Cwrs Ar-lein Enfawr Agored yr Ysgol Gwyddorau Iechyd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Nursing Times 2020

Mae Cwrs Ar-lein Enfawr Agored, neu MOOC o ddefnyddio’r enw cyffredin ar ei gyfer, a ddatblygwyd gan staff yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, gyda Bethan Jones o'r Tîm Technoleg Dysgu ar y cyd â Tracey Cooper, Cyfarwyddwr Dros Dro Atal a Rheoli Heintiau, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Llym Swydd Gaerwrangon wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau'r Nursing Times eleni.

Lluniwyd y MOOC yn wreiddiol dair blynedd yn ôl fel rhan o broject ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a hynny fel cwrs dysgu o bell sy'n cynnig unedau dysgu byr sy'n canolbwyntio ar wella gwybodaeth am egwyddorion atal heintiau, arweinyddiaeth, newid ymddygiad, hyrwyddo a chyd-destun y gweithle. Eleni, mae'r hwyluswyr Dr Jaci Huws, Dr Lynne Williams a Tracey Cooper wedi gweld cynnydd digynsail mewn ceisiadau a byddant yn parhau i sicrhau bod y MOOC yn canolbwyntio ar hyrwyddo diogelwch cleifion, ac yn darparu profiad addysgol ansawdd hyblyg ac o ansawdd uchel i gyfranogwyr ar draws meysydd iechyd a gofal mewn perthynas ag atal a rheoli heintiau. Mae'r MOOC hefyd ar gael i’w ddilyn trwy gyfrwng Cymraeg.

Dywed Bernard Ojiambo Okeah, cyfranogwr blaenorol ac aelod newydd o dîm y MOOC:

 “Roedd y cwrs MOOC yn wirioneddol wych ac yn ymdrin ag agweddau perthnasol ar atal a rheoli heintiau, a chefais fy mharatoi yn dda ar gyfer fy rôl bresennol yn y maes yma o ymarfer clinigol. Hefyd, roedd yr adnoddau dysgu yn gynhwysfawr, yn hawdd eu defnyddio, ac yn caniatáu hyblygrwydd dysgu. Roedd y MOOC yn cael ei gyfoethogi gan brofiadau amrywiol dysgwyr eraill o bob cwr o'r byd, gan wneud y cwrs yn un gwerth chweil.”  

"Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a diolch i bawb a fu’n rhan o wobrau Nursing Times 2020." meddai golygydd Nursing Times, Steve Ford.

“Mae'r her o fynd i'r afael â Covid-19, a ddaeth ar ein gwarthau yn ystod Blwyddyn Ryngwladol Nyrsys a Bydwragedd, wedi arddangos y gwaith gwych a’r arloesi sy’n cael ei wneud gan nyrsys ledled y DU.

"Mae Gwobrau'r Nursing Times yn rhoi cyfle gwych i ni ddathlu llwyddiannau eithriadol y proffesiwn mewn blwyddyn anodd iawn, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddi pwy yw’r enillwyr."

Cynhelir gwobrau'r Nursing Times ers 30 mlynedd a dyma’r gwobrau uchaf eu parch a’r mwyaf perthnasol yn y sector nyrsio a gofal iechyd, ac maent yn cynrychioli rhagoriaeth wirioneddol mewn nyrsio a gofal cleifion. Cynhelir y gwobrau mewn digwyddiad arbennig ar nos Fercher 14 Hydref yng Ngwesty Grosvenor House, Park Lane, Llundain.

Am ragor o fanylion gweler: https://www.bangor.ac.uk/health-sciences/events/infection-prevention-best-practice-and-behaviours-mooc-39343

Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2020