Llwybr newydd yn arwain at yrfa mewn nyrsio

Rhaglen Diploma Ôl-radd mewn Nyrsio Oedolion gan Brifysgol Bangor yw'r cwrs cyntaf o'i fath yng ngogledd Cymru. Mae'n cynnig llwybr carlam dwy flynedd i raddedigion diweddar ym maes gwyddor bywyd a gwyddorau cymdeithas allu cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Mae'r cwrs ôl-radd newydd hwn yn diwallu angen sy'n cynyddu. Yn ôl adroddiadau diweddar, meddai Stephanie Aiken, Dirprwy Gyfarwyddwr Nyrsio yn y Coleg Nyrsio Brenhinol na fydd nifer y nyrsys sy'n graddio yn cyfateb i nifer y rhai sy'n gadael.

Mae darparu llwybrau newydd i fod yn nyrs gofrestredig yn bwysig yn wyneb gweithlu sy'n heneiddio a'r nifer uchel o nyrsys cofrestredig sy'n ymddeol o'r proffesiwn.

Mae gan raddedigion nyrsio Prifysgol Bangor record ragorol o ddod o hyd i waith ar ôl graddio.  Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnal ymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw i gefnogi eu hymdrechion recriwtio ac mae'r rhaglen newydd hon yn cynnig ffynhonnell arall o ddarpar nyrsys i ranbarth gogledd Cymru. 

Prifysgol Bangor yw'r unig ddarparwr cyrsiau sydd wedi eu comisiynu a'u hariannu gan fwrsariaeth yng ngogledd Cymru, gyda myfyrwyr yn cael eu lleoli mewn lleoliadau clinigol ar draws y bwrdd iechyd.  Yn wahanol i Loegr, mae Cymru wedi cael cadw bwrsariaethau'r GIG i gyrsiau Baglor mewn Nyrsio ac mae hyn bellach yn cynnwys y Diploma Ôl-radd mewn Nyrsio Oedolion.  Telir ffioedd yr ymgeiswyr llwyddiannus a byddant yn derbyn cyfraniad at eu costau byw tra byddant yn cwblhau eu cwrs ôl-radd neu israddedig.

Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd wedi llwyddo i osgoi'r dirywiad a welwyd yn Lloegr ers dileu'r bwrsariaethau ffioedd a chostau byw yno, gyda cheisiadau'r llynedd wedi codi 14% yn gyffredinol, ac mae'n edrych yn debyg y caiff y cynnydd hwnnw ei gynnal ar gyfer mynediad yn 2018.  Mae parhad bwrsariaethau'r GIG ym Mangor yn newyddion arbennig o dda i fyfyrwyr hŷn gan fod tystiolaeth yn dod i'r amlwg yn Lloegr eu bod yn cael eu heffeithio mwy na'r rhai sy'n gadael yr ysgol trwy golli'r bwrsariaethau, meddai Dr Aiken o'r Coleg Nyrsio Brenhinol "Mae gan lawer o fyfyrwyr hŷn eisoes gyfrifoldebau gofalu ac felly ni allant fforddio talu eu ffordd trwy brifysgol ar ben hynny."

Mae nifer y lleoedd a gomisiynwyd ar gyfer rhaglenni nyrsio ym Mhrifysgol Bangor wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ar gampws y brifysgol ger Ysbyty Maelor yn Wrecsam ac ar y prif gampws ym Mangor.  Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn dal i dderbyn ceisiadau am raddau nyrsio mewn Iechyd Meddwl, Anabledd Dysgu a Nyrsio Oedolion ar gyfer dyddiadau dechrau ym mis Ebrill a mis Medi.

Hefyd, cynhelir Diwrnod Agored Nyrsio Anabledd Dysgu ar gampws Wrecsam ddydd Sadwrn 10 Chwefror lle gall darpar ymgeiswyr, yn enwedig y rhai sydd â diddordeb mewn dechrau ym mis Ebrill 2018, ddod i gyfarfod â staff a chael gwybod mwy am nyrsio Anabledd Dysgu a diwrnod blasu ehangach ar gampws Wrecsam ddydd Iau 8 Chwefror. Ceir rhagor o wybodaeth, gan gynnwys archebu ar-lein, ar wefan yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn yr adran ddigwyddiadau

Mae parhad y bwrsariaethau yng Nghymru, cyrsiau newydd fel y Diploma Ôl-radd a'r cyrsiau gradd a gyflwynir ym mis Ebrill a mis Medi ar gampws  Bangor a Wrecsam yn chwarae rhan arwyddocaol yn y gwaith o addysgu nyrsys y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2018