Prifysgol Bangor yn lansio Canolfan Gwerth Cymdeithasol newydd

Ddydd Mawrth, 11 Mehefin, bydd Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor yn lansio Canolfan Gwerth Cymdeithasol newydd.

Rydym yn lansio'r Ganolfan Gwerth Cymdeithasol oherwydd y galw cynyddol sydd am atebolrwydd mewn sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector, a'r angen i raglenni a ariennir ddangos 'tystiolaeth o effaith gymdeithasol'.

Bydd y digwyddiad yn disgrifio'r gwaith sydd ar y gweill gan y Ganolfan Gwerth Cymdeithasol, a bydd yn lansio partneriaeth gyda phroject 'Gogledd Cymru Well' Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae’r siaradwyr yn cynnwys:

  • Ben Carpenter (Prif Swyddog Gweithredol Social Value UK)
  • Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Eleri Lloyd (Rheolwr Gwerth Cymdeithasol, Mantell Gwynedd)
  • Glynne Roberts, Cyfarwyddwr, Gogledd Cymru Well

Mae croeso i'r cyhoedd.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle

Diben y Ganolfan yw cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i sefydliadau lleol a rhanbarthol, a'u galluogi i gloriannu a chyfleu'r newidiadau cadarnhaol y maent yn eu creu yn eu cymunedau. Mae'r Ganolfan yn darparu fframwaith i sefydliadau ar gyfer mesur newid mewn ffyrdd sy'n berthnasol i'w rhanddeiliaid.

Mae'r Ganolfan yn defnyddio dulliau ansoddol, meintiol ac ariannol, i wneud dadansoddiad o werth cymdeithasol cadarn sy'n disgrifio sut mae newid yn cael ei greu ar gyfer y bobl sy'n elwa ar weithgareddau a rhaglenni a gyflwynir gan sefydliadau.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2019