Ymchwil arloesol Canolfan yn helpu i lunio strategaeth y dyfodol ar gyfer heneiddio yng Nghymru

Cofrestrydd Prifysgol Abertawe, Andrew Rhodes, y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan, yr Athro Vanessa Burholt, Cyfarwyddwyr CADR, a Chyfarwyddwyr Cysylltiol CADR, yr Athro Gill Windle o Brifysgol Bangor, a Dr Rebecca Sims o Brifysgol Caerdydd.Cofrestrydd Prifysgol Abertawe, Andrew Rhodes, y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan, yr Athro Vanessa Burholt, Cyfarwyddwyr CADR, a Chyfarwyddwyr Cysylltiol CADR, yr Athro Gill Windle o Brifysgol Bangor, a Dr Rebecca Sims o Brifysgol Caerdydd.Bydd canolfan ymchwil arloesol - y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) a arweinir gan Brifysgol Abertawe ar y cyd gyda Phrifysgolion Bangor a Chaerdydd, yn chwarae rôl allweddol wrth lunio dyfodol gofal pobl hŷn yng Nghymru.

Meddai'r Dirprwy Weinidog Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

"Mae'r gwaith mae CADR yn ei wneud ar heneiddio yn hollbwysig, ac mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymedig iawn i weithio yn y maes hwn." 

Gan siarad yn ystod ymweliad â'r Brifysgol i gasglu gwybodaeth, meddai: 

"Gan fod cynifer o bobl yn byw gymaint yn hirach nawr, mae'n amlwg ein bod yn awyddus iddynt allu byw bywydau da ac iach. Mae ymchwil yn dangos nad yw blynyddoedd olaf bywydau pobl bob amser yn iach.” 

‘Rhagorol’ oedd y gair a ddefnyddiodd i ddisgrifio gwaith y Ganolfan, a dywedodd:

"Bydd yn helpu Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth, nid yn unig ar gyfer heneiddio ond ar gyfer unigrwydd ac arwahanrwydd hefyd." 

Ar ôl cael ei chroesawu gan yr Athro Vanessa Burholt, Cyfarwyddwr CADR, a Chofrestrydd y Brifysgol,  Andrew Rhodes, cafodd Mrs Morgan gyfle i gwrdd ag aelodau tîm y Ganolfan a chlywed am ei phrosiectau diweddaraf. 

Esboniodd aelodau CADR sut maent yn cynnwys y cyhoedd i sicrhau bod ymchwil y Ganolfan yn diwallu anghenion pobl hŷn, pobl â dementia a gofalwyr. 

Wrth weithio gyda llunwyr polisi ac ymarferwyr, defnyddir ymchwil CADR i wella gwasanaethau i bobl hŷn yng Nghymru. 

Meddai'r Dirprwy Weinidog, 

"Un o'n syniadau y tu ôl i ddatganoli oedd dod â llunwyr polisi ac ymarferwyr yn nes at y bobl, a dwi'n meddwl bod hwn yn un o lwyddiannau mawr datganoli  - ein gallu i gyfathrebu." 

Fel aelod o grŵp trawsbleidiol Llywodraeth Cymru ar ddementia, mae Mrs Morgan yn rhan o drafodaethau am faterion sy'n effeithio ar bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru ac yn argymell gwelliannau. 

Sefydlwyd CADR yn 2015 ac mae'n gydweithrediad rhwng prifysgolion Abertawe, Bangor a Chaerdydd. Mae'r ganolfan ymchwil hon o safon fyd-eang yn dod â gwyddonwyr sy'n arbenigo mewn sawl maes ymchwil ynghyd - gan gynnwys geneteg, seicoleg, gwyddor gymdeithasol a pholisi cymdeithasol - i fynd i'r afael â chwestiynau pwysig ym maes heneiddio a dementia.

Meddai'r Athro Burholt: "Mae CADR yn datblygu math newydd o ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol sydd â gweledigaethau newydd i ddatrys heriau gwyddonol y dyfodol.

"Rydym wedi gallu creu partneriaethau a chydweithrediadau ymchwil â'r GIG, y llywodraeth, diwydiant a'r trydydd sector, gan arwain at fanteision go iawn o ran iechyd, lles ac annibyniaeth pobl hŷn,"

Meddai'r Athro Gill Windle Cyfarwyddwr Cysytlltol ac Athro Ymchwil Heneiddio a dementia, Prifysgol Bangor: 

“Roedd yn wych gallu rhannu rhywfaint o'n gwaith ym Mangor ar heneiddio a dementia gyda'r Gweinidog. Aeth y cyfarfod yn dda ac roedd gan y Gweinidog ddiddordeb mawr yn ein hymchwil.”

Yn dilyn ymweliad Mrs Morgan, cynhaliodd y Ganolfan ddigwyddiad agored â'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth am ei gwaith a'i hymchwil diweddaraf.

Amlygodd y Ganolfan gyfleoedd sydd ar gael i'r cyhoedd fod yn rhan o waith CADR, megis bod yn aelodau'r Bwrdd Ymgynghorol neu helpu i ddatblygu a llywio ymchwil i heneiddio ag anabledd, gwybodaeth adeg gadael yr ysbyty, yr iaith Gymraeg mewn cyd-destunau gofal, a materion ym maes dementia ac ymataliaeth.   Mae hefyd yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr newydd ar gyfer ei Grŵp Aelodau Lleyg, sy'n sicrhau y defnyddir Saesneg clir wrth ysgrifennu canfyddiadau ac adroddiadau ymchwil.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2019