Dyfarnu Aur i Fangor

Mae hon yn stori newyddion o 2018. Cafodd Brifysgol Bangor wobr Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu o Mai 2017 - Awst 2021.
 
Mae safon Aur wedi ei dyfarnu i Brifysgol Bangor yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.
 
Mae’r fframwaith yn asesu prifysgolion yn erbyn amrediad o feini prawf ac mae’n rhan o  gynlluniau Llywodraeth y DU i godi safonau mewn addysg uwch. Mae hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sydd yn penderfynu pa brifysgol i fynd iddi, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.
 
Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn  darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.

Mae prifysgolion yn cael eu hasesu yn ôl tri phrif gategori, Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol.

Mae’r Llywodraeth wedi datgan y bydd y fframwaith yn cynyddu ansawdd yn y sector, gan wella dewis i fyfyrwyr ac, yn hanfodol, ganlyniadau myfyrwyr  yr un pryd. Maent yn  ychwanegu y bydd y fframwaith yn rhoi gwybodaeth glir a dealladwy i fyfyrwyr lle mae’r dysgu gorau i’w gael.

Meddai Is- ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G. Hughes: “Mae Bangor wedi cynnal ymrwymiad cryf i ddarparu profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr ers degawdau. Nid yn unig rydym yn cyplysu ymchwil a dysgu, ond rydym hefyd yn darparu gofal bugeiliol personol, ac yn darparu amrywiaeth ac arbrofi yn ein haddysgu a dysgu.

“Rydym yn credu’n gryf bod myfyrwyr yn haeddu cael eu profi a’u hymestyn gan sialensiau deallusol datrys problemau sylweddol o fewn eu disgyblaethau.

“Ar draws y Brifysgol, nod ein cyrsiau yw meithrin perthynas agos gyda’n cymuned ymchwil weithgar er mwyn cefnogi dysgu ein myfyrwyr. Trwy gyrsiau sgiliau ymchwil ac, yn y pen draw, broject ymchwil annibynnol, (traethawd hir, project grŵp neu gloriannu ymarfer), mae’r cyrsiau gradd ar draws ein meysydd pwnc yn galluogi ein myfyrwyr i  feistroli amrediad o sgiliau a dulliau ymchwil.”

“Mae’r dyfarniad Aur yn adlewyrchu perfformiad nodedig Prifysgol Bangor a hoffwn longyfarch pawb yn y Brifysgol am eu gwaith ar ran ein myfyrwyr.”

Meddai Gweinidog Llywodraeth y DU ac AS Aberconwy, Guto Bebb, wrth drafod y llwyddiant diweddaraf hwn:

"Mae'r wobr hon yn haeddiannol ac yn anfon neges i ddarpar fyfyrwyr ar draws y byd bod Cymru yn gyrchfan gwych ar gyfer addysg uwch. Mae hefyd yn dangos i gyflogwyr a busnesau tramor sy’n bwriadu buddsoddi yng Nghymru bod ein myfyrwyr o'n prifysgolion yn cael eu hyfforddi i'r safonau uchaf bosibl. "

Dangosodd yr adroddiad fod myfyrwyr o bob cefndir yn cyflawni canlyniadau rhagorol yn gyson, a bod dal gafael, dilyniant i gyflogaeth sgiliau uchel neu astudio pellach, a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i gyd yn uwch na’r meincnod. Mae’r brifysgol â lefelau rhagorol cyson am foddhad myfyrwyr, gyda dysgu, asesu ac adborth a chefnogaeth academaidd yn mynd y tu hwnt i feincnod y darparwr.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017