Tynnu sylw at brojectau partneriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Bangor

Rhoddir sylw i brojectau cyffrous a wneir mewn partneriaeth rhwng academyddion Prifysgol Bangor a chymunedau, elusennau, cyrff llywodraethol a busnesau, yn lleol ac yn rhyngwladol, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener (8 Rhagfyr).

Canolbwyntir ar 17 allan o 52 project yn y digwyddiad, gyda phob un ohonynt wedi eu hariannu drwy Gyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd Prifysgol Bangor yn un o 24 prifysgol yn y DU a enillodd grant Cyfrif Cyflymu Effaith gan yr ESRC, sef un o brif Gynghorau Ymchwil y DU sy’n ariannu ymchwil ym mhrifysgolion y DU. Dyfarnwyd y grant yn wreiddiol i Brifysgol Bangor yn 2014, ac mae bellach wedi cael ei ymestyn hyd at fis Mawrth 2019, gan ddod ag oddeutu £950,000 i gyllido effaith ymchwil cymdeithasol ac economaidd Prifysgol Bangor.

Mae’r cyllid yn galluogi’r Brifysgol i fod yn arloesol yn y ffordd y mae ymchwil gwyddorau cymdeithas ac economaidd yn cael ei ddefnyddio yn y byd go iawn.

Ymysg y gwaith sy’n cael ei wneud mae dau broject sy’n canolbwyntio ar greu cymunedau mwy cefnogol i bobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn yr ardal; project i gefnogi eco-dwristiaeth yng Ngwarchodfa Biosffer Yr Horn UNESCO ar benrhyn De America; a phroject i gefnogi rhannu hadau reis cynaliadwy sy’n gallu gwrthsefyll sychder yn Odisha, India.

Mae’r projectau hyn yn cwmpasu meysydd strategol Cyfrif Cyflymu Effaith ESRC y Brifysgol, sef iechyd, lles ac ymddygiad; ynni, yr amgylchedd a chynaliadwyedd; treftadaeth, iaith a diwylliant; hawliau dynol, diogelwch a chymdeithas, addysg, cyflogaeth a’r economi; a chyfathrebu, creadigrwydd a chysylltedd.

Mae croeso i fusnesau, elusennau a sefydliadau’r llywodraeth sy’n awyddus i gydweithio gyda Chyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC ym Mhrifysgol Bangor, gyda’r posibilrwydd o gael mynediad at grantiau sylweddol yr ESRC, gysylltu â Jean Sherry, Rheolwr Project y Cyfrif drwy e-bost ar esrciaa@bangor.ac.uk.

Cynhelir y Digwyddiad Dathlu Cyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor ddydd Gwener 8 Rhagfyr 2017, 10am - 15.30pm yn Neuadd Reichel, Ffordd Ffriddoedd, Bangor. Mae mynediad am ddim a chroeso i bawb.

Cyllidir y digwyddiad hwn a’r projectau y rhoddir sylw iddynt gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor. Dilynwch y Cyfrif ar Twitter ar @BangorIAA.

Meddai’r Athro Jo Rycroft-Malone, Dirprwy Is-ganghellor, Ymchwil ac Effaith ym Mhrifysgol Bangor:

“Mae Cyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor wedi ein helpu i sicrhau bod ein hymchwil yn cael yr effaith fwyaf bosib ar gymdeithas a’r economi. Yn y digwyddiad hwn byddwn yn  cydnabod a dathlu’r effaith y mae ymchwil Prifysgol Bangor yn ei gael ar ystod eang o  feysydd yn cynnwys gofal dementia a chynhyrchu reis cynaliadwy. Mae’r enghreifftiau hyn yn tynnu sylw at  gymaint o wahaniaeth y gall ymchwil ei wneud ar fywydau pobol.”

 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017