwahanol i systemau eraill sydd ar y farchnad rydym yn datblygu sganiwr OCT sy'n cynnig uwch dechnoleg sganio ac sydd hefyd yn ymarfer i'w ddefnyddio'n fasnachol."

Rgiannon Tudor Edwards ( chwith) a Seow Tien Yeo.Rgiannon Tudor Edwards ( chwith) a Seow Tien Yeo.Os oes gennych ymholiadau pellach, cysylltwch â Seow Tien Yeo ( s.t.yeo@bangor.ac.uk ) neu'r Athro Rhiannon Tudor Edwards @ProfRTEdwards (r.t.edwards@bangor.ac.uk ). Ewch i http://cheme.bangor.ac.uk/ neu dilynwch ni ar Twitter yn: https://twitter.com/CHEMEBangor . 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2017