Mae nyrsio ym Mhrifysgol Bangor yn mynd o nerth i nerth, ond bydd nifer cyfyngedig o leoedd ar gael yn ystod y broses glirio.

Mae'r Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn tablau cynghrair prifysgolion yn ddiweddar tra mae'r campws yn Wrecsam yn parhau i elwa o fuddsoddiad pellach. Roedd yr ysgol hefyd yn falch iawn o'r cynnydd sylweddol yn nifer y lleoedd i fyfyrwyr a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, sy'n golygu bod gan ei chyrsiau rhagorol, ar gampws Bangor a Wrecsam, leoedd ychwanegol ar gyfer mynediad ym mis Medi 2016 a mis Ebrill 2017.

Yn y "Complete University Guide 2017", rhoddwyd Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Bangor yn y 3ydd safle am gyrsiau nyrsio yn y DU. Rhoddwyd y cwrs radiograffeg yn y safle 1af yn y DU yn yr un tabl cynghrair. Mae hyn yn dilyn canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 pan gafodd  ymchwil ym maes iechyd ym Mhrifysgol Bangor ei chydnabod fel ymchwil "o ansawdd ragorol" a 95% ohono fel ymchwil sy'n arwain yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol.   Ar ôl i ganlyniadau REF 2014 ymddangos, dywedodd yr Athro Jo Rycroft-Malone, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil: "Mae'r canlyniad hwn yn adlewyrchu arbenigedd ac ymroddiad ein staff ac yn cadarnhau ein huchelgais i barhau yn rym amlwg ym maes ymchwil iechyd."  Mae rhagoriaeth ymchwil yr ysgol yn sicrhau bod y ddarpariaeth yno yn seiliedig ar dystiolaeth ac arferion modern mewn gofal iechyd ond mae hefyd wedi gwella ansawdd y gofal i gleifion yng ngogledd Cymru, ledled y DU a thu hwnt.

Mae'r buddsoddiadau diweddar ar gampws Canolfan Archimedes Wrecsam y brifysgol, lleoliad y cyrsiau Radiograffeg Ddiagnostig, Nyrsio Oedolion, Nyrsio Iechyd Meddwl a Nyrsio Plant ers dros 20 mlynedd, yn cyd-fynd â'r canlyniadau hyn. Mae cyfanswm y buddsoddiad dros £200K ac mae'n cynnwys offer dysgu radiograffeg ymarferol newydd, yn cynnwys Phantoms, trwy sgriniau a monitorau LED newydd, gwaith uwchraddio sylweddol i'r rhwydwaith TG i wella'r gwasanaeth di-wifr, a mwy o ystafelloedd dysgu yn cynnwys darlithfa gyda seddi ar wahanol lefelau a lle i 150.  Bydd y newidiadau hyn yn gwella ymhellach y profiad dysgu i fyfyrwyr.

Mae'r Athro Chris Burton, Pennaeth Gwyddorau Gofal Iechyd, yn falch iawn o lwyddiant yr ysgol ac mae'n dweud bod y llwyddiant hwnnw wedi dod yn sgil y buddsoddiad parhaus: "Mae canlyniadau'r 'Complete University Guide' diweddaraf yn cydnabod ymrwymiad pob aelod staff yn yr ysgol i ragoriaeth ym maes dysgu ac addysgu. Rydym wedi buddsoddi adnoddau sylweddol i wella'r cyfarpar a'r gwasanaethau sydd ar gael i'n myfyrwyr. Ein huchelgais yw parhau i weithio mewn partneriaeth gyda'n myfyrwyr i sicrhau eu bod yn cael eu paratoi i fod yn arweinwyr yn y proffesiwn maent wedi ei ddewis ym maes gofal iechyd".

Meddai Stephanie, myfyrwraig nyrsio oedolion yn ei thrydedd flwyddyn, a gafodd grant o £5000 tuag at ei phroject therapi creadigol: ‘’ Mae'r cyfleusterau addysgu a dysgu yn Wrecsam wedi gwella'n aruthrol ers i mi ddechrau fy astudiaethau. Mae'r llyfrgell a'r staff yn Wrecsam yn wych ac yn barod iawn eu cymwynas."

Dywedodd Robson, myfyriwr nyrsio oedolion fydd yn gorffen ei gwrs ym mis Mai 2017, ei fod wedi cael amser gwych ar gampws Wrecsam: ‘’Mae'r dysgu wedi bod yn ardderchog gan fod y staff yn rhagorol, ac mae'r lleoliadau clinigol rwyf wedi eu gwneud wedi bod yn ardderchog hefyd."

Er gwaethaf y ffaith bod y llwyddiannau diweddar wedi gwneud y cyrsiau yn fwy poblogaidd, mae'r lleoedd ychwanegol yn golygu y bydd cyfle i fyfyrwyr cymwys addas wneud cais yn ystod y broses glirio am le naill ai ym mis Medi neu ym mis Ebrill  (Oedolion ac Iechyd Meddwl) ym Mangor a Wrecsam. Ar ôl canlyniadau Lefel A eleni, a gyhoeddir ddydd Iau 18 Awst, annogir darpar fyfyrwyr i gysylltu â Llinell Gymorth Derbyniadau Prifysgol Bangor ar 0800 085 1818. Fel arall, gellir mynd i'r dudalen clirio trwy wefan y brifysgol, neu os oes gennych eisoes gymhwyster mynediad addas ac yr hoffech drafod eich opsiynau, byddai'r ysgol yn falch o glywed gennych ar 0800 085 1818 neu gallwch anfon e-bost i admissions.health@bangor.ac.uk gan nodi a hoffech astudio ym Mangor neu Wrecsam.

Paratowyd gan Mark Barrow, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2016